Cogydd Cynorthwyol
4 weeks ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo digwyddiad ar gyfer cyfarfodydd busnes.
**Am Y Swydd**
Wedi ei leoli yn Ysgol Gynradd Llwynbedw, Heol Llwynbedw, Llwynbedw, Caerdydd, CF14 1RR, bydd y Cogydd Cynorthwyol yn gyfrifol am gynorthwyo Rheolwr y Gegin gyda phob agwedd ar y gweithgareddau busnes a gwasanaeth yn y cyfleuster arlwyo.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Y gallu i addasu i fodloni anghenion y gwasanaeth.
Canolbwyntio ar gwsmeriaid yn sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol
Gallu gweithio’n agos gyda’ch cydweithwyr fel rhan o dîm neu ar eich menter eich hun
Yn agored i newid a ffyrdd gwahanol o weithio
Yn gefnogol o’ch cydweithwyr gydag agwedd gadarnhaol at sicrhau gwasanaeth dosbarth cyntaf
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.
Swydd ran amser yw hon, a bydd y deiliad yn gweithio 20 awr yr wythnos, 4 awr y dydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio 39 wythnos y flwyddyn yn ystod y tymor.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: EDU00450
-
Cogydd Cynorthwyol
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo digwyddiad ar gyfer cyfarfodydd busnes. **Am Y Swydd** Bydd...
-
Cogydd Cynorthwyol
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes. **Ynglŷn...
-
Cogydd Cynorthwyol
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes. **Am Y Swydd** Yn...
-
Cogydd Cynorthwyol
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes. **Am Y Swydd** Yn...