Aseswr Adeiladu
2 months ago
**Swydd Wag Fewnol / Allanol**
**Ref: 11576**
**Teitl y Swydd: Aseswr Adeiladu / Sicrwydd Ansawdd Mewnol**
**Contract: Amser llawn, parhaol**
**Cyflog**:£30,313 - £32,313**
**Lleoliad**:Coleg Caerdydd a’r Fro**
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a fydd yn cefnogi dysgwyr yn y gweithle i gyflawni fframweithiau perthnasol. Bydd y rôl yn cynnwys asesu dysgwyr ar gymwysterau adeiladu hyd at lefel 3. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi’i (l)leoli ar ein Campws Canol Dinas ond bydd disgwyl iddo/iddi fynd i gampysau eraill yn ôl yr angen.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am asesu nifer o ddysgwyr ac am eu dilyniant, i gael cyflawni’r dangosyddion perfformiad allweddol penodol a fydd yn cynnwys recriwtio dysgwyr, monitro eu dilyniant ac ennill y cymhwyster er mwyn cwrdd â gofynion y contract.
Ymhlith y cyfrifoldebau eraill bydd:
- Sicrhau cydymffurfiad â gofynion y contract ym mhob rhan o siwrnai’r dysgwyr a fydd yn cynnwys, ond a fydd heb fod yn gyfyngedig i archwilio a monitro iechyd a diogelwch, profion WEST, a gwaith papur cofrestru dysgwyr a dysgwyr yn gadael, ac ar adolygu rhaglenni.
- Cyflawni IQA (Sicrwydd Ansawdd Mewnol) yn unol â gofynion y Corff Dyfarnu a chyfarwyddyd y Rheolwr Llinell. Bydd y dyletswyddau hyn yn cynnwys mynd i gyfarfodydd sicrhau ansawdd.
- Ymgysylltu â chyflogwyr pan fyddwch ar ymweliadau i gael hyrwyddo dysgu yn y gweithle. Ymdrin ag awgrymiadau ac ymholiadau mewn modd amserol.
- Datblygu llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol y dysgwyr.
Yn ogystal, mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon.
Rhaid gwneud cais drwy ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a’r Fro yn unig. Ni dderbynnir ceisiadau CV. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau yn y Saesneg. Os byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os byddwch am gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn Gymraeg.
**01/08/2023 yw’r dyddiad olaf i dderbyn ffurflenni cais cyflawn am 12:00**
Bydd cael swydd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn amodol ar wiriad cyfredol dilys y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bydd rhaid boddhau’r amod hwn yn rhan o’ch contract cyn dechrau gweithio. Mae gweithdrefn y Coleg ynglyn ag Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.
Er mwyn i chi fod yn gallu gweithio yma, rhaid i ni dderbyn geirda oddi wrth ddau ganolwr, gan gynnwys un oddi wrth eich cyflogwr presennol neu eich cyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â’r rhain pan wneir y penodiad.
Mae’r swydd yn amodol ar gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
**Bydd rhaid boddhau’r amodau hyn yn rhan o’ch contract cyn dechrau gweithio.**
Rydym yn ymrwymedig i recriwtio a chadw pobl ag anabledd ac rydym yn gyflogwr sydd â hyder mewn pobl ag anabledd.
-
Aseswr Adeiladu
24 hours ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time**Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Ref: 11576** **Teitl y Swydd: Aseswr Adeiladu / Sicrwydd Ansawdd Mewnol** **Contract: Amser llawn, parhaol** **Cyflog: £32,283 - £34,433 per annum** **Lleoliad: Coleg Caerdydd a’r Fro** Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a fydd yn cefnogi dysgwyr yn y gweithle i gyflawni fframweithiau...
-
Swyddog Prosiect
2 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Cyfleusterau i'r Anabl yn darparu dros 3000 o addasiadau bob blwyddyn i drigolion anabl, oedrannus a bregus yng Nghaerdydd. Darperir addasiadau drwy gyfuniad o grantiau a benthyciadau. Mae'r Gwasanaeth hefyd yn darparu benthyciadau gwella eiddo domestig a grantiau ledled y Ddinas. **Am Y Swydd** Mae’r Gwasanaeth...
-
Syrfewr Tai
1 week ago