Rheolwr Comisiynu

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Oherwydd ail-strwythuro’r gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw newydd ar gyfer Rheolwr Comisiynu sydd wedi cymhwyso'n briodol i arwain ar gomisiynu a rheoli gwasanaethau proffesiynol allanol.

Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a darparu ystod eang o brosiectau sy’n gysylltiedig ag adeiladau ar draws ystadau ysgol ac adeiladau corfforaethol y Cyngor. Mae'r Tîm yn mabwysiadu dull aml-ddisgyblaeth er mwyn sicrhau bod ystod eang o amcanion polisi'r Cyngor yn cael eu hystyried yn llawn. O ran hyn, mae nodau cynaliadwyedd, ynni, iechyd a diogelwch, gwastraff a lleihau carbon y Cyngor, ochr yn ochr â’i amcanion cynhwysiant, buddiannau cymunedol, lles a hygyrchedd, i gyd yn cael eu hystyried a’u cymhwyso i gyflawni prosiectau ar amser, o fewn cyllideb ac i’r ansawdd gofynnol.

**Am Y Swydd**
Prif bwrpas y swydd yw sicrhau comisiynu a rheoli gwasanaethau proffesiynol yn effeithiol, i ategu a chynorthwyo'r gwasanaethau hynny sy'n cael eu cyflawni gan dimau mewnol, gyda'r amcan o ddarparu ystod o brosiectau cysylltiedig ag adeiladu i safon gyson uchel yn unol â gofynion y cwsmer. Bydd y gwasanaethau a gomisiynwyd yn allanol yn cynnwys, ymhlith eraill: ymchwiliad safle ac arolygon amgylcheddol; dichonoldeb technegol ac asesu; dylunio; rheoli contractau, rheoli costau a gwasanaethau goruchwylio.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn cynorthwyo'n rhagweithiol gyda, ac yn arwain lle bo angen, comisiynu contractau gwaith adeiladu i sefydliadau contractwyr allanol.

Pecyn Buddion y Cyngor
- 27 diwrnod o wyliau blynyddol, gan godi i 32 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth;
- pensiwn cyfrannol hael;
- cynllun ildio cyflog CGY (drwy bartneriaeth ag AVC Wise);
- mynediad am bris gostyngol i rai o Ganolfannau Hamdden y Cyngor;
- tocynnau bws blynyddol am bris gostyngol;
- cefnogaeth ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac
- amrywiaeth o rwydweithiau cymorth staff

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol (Siartredig neu gyfatebol) sydd â phrofiad da o ran caffael a rheoli ymgynghorwyr, contractwyr ac arbenigwyr ac ymgynghorwyr eraill.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y canlynol hefyd:

- profiad da o reoli timau dylunio amlddisgyblaethol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau proffesiynol mewn perthynas â phrosiectau sy'n gysylltiedig ag adeiladu ar draws amrywiaeth o fathau o adeiladau gan gynnwys ysgolion;
- gwybodaeth dda am y polisïau a’r fframweithiau rheoleiddio sy'n berthnasol i adeiladu a rheoli adeiladau;
- profiad ymarferol o nodi a rheoli risg, yn enwedig rhai o natur iechyd a diogelwch;
- sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a
- sgiliau trefnu personol da a’r gallu i reoli llwyth gwaith amrywiol a heriol mewn amgylchedd sy’n newid yn gyson.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Am drafodaeth anffurfiol a rhagor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch â:
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: ECO00366



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd rôl allweddol o ran prynu gwasanaethau a rheoli a monitro'n gyffredinol y gwasanaethau hyn i gefnogi oedolion a phlant sy'n agored i niwed, ar draws y swyddogaeth Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu tua £140 miliwn o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...