Goruchwylydd Dyletswydd Cynorthwyol

4 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle gwych wedi codi i ymuno â'r tîm yng Nghastell Caerdydd fel Goruchwylydd Dyletswydd Cynorthwyol. Mae Castell Caerdydd, sy’n croesawu miloedd o bobl bob blwyddyn, yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol.

**Am Y Swydd**
Fel y Goruchwylydd Dyletswydd Cynorthwyol, byddwch yn cynorthwyo'r Goruchwylwyr Dyletswydd i ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau ymwelwyr diogel ac effeithlon yng Nghastell Caerdydd tra'n helpu’r Rheolwr Gweithredol a Chastell i redeg y Castell.

Bydd y swydd yn rhan o dîm Castell Caerdydd ac yn adrodd i’r Goruchwylydd Dyletswydd.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn awyddus i recriwtio unigolyn brwdfrydig sydd â rhywfaint o brofiad o weithio mewn rôl dwristiaeth a pharodrwydd i ddatblygu a mynychu cyrsiau hyfforddi.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwaraewr tîm rhagorol, gyda sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol ac yn hyblyg o ran oriau gwaith a fydd yn cynnwys penwythnosau a Gwyliau Banc.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw’n is na RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.

Mae’r swyddi hyn yn destun gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: ECO00476