Uwch Geidwad Loc

1 month ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Yn dilyn adeiladu Morglawdd Caerdydd ym 1999, crëwyd Awdurdod Harbwr Caerdydd i redeg, gweithredu a chynnal y Morglawdd o dan Ddeddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993
**Am Y Swydd**
Gan weithio gyda Rheolwr Sifftiau ac adrodd iddo o fewn amgylchedd tîm, byddwch yn gyfrifol am weithredu'r giatiau loc, y llifddorau a'r llwybrau pysgod gan ddefnyddio'r holl systemau sydd ar gael, gan gynnwys offer TG, ac am sicrhau bod offer a systemau'n cael eu cynnal a'u cadw'n llawn. Yn ogystal, bydd gofyn i chi weithredu Pont y Werin o bell ac yn lleol. O ddydd i ddydd, byddwch chi'n gyfrifol am gofnodi cofnodion, logiau a chronfeydd data sy'n berthnasol i weithrediad giât y clo yn ddyddiol a byddwch yn cynorthwyo'r Rheolwr Sifftiau ym mhob agwedd ar y gweithrediad, yn ôl yr angen. Bydd gofyn i chi weithio sifftiau, penwythnosau a chyflawni dyletswyddau dan do ac yn yr awyr agored.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**:

- Gweithredu'r giatiau loc, llifddorau, llwybr pysgod ac offer cysylltiedig gan gynnwys Pont y Werin. - Sicrhau bod yr holl gofnodion, logiau a chronfeydd data sy'n berthnasol i Weithrediadau'r Morglawdd yn cael eu cadw'n gyfredol. - Cydgysylltu â gweithwyr, contractwyr ac adnoddau eraill sy'n ymwneud â Gweithrediadau'r Morglawdd. - Paratoi adroddiadau ar unrhyw agwedd ar Weithrediadau'r Morglawdd, yn ôl y gofyn. - Cydgysylltu â morwyr, lle bo angen, i sicrhau defnydd diogel o'r Bae a mordwyo drwy'r Lociau. - Sicrhau diogelwch a diogeledd aelodau'r cyhoedd sy'n defnyddio'r Morglawdd, Pont y Werin a'r Bae. - Helpu i reoli systemau archwiliadau arferol, gweithdrefnau gweithredol, archwiliadau a gofynion statudol Awdurdod Harbwr Caerdydd. - Cydgysylltu â'r tîm cynnal a chadw ynghylch cynnal a chadw Lociau, Llifddorau, Llwybr Pysgod, ac ati. - Ymgymryd â, neu gyfrannu at, fel y'i neilltuwyd, unrhyw brosiect/aseiniad traws awdurdod a neilltuwyd er mwyn sicrhau ei ganlyniad llwyddiannus. - Sicrhau bod systemau teledu cylch cyfyng yn gwbl weithredol a sicrhau y cedwir at brotocolau deddfwriaethol. - Sicrhau gweithrediad diogel a sicr Pont y Werin. - Cynorthwyo i gynnal safonau iechyd a diogelwch a thân yn unol â rheoliadau Iechyd a Diogelwch. - Sefyll i mewn a chyflawni dyletswyddau'r Rheolwr Sifftiau.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Dylech allu dangos eich ymrwymiad i waith tîm a bod ag agwedd hyblyg. Bydd disgwyl i chi weithio rota shifft i gynnwys gweithio gyda'r nos, penwythnosau a Gwyl y Banc. Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan: Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais: Canllawiau Gwneud Cais - Gwneud cais am swydd â ni - Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol Gwybodaeth Ychwanegol: Siarter y Gweithwyr - Recriwtio Cyn-droseddwyr - Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: ECO00349