Swyddog Cynllunio

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf ac yn un o’r dinasoedd mwyaf medrus ym Mhrydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu.

Mae’r Gwasanaeth Cynllunio yn cynnwys tri Thîm: Polisi Cynllunio; Rheoli Datblygu Strategol a Chreu Lleoedd; a Rheoli Datblygu Anstrategol a Gorfodaeth. Gyda’n gilydd, rydym yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni a rheoli twf y ddinas drwy gyfrwng y gwaith canlynol:

- gweithredu fframwaith polisi yn seiliedig ar gynlluniau - paratoi cynlluniau a chanllawiau;
- cyflawni datblygiadau newydd drwy uwch-gynllunio a chreu lleoedd;
- darparu gwasanaeth rheoli datblygu effeithlon - gan brosesu’r nifer fwyaf o geisiadau cynllunio yng Nghymru; a
- gweithio’n barhaus i wella perfformiad ac effeithlonrwydd.

Mae canlyniadau cadarnhaol y Gwasanaeth yn cynnwys:

- creu’r cartrefi sydd eu hangen ar bobl, yn enwedig tai fforddiadwy;
- cynhyrchu buddsoddiad sylweddol yn y ddinas a chefnogi’r economi leol;
- cymeradwyo cynlluniau newydd sy’n creu ystod eang o swyddi;
- sicrhau seilwaith newydd drwy gynigion datblygu;
- cymeradwyo cynlluniau sy’n cefnogi rôl canol y ddinas a chanolfannau lleol;
- sicrhau bod datblygiadau newydd yn ymateb yn gadarnhaol i gyd-destun lleol;
- creu lleoedd sy’n ddeniadol i drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr; a
- gwarchod a gwella’r amgylchedd adeiledig a naturiol.

**Am Y Swydd**
Mae’r swydd hon yn y tîm Rheoli Datblygu Anstrategol a Gorfodaeth sy’n delio â’r nifer fwyaf o geisiadau o fysg holl awdurdodau Cymru, a hynny o gryn dipyn. Mae’r Tîm yn perfformio’n dda ac mae’r lefelau o foddhad cwsmeriaid yn uchel ac yn parhau i wella bob blwyddyn er gwaethaf y llwyth achos mawr.

Mae’r Tîm yn delio ag ystod o geisiadau gan gynnwys caniatâd hysbysebu, newidiadau i ddeiliaid tai a chynlluniau tai a masnachol mwy sy’n cyfrannu at dwf a gynllunnir y ddinas fel y nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol.

Gan helpu i reoli’n effeithiol sut mae Caerdydd yn datblygu, bydd deiliaid y swyddi’n helpu’r Tîm i gyflawni’r gwaith canlynol:

- negodi a phenderfynu ar geisiadau ar gyfer cynigion datblygu anstrategol, adnewyddu, amrywio amodau, cymeradwyaeth ymlaen llaw, ceisiadau hysbysebu, diwygiadau cynllunio ansylweddol, tystysgrifau datblygiadau cyfreithlon a chydsyniadau treftadaeth;
- cyflawni amodau;
- amddiffyn penderfyniadau cynllunio’r Cyngor mewn apeliadau;
- cynorthwyo â’r swyddogaeth orfodi; a
- darparu gwasanaethau diamod a rhai statudol cyn gwneud cais.

Mae manylion llawn dyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd yn y Disgrifiad Swydd.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant a all reoli llwyth achos amrywiol a phrysur o geisiadau ac ymholiadau cynllunio cyffredinol.

Bydd gennych gymhwyster cynllunio trefol neu gymhwyster cyfatebol, sgiliau cyfathrebu da a’r gallu i reoli blaenoriaethau lluosog. Yn ddelfrydol bydd gennych brofiad o reoli datblygu gyda ffocws ar gyflawni canlyniadau o ansawdd.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Wrth gwblhau’r ffurflen gais, sicrhewch fod eich datganiad yn dangos tystiolaeth eich bod yn bodloni pedwar Cymhwysedd Ymddygiadol craidd y Cyngor, ynghyd â’r sgiliau a’r profiad hanfodol/dymunol yn y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PLA00186



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:12292** **Teitl y Swydd**:Swyddog Ymgysylltu x 2** **Contract: Cyfnod Penodol tan fis Mawrth 2025, Llawn Amser** **Oriau: 37** **Cyflog: £27,227 - £29,551 pro rata (yn ddibynnol ar brofiad)** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Ymgysylltu o fewn adrannau Academaidd Coleg Caerdydd a'r Fro. Lleolir y...

  • Swyddog Cyfathrebu

    19 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:CO2023** **Teitl y Swydd**:Swyddog Cyfathrebu** **Contract: Parhaol, Llawn Amser** **Oriau: 37** **Cyflog: £28,648 - £30,599 y flwyddyn** Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn awyddus i benodi Swyddog Cyfathrebu wedi’i leoli o fewn tîm Marchnata a Chyfathrebu mewnol deinamig y Coleg. Byddwch yn gweithio â’r...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio 2 Gweithiwr Cymdeithasol profiadol a pharhaol i ymuno â'n tîm newydd ac arloesol a fydd yn adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth yn annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd.** Byddwch yn ymuno â Hyb Adolygu gwell a diwygiedig, yn eistedd ochr yn ochr â Chadeiryddion Cynadleddau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi ar gyfer Swyddog Arweiniol, yn gweithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Darparu. **Am Y Swydd** Mae Dylunio, Contractau a Darparu yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac mae’n allweddol o ran cynllunio a chyflawni prosiectau seilwaith yng Nghaerdydd. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddarparu cymorth technegol ac AutoCad...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Dilynwch Addewid Caerdydd ar Facebook,...

  • Prif Swyddog

    4 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd yn chwarae rhan bwysig yn rheoli twf cyflym Caerdydd ac yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Ar hyn o bryd rydym yn bwrw ymlaen ag ystod o brosiectau sydd â’r nod o weddnewid system drafnidiaeth Caerdydd, cynyddu teithio cynaliadwy, sicrhau aer glanach a gwella iechyd a lles...

  • Athro Cynhwysiant

    20 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes yn darparu cymorth strategol, proffesiynol a gweithredol i alluogi'r Cyngor i gyflawni ei gyfrifoldebau am addysg blynyddoedd cynnar, addysg oedran ysgol statudol, addysg mewn chweched dosbarth ysgolion ac opsiynau Ôl-16, yn ogystal â gwasanaeth ieuenctid.Mae gwaith y Gyfarwyddiaeth wedi'i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â’r Gwasanaeth Cynhwysiant, a chwarae rhan gefnogol wrth weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru 2018). Mae'r Gwasanaeth Cynhwysiant yn rhan o'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes, ac mae'n gyfrifol am sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau statudol...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous yn ein Hyb Ymyriadau. Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol profiadol i arwain ar brosiect newydd yn cefnogi timau statudol sy’n gweithio gydag achosion lle mae trais domestig yn bresennol. **Amdanom NI** Y manteision a gynigir Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o...

  • Welsh Headings

    3 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Dysgu Oedolion, Dysgu ar gyfer Gwaith yn cynnig cyrsiau a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu hyblyg sydd wedi’u cynllunio i helpu unigolion i gymryd y cam cyntaf yn ôl i ddysgu a'u helpu i symud ymlaen i ddysgu pellach, hyfforddiant neu gyflogaeth. **Am Y Swydd** Byddwch yn datblygu ac yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Os oes diddordeb gennych i gael bod yn rhan o ymdrech Caerdydd i fod yn un o'r dinasoedd mwyaf bywiog a llwyddiannus yn y Deyrnas Gyfunol sy'n rhoi plant yn gyntaf, gyda'r uchelgais o arwain y ffordd o ran datblygu ymarfer yng Nghymru, byddem yn falch iawn o glywed gennych. Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r swydd wedi’i lleoli yn Iechyd ac Anabledd Plant (IAAP) Caerdydd Gan fabwysiadu dull Arwyddion Diogelwch, bydd eich gwaith rheoli achosion a monitro risgiau yn cynnwys cynnal amrywiaeth o asesiadau a gweithredu ac adolygu cynlluniau gofal a chymorth - ar sail Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rydym yn...

  • Swyddog Marchnata

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn darparu Cynllun Cofrestru a Thrwyddedu ledled Cymru ar gyfer landlordiaid ac asiantau eiddo sy'n cael ei rentu. Daw hyn yn sgil dynodi Cyngor Caerdydd yn Awdurdod Trwyddedu Sengl i Gymru. Ei nod yw sicrhau eiddo diogel a reolir yn dda ar gyfer tenantiaid drwy sicrhau bod y rhai sy'n gosod ac yn rheoli eiddo yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys tîm ymroddedig o weithwyr ieuenctid proffesiynol sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys tîm dawnus a brwdfrydig o weithwyr ieuenctid proffesiynol a gweithwyr cymorth ieuenctid sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau...

  • Welsh Headings

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...