Prentis Corfforaethol Lefel 2
6 months ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid, rôl dechnegol, masnachol neu gymorth, maen nhw’n ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae ein Gwasanaeth Dydd Anghenion Cymhleth Anableddau Dysgu yn awyddus i gyflogi **Prentis Corfforaethol (Lefel 2)** wedi'i leoli yng Ngwasanaeth Dydd Caerdydd, Heol Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2RR er mwyn cyfrannu at ein gwasanaeth i’n helpu i ddarparu cymorth i oedolion ag anabledd dysgu sydd ag anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol gyda’r nod o gyflawni eu hamcanion.
Byddwch yn gweithio’n rhan o dîm cymorth medrus iawn i ddatblygu sgiliau, mewn modd sydd â phobl yn ganolog iddo, i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth i gyflawni’r deilliannau a nodir yn eu Cynllun Gwasanaeth Dydd.
**Am Y Swydd**
Yn y rôl **Prentis Corfforaethol (Lefel 2),** byddwch yn dysgu sut i:
Fel Prentis Corfforaethol sy'n ymgymryd â Phrentisiaeth Sylfaen Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) Lefel 2, byddwn yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu sgiliau a fydd yn eich cefnogi gyda'ch gyrfa yn y dyfodol. Byddwch yn cael eich annog i fanteisio ar ystod eang o gyfleoedd, gan gynnwys rhoi cymorth i ddefnyddwyr gwasanaeth mewn ystod eang o weithgareddau a chyfleoedd, y bydd llawer yn cael eu cynnal mewn lleoliadau cymunedol, gan gysylltu â theuluoedd defnyddwyr gwasanaeth a gwasanaethau eraill, cadw cofnodion, cyflawni tasgau gweinyddol, cyfrannu at y gwaith o gynllunio gwasanaethau a chymryd rhan mewn cyfarfodydd staff a rhaglenni datblygu staff.
Caiff hyfforddiant llawn ei roi a bydd ein tîm yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu yn y rôl a chewch eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau. Cewch eich goruchwylio a’ch hyfforddi yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
Mae'r Cynllun Prentisiaethau a Hyfforddeion Corfforaethol hefyd yn cynnig cyfleoedd i wella eich sgiliau trosglwyddadwy i’ch helpu i ddatblygu yn eich gyrfa.
Mae llawer o'n timau wedi symud i fod ar-lein ac i weithio gartref, a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu sgiliau er mwyn cefnogi hyn. Pan fo angen gweithio gartref, bydd yr offer angenrheidiol yn cael ei roi i chi. Fodd bynnag, bydd angen i chi drefnu eich cysylltedd rhyngrwyd eich hun (efallai y bydd rhywfaint o gymorth ar gael i helpu gyda hyn).
Mae'r Gwasanaeth yn gweithredu rhwng 8.00am a 4.30pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener.
Mae'r rôl hon yn cynnwys Cymhwyster Fframwaith Prentisiaeth Llywodraeth Cymru mewn Prentisiaeth Sylfaenol Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) ar Lefel 2. *Sicrhewch eich bod yn gymwys i wneud cais am y rôl hon gan ddefnyddio'r wybodaeth a nodir yn yr adran Gwybodaeth Ychwanegol isod ac yn y Fanyleb Person ar gyfer y rôl hon.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.
Mae ein **Prentisiaid** Corfforaethol yn cael profiad gwerthfawr wrth weithio i'r Cyngor mwyaf yng Nghymru. Er na allwn warantu y bydd yr ymgeisydd a benodir yn mynd ymlaen i sicrhau rôl arall ar ddiwedd y contract cychwynnol hwn, caiff ei gefnogi a'i annog i achub ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael yn ein sefydliad er mwyn datblygu ei yrfa.
**Gwybodaeth Ychwanegol** Gallwch wneud cais am y rôl hon os nad ydych eisoes wedi ennill y cymhwyster prentis (neu NVQ) a gynigir yn y rôl hon, ar yr un lefel neu'n uwch.**
**Mae graddedigion yn gymwys i wneud cais am rolau Prentisiaeth sy’n cynnig Cymhwyster Prentisiaeth Lefel 3 o leiaf ac ar yr amod bod eu gradd mewn pwnc gwahanol.**
Nid yw’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Mae'r swydd hon yn un dros dro am 18 mis os byddwch yn gweithio ar sail lawn-amser, neu'n hirach os byddwch yn gweithio'n rhan amser. Mae'r rhan fwyaf o rolau yn seiliedig ar wythnos waith 37 awr, er y gellir gweithio llawer o rolau'n rhan amser ac o leiaf 16 awr yr wythnos ar gyfer rolau prentis.
Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl drwy roi enghreifftiau yn yr adran **Gwybodaeth Ategol**, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini
-
Prentis Corfforaethol
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £23,152 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £12.00 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...
-
Prentis Corfforaethol
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**YNGLŶN Â'R GWASANAETH** Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid, rôl dechnegol,...
-
Prentis Corfforaethol
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn-amser (37 awr) neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Bydd y tâl atodol yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Ceidw Cyngor Caerdydd yr hawl i wneud unrhyw newidiadau i dâl atodol y Cyflog Byw neu ei ddileu.** Mae Cyngor Caerdydd yn...
-
Hyfforddai Corfforaethol Cyngor Caerdydd
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £22,737 y flwyddyn yn gweithio’n llawn amser (37 awr), neu £12.00 yr awr yr awr pro rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw yn Wirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wasanaethau gwahanol i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu...
-
Prentis Corfforaethol Cyngor Caerdydd
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...
-
Prentis Data Ad
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £23,152 y flwyddyn yn gweithio'n llawn amser (37 awr), sy'n cyfateb i £12.00 yr awr (pro rata), gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Bydd yr atodiad Cyflog Byw yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i wneud unrhyw newidiadau i, neu ddileu, yr Atodiad Cyflog Byw.** Mae Cyngor...
-
Welsh Headings
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid,...
-
Apprentice Groundworker
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Y Prentis Full timeInstalling drainage in the workplace - Moving, handling and storing resources in the workplace - Establishing work area protection and safety in the workplace - Preparing and operating specialist - Construction Processes and Operations for Low-rise Domestic Buildings - Construction Methods and Techniques for Low-rise Domestic Buildings - Construction Drawing...
-
Hyfforddai Corfforaethol Cyngor Caerdydd
5 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn yn y rôl Prentis hwn gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol Mae Tîm Canolfan Ieuenctid Butetown y Gwasanaeth Ieuenctid yn gobeithio cyflogi **Hyfforddai Corfforaethol**: - Gweithiwr Ieuenctid i weithio yng Nghanolfan Ieuenctid Butetown Pavilion, Dumballs Road, Butetown, CF10 5FE, i gyfrannu...
-
Prentisiaeth Newyddiadurwr
2 months ago
Cardiff, United Kingdom BBC Full timeMath o Gontract: Contractau cyfnod penodol Lleoliad: Caerdydd, Cymru Cyflog: Cyflog o £21,840 Mae prentisiaeth yn y BBC yn rhoi cyfle i chi roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Ni yw arweinwyr y diwydiant mewn gyrfaoedd cynnar ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Fel un o’r sefydliadau...
-
Prentisiaeth Newyddiadurwr
2 months ago
Cardiff, United Kingdom BBC Full timeMath o Gontract: Contractau cyfnod penodol Lleoliad: Caerdydd, Cymru Cyflog: Cyflog o £21,840 Mae prentisiaeth yn y BBC yn rhoi cyfle i chi roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Ni yw arweinwyr y diwydiant mewn gyrfaoedd cynnar ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Fel un o’r sefydliadau...
-
Yr Arbenigwr Sifil
1 week ago
Cardiff, Cardiff, United Kingdom ENGINEERINGUK Full timeMae cyfle i chi roi hwb i'ch gyrfa yn y BBC, sy'n cynnig lle prentisiaeth flaenllaw gyda Diploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth a chymhwyster prentisiaeth Lefel 5.Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'r tîm newyddion i ennill profiad arall-leol ac all-leol, yn cynnwys gweithio ymlaen yn y gwaith ystafell newyddion, cynnal ymchwil, a chreu cynnwys o safon.Rydyn...
-
Dirprwy Reolwr Swyddfa’r Cabinet
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Perfformiad a Phartneriaethau yn gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau corfforaethol sy'n cynorthwyo'r Cyngor cyfan, a'i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n gyfrifol am gynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei agenda uchelgeisiol trwy drosi blaenoriaethau gwleidyddol yn amcanion sefydliadol gyda ffocws ar gefnogi...
-
Welsh Headings
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Perfformiad a Phartneriaethau yn gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau corfforaethol sy'n cynorthwyo'r Cyngor cyfan, a'i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n gyfrifol am gynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei agenda uchelgeisiol trwy drosi blaenoriaethau gwleidyddol yn amcanion sefydliadol gyda ffocws ar gefnogi...
-
Cardiff, United Kingdom Bbc Full timeMath o Gontract: Contract Cyfnod Penodol Lleoliad: Caerdydd Cyflog: £21,840 Mae prentisiaeth yn y BBC yn gyfle i chi roi hwb i'ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi.Ni yw arweinwyr y diwydiant mewn gyrfaoedd cynnar ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu eich sgiliau a'ch talent.Fel un o'r sefydliadau mwyaf creadigol a datblygedig o ran technoleg...
-
Aseswr Nvq Mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Itec Skills Full time**Chwilio am gyfle newydd?** Yn Itec mae gan ein gweithwyr fynediad i nifer o fanteision gwych, gan gynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun gofal iechyd, 35 awr o wythnos waith, gostyngiadau ar gyfer aelodaeth manwerthu a champfa, cynllun bonws, yswiriant bywyd, gwobrau gweithiwr y mis, cydnabyddiaeth hyd gwasanaeth a llawer mwy. **Rôl: Aseswr NVQ...
-
Aseswr Nvq Mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Itec Skills Full time**Chwilio am gyfle newydd?** Yn Itec mae gan ein gweithwyr fynediad i nifer o fanteision gwych, gan gynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun gofal iechyd, 35 awr o wythnos waith, gostyngiadau ar gyfer aelodaeth manwerthu a champfa, cynllun bonws, yswiriant bywyd, gwobrau gweithiwr y mis, cydnabyddiaeth hyd gwasanaeth a llawer mwy. **Rôl: Aseswr NVQ...
-
Cyfrifydd y Trysorlys
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r swydd hon wedi'i lleoli o fewn tîm Cyfalaf, Corfforaethol a Rheoli'r Trysorlys adran Cyfrifeg y gwasanaeth Cyllid. Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Nhîm y Trysorlys ac mae’n gyfrifol am reoli trafodion bancio, buddsoddi a benthyca’r cyngor a’i berfformiad adrodd. **Ynglŷn â’r swydd** Bydd yr ymgeisydd yn gyfrifol am...
-
Swyddog Cyflawni Prosiectau Tgch
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Prif swyddogaethau’r adran yw: - darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad - rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at y gwaith o...
-
Arbenigwr Categori
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Ardal yn gydweithrediad caffael newydd ar draws y pedwar awdurdod lleol sy'n gwasanaethu pobl a chymunedau Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg. Caiff mwy na £1 biliwn ei wario bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn y pedwar awdurdod. Mae tîm caffael Ardal wedi’i rannu'n 5 tîm gweithredol: Gwasanaethau...