Dirprwy Reolwr Swyddfa’r Cabinet
5 months ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r Gwasanaeth Perfformiad a Phartneriaethau yn gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau corfforaethol sy'n cynorthwyo'r Cyngor cyfan, a'i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus.
Mae'n gyfrifol am gynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei agenda uchelgeisiol trwy drosi blaenoriaethau gwleidyddol yn amcanion sefydliadol gyda ffocws ar gefnogi datblygiad polisi, cyflawni polisi a sicrhau proses benderfynu agored a thryloyw.
Wedi'i leoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Pobl a Chymunedau, bydd hwn yn gyfle i weithio fel rhan o dîm talentog ac ymroddedig ar amrywiaeth o faterion polisi cyhoeddus.
**Am Y Swydd**
Bydd Dirprwy Reolwr Busnes Swyddfa'r Cabinet yn darparu cymorth ac yn dirprwyo yn ffurfiol ar gyfer y Rheolwr Busnes Polisi Corfforaethol a Swyddfa'r Cabinet. Bydd yn darparu cymorth o ran; proses fusnes y Cabinet, Uwch Dîm Rheoli’r Cyngor, ac yn cynorthwyo gyda chydlynu ystod o fyrddau cyflawni strategol.
Byddwch yn rhan o dîm hynod frwdfrydig, ymroddedig a chefnogol, gydag ymrwymiad i wneud gwaith o safon uchel a chefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Bydd digon o gyfle ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, gan gynnwys hyfforddiant perthnasol i'r rôl.
Byddwch hefyd yn darparu cymorth personol a chymorth gweinyddol cynhwysfawr i Aelodau Cabinet, gan weithio fel rhan o dîm bach i ddarparu cymorth effeithiol, lefel uchel ym mhob agwedd ar ddyletswyddau Aelodau Cabinet.
Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu arferion gweithio hybrid sy'n berthnasol i'r rôl hon, sy’n golygu bod modd gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith yn y swyddfa, gartref neu mewn lleoliad addas arall. Bydd yn ofynnol o hyd i fynd i’r swyddfa yn achlysurol ar gyfer rhai cyfarfodydd.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig cryf, gyda’r gallu i ymchwilio i adroddiadau a chyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn effeithiol i amrywiaeth o wahanol gynulleidfaoedd, o uwch reolwyr i ddefnyddwyr terfynol.
Bydd gennych brofiad o weithio gydag aelodau etholedig ac uwch reolwyr, a bydd gennych brofiad o gefnogi cyfarfodydd strategol ar lefel uwch a dealltwriaeth dda o lywodraethu corfforaethol.
Bydd lefel dda o gymhwysedd TGCh yn rhagofyniad - mae angen bod yn gyfarwydd â Microsoft Office yn benodol. Byddai profiad o offer mwy arbenigol, fel Halo a Modern.gov yn fanteisiol.
Yn bwysicaf oll, rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sy'n frwd dros wella gwasanaethau cyhoeddus ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm effeithiol.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae hon yn swydd barhaol.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO03980
-
Dirprwy Swyddog Cyfrifol
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Cyf. **PEO02930*** **Swydd Dirprwy Swyddog Cyfrifol** **Gradd 7**: - £33,945 - £38,223** **Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Dirprwy Swyddog Cyfrifol, i weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Ddirprwy Reolwr hyderus, annibynnol ac effeithiol ar gyfer ein Cartref Plant...
-
Dirprwy Swyddog Diogelu Data
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gyfarwyddiaeth Adnoddau yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau corfforaethol, gan wasanaethu'r cyngor cyfan, ac mae'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi'r Cyfarwyddiaethau gweithredol wrth ddarparu eu gwasanaethau. Mae'r Adran Llywodraethu Gwybodaeth wedi'i lleoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Adnoddau ac mae'n cefnogi...