Arbenigwr Categori

3 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Ardal yn gydweithrediad caffael newydd ar draws y pedwar awdurdod lleol sy'n gwasanaethu pobl a chymunedau Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg. Caiff mwy na £1 biliwn ei wario bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn y pedwar awdurdod. Mae tîm caffael Ardal wedi’i rannu'n 5 tîm gweithredol: Gwasanaethau Proffesiynol a TGCh, Corfforaethol a Thrafnidiaeth, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Cymunedol, Adeiladu ac Ystadau ynghyd â Phriffyrdd, Gwastraff a Pharciau.

O ganlyniad i gryfhau ein Timau Categori, mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n tîm, sydd wedi ennill gwobrau ac a gynhelir gan Gyngor Caerdydd fel Arbenigwr Categori.

Mae'r Tîm yn cefnogi'r swyddogaeth caffael a chyrchu ar gyfer gwahanol gategorïau o wariant; mae'r Tîm hefyd yn rheoli amrywiaeth o fframweithiau cydweithredol cenedlaethol gan gynnwys Gwasanaethau Technegol a Phroffesiynol De-ddwyrain Cymru, Fframwaith Peirianneg Sifil ac Adeiladu Priffyrdd Cydweithredol De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru ac eraill. Mae'r tîm yn cwmpasu maes amrywiol o wasanaethau ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion a allai fod â phrofiad o gaffael y mathau hyn o nwyddau, gwasanaethau, a gwaith, neu sydd â phrofiad a gwybodaeth am y diwydiannau hyn, er nad yw hynny’n hanfodol.

Bydd gweithio i Dîm Ardal yn golygu gweithredu fel catalydd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus i'r unigolion cywir ac yn cynnig amlygiad i sawl math o gaffael amrywiol ac arloesol gyda'r lefel angenrheidiol o gefnogaeth.

Wrth i ni geisio caffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith sy'n bodloni disgwyliadau ein dinasyddion o ran ein hadferiad economaidd ar ôl COVID-19, wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r gofyniad i sicrhau cyllideb gytbwys.
**Am Y Swydd**
Bydd y rôl ar gyfer unigolyn brwdfrydig sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol ac sy'n gallu dangos y gofynion a'r profiad a nodir yn y Fanyleb Person. Dyma rai o brif gyfrifoldebau a gofynion y rôl:

- Cynorthwyo’r Uwch Reolwr Categori, y Rheolwr Categori a’r Uwch Arbenigwr Categori o ran dylunio, datblygu a gweithredu cynlluniau categori caffael a strategaethau cyrchu.
- Sicrhau cyfanrwydd, cywirdeb ac amseroldeb dogfennaeth tendro a chontractau o fewn y categorïau a aseiniwyd.
- Cynorthwyo â sicrhau arbedion a dargedwyd a gwerth am arian o fewn y categorïau ac is-gategorïau nwyddau a’r categorïau ac is-gategorïau llai cymhleth sy’n cael eu haseinio.
- Cefnogi Cyfarwyddiaethau i roi gweithgareddau allweddol ar waith o fewn yr atebion cyrchu strategol a gymeradwyir.

Rhoi cyngor a hyfforddiant i staff Gwasanaethau yn ôl y gofyn ar unrhyw brosesau caffael, hen a newydd, i’w galluogi i fod yn gwsmeriaid deallus.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym am benodi unigolyn hunan-gymhellol sydd â phrofiad o gaffael yn y sector cyhoeddus yn bennaf, er nad yw hyn yn hanfodol. Gallai'r profiad hwn fod ar draws ystod eang o gategorïau gwario. Neu mae'n bwriadu datblygu gyrfa o fewn caffael y sector cyhoeddus.
**Gwybodaeth Ychwanegol**

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Cynigir y rôl hon ar sail barhaol.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Gall y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon gael ei chynnal yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol, neu wyneb yn wyneb. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â Lucy Williams i drafod.

Yn ogystal, am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â

Trystan Paynter (Rheolwr Categori - Gwasanaethau Proffesiynol a TGCh) - 07971031457

Lucy Williams (Rheolwr Categori - Corfforaethol a Thrafnidiaeth) - 07967793358

Samantha Harry (Rheolwr Categori - Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Cymunedol) - 07794239725.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES01246