Prentis Corfforaethol

3 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Byddwch yn ennill £23,152 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £12.00 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid, rôl dechnegol, masnachol neu gymorth, maen nhw’n ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae ein Tîm Gwasanaethau Llywodraethwyr eisiau cyflogi **Prentis Corfforaethol (Lefel 2)** **Cynorthwyydd Cyfathrebu Gwasanaethau Llywodraethwyr** i weithio ar sail hybrid o’r cartref ac yn Neuadd y Sir (Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW) yn ôl yr angen.

Mae'r tîm Gwasanaethau Llywodraethwyr yn dîm bach sy'n cefnogi penaethiaid a chyrff llywodraethu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd yn cael y profiad addysgol gorau.

**Am Y Swydd**

Rydym yn awyddus i recriwtio Prentis Corfforaethol Cynorthwyydd Cyfathrebu Gwasanaethau Llywodraethwyr, fydd yn cynorthwyo'r tîm i drefnu a rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau, sesiynau hyfforddi a sesiynau briffio ar gyfer llywodraethwyr ysgol, cynorthwyo gyda drafftio a golygu deunyddiau cyfathrebu, cynorthwyo gyda datblygu'r wefan a'r defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol a mynychu a chynorthwyo gyda gweinyddiaeth gyffredinol ar gyfer cyfarfodydd mewnol ac allanol e.e. drafftio agendâu, dosbarthu gwybodaeth a gwneud nodiadau cywir.

Byddwch hefyd yn diweddaru ein cronfa ddata ganolog a chynorthwyo gyda chynhyrchu adroddiadau ystadegol yn ogystal â defnyddio gwahanol raglenni swyddfa fel Microsoft Word, Excel, Outlook a Teams.

Byddwch yn dysgu sut mae ysgolion a chyrff llywodraethu ysgolion yn gweithredu ac yn ennill gwybodaeth, sgiliau a phrofiad gwerthfawr, erbyn diwedd y cyfnod prentisiaethau, i gefnogi'r tîm gydag amrywiaeth o weithgareddau gweinyddol, gan gynnwys: datblygu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, ymateb ymholiadau dros y ffôn, e-bost ac wyneb yn wyneb e.e. swyddogion y Cyngor, llywodraethwyr, clercod ysgolion a phenaethiaid.

Caiff hyfforddiant llawn ei roi a bydd ein Tîm yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu yn y rôl a chewch eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau. Cewch eich goruchwylio a’ch hyfforddi yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

Mae'r Cynllun Prentisiaethau a Hyfforddeion Corfforaethol hefyd yn cynnig cyfleoedd i wella eich sgiliau trosglwyddadwy i’ch helpu i ddatblygu yn eich gyrfa.

Mae llawer o'n timau wedi symud i fod ar-lein a gweithio gartref, a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu sgiliau er mwyn cefnogi hyn. Pan fo angen gweithio gartref, bydd yr offer angenrheidiol yn cael ei roi i chi. Fodd bynnag, bydd angen i chi drefnu eich cysylltedd rhyngrwyd eich hun (efallai y bydd rhywfaint o gymorth ar gael i helpu gyda hyn).

Bydd angen gweithio gyda’r hwyr yn achlysurol.

Mae'r rôl hon yn cynnwys Cymhwyster Fframwaith Prentisiaethau Llywodraeth Cymru mewn **Cymorth Rhaglenni Digidol ar Lefel 2.** **Sicrhewch eich bod yn gymwys i wneud cais am y rôl hon gan ddefnyddio'r wybodaeth a nodir yn yr adran Gwybodaeth Ychwanegol isod ac yn y Fanyleb Person ar gyfer y rôl hon.**
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.

Mae ein **Prentisiaid** Corfforaethol yn cael profiad gwerthfawr wrth weithio i'r Cyngor mwyaf yng Nghymru. Er na allwn warantu y bydd yr ymgeisydd a benodir yn mynd ymlaen i sicrhau rôl arall ar ddiwedd y contract cychwynnol hwn, caiff ei gefnogi a'i annog i achub ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael yn ein sefydliad er mwyn datblygu ei yrfa.
**Gwybodaeth Ychwanegol**

**Gallwch wneud cais am y rôl hon os nad ydych eisoes wedi ennill y cymhwyster prentis (neu NVQ) a gynigir yn y rôl hon, ar yr un lefel neu'n uwch.**

**Mae graddedigion ond yn gymwys i wneud cais am rolau Prentisiaeth sy’n cynnig Cymhwyster Prentisiaeth Lefel 3 o leiaf ac ar yr amod bod eu gradd mewn pwnc gwahanol.**

Nid yw’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Mae'r swydd hon yn un dros dro am **15** mis os byddwch yn gweithio ar sail lawn-amser, neu'n hirach os byddwch yn gweithio'n rhan amser. Mae'r rhan fwyaf o rolau yn seiliedig ar wythnos waith 37 awr, er y gellir gweithio llawer o rolau'n rhan amser ac o leiaf 16 awr yr wythnos ar gyfer rolau prentis.

Mae Tâl Atodol y Cyflog Byw’n berthnasol i’r cyflog hwn sy’n dod â’r gyfradd tâl sylfaenol i £12.00 yr a



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid, rôl dechnegol, masnachol...

  • Prentis Corfforaethol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **YNGLŶN Â'R GWASANAETH** Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid, rôl dechnegol,...

  • Prentis Corfforaethol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn-amser (37 awr) neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Bydd y tâl atodol yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Ceidw Cyngor Caerdydd yr hawl i wneud unrhyw newidiadau i dâl atodol y Cyflog Byw neu ei ddileu.** Mae Cyngor Caerdydd yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £22,737 y flwyddyn yn gweithio’n llawn amser (37 awr), neu £12.00 yr awr yr awr pro rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw yn Wirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wasanaethau gwahanol i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu...

  • Prentis Data Ad

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £23,152 y flwyddyn yn gweithio'n llawn amser (37 awr), sy'n cyfateb i £12.00 yr awr (pro rata), gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Bydd yr atodiad Cyflog Byw yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i wneud unrhyw newidiadau i, neu ddileu, yr Atodiad Cyflog Byw.** Mae Cyngor...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn yn y rôl Prentis hwn gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol Mae Tîm Canolfan Ieuenctid Butetown y Gwasanaeth Ieuenctid yn gobeithio cyflogi **Hyfforddai Corfforaethol**: - Gweithiwr Ieuenctid i weithio yng Nghanolfan Ieuenctid Butetown Pavilion, Dumballs Road, Butetown, CF10 5FE, i gyfrannu...

  • Welsh Headings

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid,...