Welsh Headings

6 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Ynglŷn â'r Gwasanaeth

Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid, rôl dechnegol, masnachol neu gymorth, maen nhw’n ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae Cymorth Cynnar Caerdydd yn gasgliad o wasanaethau arloesol a blaengar i blant, pobl ifanc a theuluoedd o fewn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Rydym yn awyddus i gyflogi Prentis Corfforaethol Gweinyddu a Rheoli Data i gyfrannu at gyflawni gwerthoedd allweddol ein sefydliadau ac ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid.

Lleoliad y swydd yw’r Ganolfan Gynadledda, East Moors Road, Caerdydd, CF24 5RR. Gallai'r rôl hon olygu gweithio gartref a bydd angen rhywfaint o weithio dros y penwythnos.

**Gallwch wneud cais am y rôl hon os nad ydych eisoes wedi ennill y cymhwyster prentis (neu NVQ) a gynigir yn y rôl hon, ar yr un Lefel neu'n uwch, ac nad oes gennych radd.**

**Mae hon yn Rôl Brentisiaeth Lefel 2. Mae graddedigion ond yn gymwys i wneud cais am rolau Prentisiaeth sy’n cynnig Cymhwyster Prentisiaeth Lefel 3 o leiaf ac ar yr amod bod eu gradd mewn pwnc gwahanol.
**Am Y Swydd**
Yn y rôl **Prentis Corfforaethol (Lefel 2)** hon, byddwch yn dysgu sut i:
Adeiladu a chynnal perthynas gadarnhaol â chydweithwyr ar draws Cymorth Cynnar a

chyfathrebu’n effeithiol gydag ystod o weithwyr proffesiynol.

Ennill dealltwriaeth o ystod o swyddogaethau gweinyddol a'r rôl ganolog y mae hyn yn ei chwarae wrth gefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Helpu i gasglu a mewnbynnu data gan ddefnyddio systemau cofnodi a gwybodaeth amrywiol.

Gweithio'n effeithiol yn unigol ac ar y cyd fel rhan o dîm.

Ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad yn y swydd i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol.

Caiff hyfforddiant llawn ei roi a bydd ein tîm yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu yn y rôl a chewch eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau. Cewch eich goruchwylio a’ch hyfforddi yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

Mae'r Cynllun Prentisiaethau a Hyfforddeion Corfforaethol hefyd yn cynnig cyfleoedd i wella eich sgiliau trosglwyddadwy i’ch helpu i ddatblygu yn eich gyrfa.

Mae llawer o'n timau wedi symud i fod ar-lein a gweithio gartref, a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu sgiliau er mwyn cefnogi hyn. Pan fo angen gweithio gartref, bydd yr offer angenrheidiol yn cael ei roi i chi. Fodd bynnag, bydd angen i chi drefnu eich cysylltedd rhyngrwyd eich hun (efallai y bydd rhywfaint o gymorth ar gael i helpu gyda hyn).

Mae'r rôl hon yn cynnwys Cymhwyster Fframwaith Prentisiaethau Llywodraeth Cymru mewn **Cymorth Rhaglenni Digidol ar Lefel 2**. *Gwiriwch eich cymhwysedd i wneud cais am y rôl hon gan ddefnyddio'r wybodaeth a restrir yn yr adran Gwybodaeth Ychwanegol isod ac yn y Fanyleb Person ar gyfer y rôl hon.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.

Mae ein **Prentisiaid** **Corfforaethol **yn cael profiad gwerthfawr wrth weithio i'r Cyngor mwyaf yng Nghymru. Er na allwn warantu y bydd yr ymgeisydd a benodir yn mynd ymlaen i sicrhau rôl arall ar ddiwedd y contract cychwynnol hwn, caiff ei gefnogi a'i annog i achub ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael yn ein sefydliad er mwyn datblygu ei yrfa.
- Rydym yn chwilio am rywun sydd:

- Yn angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau teuluoedd ledled y ddinas.
- Yn drefnus, yn gallu blaenoriaethu tasgau ac yn llawn cymhelliant i ddysgu
- Yn barod i gynnig a derbyn adborth gyda'r nod o wella darpariaeth gwasanaethau a helpu i ddatrys problemau.
- Yn gallu addasu i wahanol dasgau i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni



  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Welsh Government Full time

    Job SummaryThe Welsh Government seeks a highly skilled and experienced economist to lead the strategic climate change economic analysis team. As the Head of Climate Economics, you will be responsible for developing and implementing economic analysis to inform climate change policy decisions.Key ResponsibilitiesLead the team responsible for conducting...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Welsh Government Full time

    Job SummaryThe Welsh Government is seeking a highly skilled and experienced Head of Climate Economics to lead the development of strategic climate change economic analysis. This role will be responsible for creating an economy-wide view of costs and benefits of strategic climate policy on government, society, business, and the environment.The successful...

  • Board Secretariat

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Welsh Revenue Authority Full time

    **Details**: **Reference number**: - 307972**Salary**: - £41,700 - £49,370**Job grade**: - Senior Executive Officer**Contract type**: - Permanent**Business area**: - WRA - Chief Executive's Office**Type of role**: - Secretarial**Working pattern**: - Flexible working, Full-time, Job share**Number of jobs available**: - 1Contents Location About the...


  • Cardiff, United Kingdom The Royal Welsh College of Music & Drama Full time

    The Royal Welsh College of Music and Drama wishes to appoint an experienced and versatile Health and Safety Manager to assist the Head of Operations in providing professional guidance, support and assistance in promoting an active health and safety culture throughout the college. The Royal Welsh College of Music & Drama (RWCMD) is the National...

  • Head of Payroll

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom NHS Wales Shared Services Partnership Full time

    Are you a highly experienced Payroll professional who would like to join the NHS Wales Shared Services Partnership Payroll team at a Senior level? As part of a Team of three Heads of Payroll, you will be responsible for delivering Payroll, Pensions, Lease Cars and Expenses Services for a combined payroll of 115,000 employees both Monthly, Weekly and cross...


  • Cardiff, United Kingdom Public Health Wales NHS Trust Full time

    Deputy Head of Operations - Health Protection and Screening Services 1 position for Health Protection Division 1 position for Screening Division Public Health Wales and more specifically the Health Protection and Screening Services Directorate (HPSS) is seeking a dynamic, forward thinking, and inspiring Deputy Head of Operations for the Screening Division...


  • Cardiff, United Kingdom Velindre Cancer Centre Full time

    An exciting development opportunity has arisen within the Programme Management Office for a Head of Programmes and Service Improvement on a permanent basis. The Head of Programmes and Service Improvement is a leadership role within the Operational Services and Delivery Directorate reporting to the Head of Operational Services and Delivery. The post will be...


  • Cardiff, United Kingdom TSR Legal Full time

    Private Client Partner | Head of Department - Tax & Trusts - Central Cardiff Head of Department | Partner | Cardiff The Firm The firm is keen to attract a Partner / Head who is looking for their next challenge. They wish to speak to talented lawyers who will make a real mark in the Cardiff / Welsh market. You may be searching for genuine career...

  • Head of Primary Care

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale University Health Board Full time

    We are looking for an exceptional Head of Primary Care to join our Primary Care Team, to lead the delivery of patient - centred, safe, effective and sustainable Primary Healthcare Services across Cardiff and the Vale of Glamorgan. The post holder is a critical part of the PCIC senior management team and is responsible for leading the planning and developing...


  • Cardiff, United Kingdom Dwr Cymru Welsh Water Full time

    Select how often (in days) to receive an alert:City: CardiffAddress: Cardiff, Wales, GB, CF3 0LTJob Requisition Number: 7173Work Type: PermanentJob Function: ITSalary Range: CompetitiveBase: Cardiff / HybridClosing date 23:59 on 09/12/2024What you'll be responsible forGiven the nature of the business, it is essential that ITS provides reliable and resilient...


  • Cardiff, United Kingdom Velindre Cancer Centre Full time

    Job summary An opportunity has arisen for an enthusiastic and motivated individual to join our friendly Therapies team in the Integrated Care Directorate at Velindre Cancer Centre on a part-time basis ( hours per week) as a Band 7 Highly Specialist Head and Neck Dietitian. This role will offer the opportunity to up-skill and develop to an Advanced...


  • Cardiff, United Kingdom Transport for Wales Full time

    Please note: this is permanent position but is also available as a 2 year secondment opportunity for those seeking a fixed-term opportunity Please note: this position is only available to candidates employed within Transport for Wales. If you are not eligible to apply for this position, your application will not be considered. Equal Opportunities ...

  • Cdo / Head of Data

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Harnham Full time

    INFO - SALARY: - £95000 - £105000 LOCATION Cardiff - JOB TYPE - Permanent **CDO / HEAD OF DATA** **CARDIFF, WALES - HYBRID** **£95,000 - £105,000 - NON FOR PROFIT** **Company** This non-for-profit business works closely with the government and public sector to provide an invaluable resource to the Welsh population. They are on the cusp of...

  • Welsh Headings

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo digwyddiad ar gyfer cyfarfodydd busnes **Am Y Swydd** Based...

  • Welsh Headings

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella eu sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys trwy gyfleoedd gwirfoddoli a phrojectau a ariennir yn allanol. Mae’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rheoli nifer o brojectau cyflogadwyedd a ariennir yn...

  • Welsh Headings

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill o leiaf £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol.** Mae cyfle gwych wedi codi i unigolyn uchelgeisiol, llawn cymhelliant ddod yn dechnegydd cymwys yn ein Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog, wedi'i leoli yn ein cyfleuster o’r radd...

  • Welsh Headings

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r galw am dai cymdeithasol yn cynyddu a does dim digon o dai cyngor ar gael i bobl sydd eu hangen. Mewn ymateb i hyn, mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i ddatblygu datrysiadau tai newydd i leihau'r pwysau ar y Rhestr Aros Tai Cyffredin. Mae diwallu anghenion y bobl hynny sydd â'r angen mwyaf am dai addas yn hollbwysig, mae hyn yn...

  • Welsh Headings

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Perfformiad a Phartneriaethau yn gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau corfforaethol sy'n cynorthwyo'r Cyngor cyfan, a'i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n gyfrifol am gynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei agenda uchelgeisiol trwy drosi blaenoriaethau gwleidyddol yn amcanion sefydliadol gyda ffocws ar gefnogi...

  • Welsh Headings

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion uwchradd, cynradd ac arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes. **Am Y Swydd** Mae...

  • Welsh Headings

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolion ymrwymedig â gwybodaeth wych am dai a budd-daliadau i ymuno â’n tîm Datrysiadau Tai yn yr hybiau ar draws y ddinas. Mae’r hyb yn cynnig gwasanaeth cynghori rheng flaen i gwsmeriaid ar faterion Tai, Atal Digartrefedd, Budd-dal Tai a’r cynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor, Diwygio Lles...