Prentisiaeth Newyddiadurwr

5 days ago


Cardiff, United Kingdom BBC Full time

Math o Gontract: Contractau cyfnod penodol

Lleoliad: Caerdydd, Cymru 

Cyflog: Cyflog o £21,840

Mae prentisiaeth yn y BBC yn rhoi cyfle i chi roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Ni yw arweinwyr y diwydiant mewn gyrfaoedd cynnar ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Fel un o’r sefydliadau mwyaf creadigol a datblygedig o ran technoleg yn y byd dros y 100 mlynedd diwethaf, mae gyrfa yn y BBC yn golygu y cewch gyfle i ddysgu gan weithwyr proffesiynol mwyaf profiadol ac uchel eu parch yn y busnes.


Mae’r brentisiaeth Ymchwilydd Newyddiadurwr (Lefel 5) hon yn ddelfrydol ar gyfer unigolion chwilfrydig sy’n frwd dros adrodd straeon. P’un a ydych chi’n gadael yr ysgol neu’n chwilio am newid gyrfa, os nad yw prifysgol yn addas i chi, mae’r rhaglen hon yn darparu hyfforddiant newyddiaduraeth o’r radd flaenaf gyda’r darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf y byd.


Byddwch yn ennill profiad yn y gwaith wrth weithio tuag at Ddiploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth a chymhwyster prentisiaeth Lefel 5.

PRIF GYFRIFOLDEBAU

Beth fyddwch chi’n ei wneud ar y brentisiaeth?


Fel Prentis Ymchwilydd Newyddiadurwr, byddwch...

Gweithio ochr yn ochr â thimau Newyddion a Chwaraeon y BBC i ddatblygu eich sgiliau newyddiadurol, gan greu a darparu cynnwys o safon ar gyfer teledu, ar-lein, digidol a sain. Byddwch yn rhan o holl weithgareddau’r ystafell newyddion, fel dod o hyd i westeion neu gyfranwyr addas a’u sicrhau, ysgrifennu briffiau ar gyfer eich tîm neu ffilmio a golygu ffilmiau. Canfod a chreu straeon ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol, gan gynnwys meddwl am syniadau, cynnal ymchwil fanwl a chynorthwyo gyda chyfweliadau. Dysgu gan arbenigwyr yn y maes a gweithio gyda nhw.

Beth fyddwch chi’n ei hastudio?


Mae’r Brentisiaeth Ymchwilydd Newyddiadurwr yn cyfuno hyfforddiant academaidd gyda phrofiad ymarferol yn y swydd. Fel prentis, byddwch yn dilyn y safon Prentisiaeth Newyddiadurwr (cwricwlwm) ac yn gweithio tuag at y cymhwyster sy’n cael ei gydnabod gan y diwydiant, sef Diploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth. Asesir hyn drwy arholiadau a gwaith cwrs. 

Mae modiwlau a gwerthusiadau Diploma NCTJ yn debygol o gynnwys:

Newyddiaduraeth Hanfodol – sut i gael y stori a datblygu sgiliau ysgrifennu cryf. Moeseg – deall Cod Ofcom sy'n tywys newyddiadurwyr darlledu. Cyfraith Cyfryngau Hanfodol – y toolbox na all unrhyw newyddiadurwr fod hebddo, ac mae pob golygydd yn dymuno gwybod eich bod chi’n ei gael. Newyddiaduraeth ar gyfer Cynulleidfa Ddigidol – deall sut mae sefydliadau cyhoeddi digidol yn gweithio a sut i ysgrifennu straeon gwych ar draws pob llwyfan digidol. Materion Cyhoeddus – deall sut mae grym yn gweithio a sut y gallwch ei herio. Newyddiaduraeth Darlledu - gan gynnwys Radio a Theledu. E-portfolio – i gynnwys deg darn o newyddiaduraeth, a gyhoeddwyd ar unrhyw lwyfan priodol.

Yn ogystal, mae'n rhaid i chi gwblhau Gwerthusiad Pwynt Diwedd – prosiect sy’n gysylltiedig â gwaith fel rhan o'ch prentisiaeth.


Am ragor o wybodaeth ar y safon brentisiaeth yng Nghymru, gweler .


Mae rhagor am y Diploma NCTJ yn Newyddiaduraeth i'w gael

I ble y gallai’r rôl hon fynd â chi? 


Ar ôl cwblhau eich prentisiaeth yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud cais am gyfleoedd swyddi fel Ymchwilydd Newyddiadurwr, Cydlynydd Newyddiaduraeth a rolau Newyddiadurwr y tu mewn neu’r tu allan i’r BBC.

Mae’r cynllun hwn yn dechrau ym mis Medi 2025 a byddwch ar gontract cyfnod penodol, sy’n golygu bod eich contract am gyfnod y brentisiaeth yn unig. Mae’r cynllun hwn yn para 24 mis. 

AI CHI YW’R YMGEISYDD GORAU?

Mae gennym ddiddordeb yn eich angerdd i weithio yn y BBC a’ch brwdfrydedd i ddarparu cynnwys o’r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol i’n cynulleidfaoedd. Rydyn ni’n chwilio am bobl gadarnhaol sy’n dilyn ein gwerthoedd ac yn sicrhau bod ein diwylliant yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn llawn cyfleoedd. Nid ydym yn canolbwyntio ar eich cymwysterau, yn hytrach rydyn ni’n chwilio am botensial, a byddwn yn rhoi cyfle i chi roi eich profiad a’ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd. 


Drwy gydol y broses ddethol, byddwn yn chwilio am dystiolaeth o sut rydych chi’n dangos pob un o werthoedd ac ymddygiadau’r BBC. Mae ein gwerthoedd yn sail i bopeth a wnawn. Maent yn diffinio’r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl gan y BBC, a’r hyn y mae’r BBC yn ei ddisgwyl gennych chi.


Prentis Ymchwilydd Newyddiadurwr gwych yw rhywun sy’n amlygu’r canlynol:

Yn chwilfrydig iawn am bobl a’r hyn sy’n digwydd yn y byd Yn llawn syniadau creadigol a ffyrdd llawn dychymyg o adrodd straeon Yn frwd dros gynhyrchu cynnwys ar wahanol blatfformau, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol Mae ysgrifennu yn ei gyffroi Agwedd hyblyg, llawn cymhelliant ac yn barod i addasu i gyflymder y gwaith.

Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi brofiad helaeth. Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n gadael yr ysgol neu’n newid gyrfa sy’n dangos potensial yn hytrach na phrofiad neu hyfforddiant blaenorol.


Mae'r cynllun hwn wedi'i anelu at bobl heb raddio. Os oes gennych chi radd neu ddiploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth a'ch bod yn dymuno hyfforddi fel Newyddiadurwr yn y BBC, rydyn ni’n argymell eich bod yn gwneud cais am y cynllun Newyddiadurwr lefel 7. 


Mae’n rhaid i chi fodloni’r canlynol i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth yn y BBC: 

Bod yn 18 oed neu’n hŷn pan fydd y brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi 2025 Erbyn dechrau’r brentisiaeth ym mis Medi 2025, fyddwch chi wedi byw yn y DU neu mewn Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) am o leiaf 3 blynedd. Yn gymwys i weithio yn y DU yn llawn amser drwy gydol y contract prentisiaeth. Ddim yn cymryd rhan mewn cynllun prentisiaeth ar hyn o bryd sy’n cael ei gefnogi gan y BBC neu sefydliad arall.

I wneud cais am y cynllun hwn, mae hefyd yn ofynnol...

Peidio â dal gradd mewn Newyddiaduraeth eisoes, gan y byddai hyn yn eich gwneud yn anghymwys i gael cyllid Nad ydych wedi cwblhau neu’n astudio ar gyfer diploma NCTJ neu gymhwyster newyddiaduraeth ar yr un lefel neu uwch Bod gennych un ai TGAU Mathemateg a Saesneg Gradd 4/C, gradd C mewn cymhwyster National 5 (yr Alban), Sgiliau Swyddogaethol Lefel 2 neu gymhwyster cyfatebol i gwblhau’r brentisiaeth. Os nad ydych chi wedi ennill y cymwysterau hyn erbyn dechrau eich prentisiaeth, bydd gofyn i chi gyflawni Sgiliau Swyddogaethol Lefel 2 cyn diwedd eich prentisiaeth pan fyddwch chi’n cwblhau eich asesiad pwynt terfyn.

YR HYN Y BYDDWCH CHI’N EI GAEL...

Yn ystod eich prentisiaeth

Cyflog o £21,840 Hyfforddiant gyda'r gorau yn y diwydiant drwy BBC Academy a’n darparwyr dysgu (gallai olygu teithio i leoliadau ledled y DU) Rheolwr Tîm ac Arbenigwr Cynllun dynodedig i helpu gyda’ch datblygiad Wythnos waith 35 awr, 25 diwrnod o wyliau blynyddol a phensiwn wedi'i ddiffinio, yn ogystal â gofal deintyddol a gofal iechyd rhatach, aelodaeth o gampfa a llawer mwy.

Ar ddiwedd eich prentisiaeth

Diploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth Cymhwyster prentis newyddiadurwr sy’n cael ei gydnabod gan y Diwydiant  Llawer o brofiad i’ch helpu i chwilio am heriau a chyfleoedd gwaith newydd yn y BBC ac yn y diwydiant ehangach Cymorth a hyfforddiant cyflogadwyedd a rhwydweithio i’ch helpu i sicrhau eich rôl nesaf.

Y CAMAU NESAF:

Peidiwch â cholli’r cyfle i fod yn rhan o rywbeth arbennig. Os mai hwn yw’r cyfle i chi, cliciwch ar ‘Gwneud cais nawr’ 

Ar ôl i chi sefydlu eich proffil ymgeisydd, y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw ateb y cwestiynau yn yr adran gwybodaeth sy’n benodol i’r swydd ar y cais. Does dim angen i chi lenwi unrhyw un o’r adrannau dewisol nac uwchlwytho CV neu Lythyr Eglurhaol. Rydyn ni’n chwilio am eich potensial i wneud gwahaniaeth i’r BBC. 

Os ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun, byddwch yn cael rhagor o wybodaeth am gamau’r broses a beth i’w ddisgwyl. Mae trosolwg cyffredinol o’r broses ymgeisio ar gael

Mae’r hysbyseb hon ar gyfer swyddi mewn swyddfeydd yng Nghymru. Sylwch y dylech fyw pellter cymudo o leoliad y BBC yr ydych yn gwneud cais iddo, neu’n fodlon adleoli, gan fod disgwyl i chi fod yn gweithio yn y swyddfa. Mae’r cynllun hwn hefyd yn cael ei gynnig mewn lleoliadau eraill, gweler yr hysbysebion cyfatebol os ydych chi’n dymuno gwneud cais am y lleoliadau hyn. Dylech chi wneud cais i un lleoliad yn unig. 


Bydd prentisiaid sy’n dechrau yn y BBC o fis Medi 2025 ymlaen yn cael eu rhoi ar gontract ‘Tymor Sefydlog’. Mae hyn yn golygu mai dim ond am gyfnod eich prentisiaeth y mae eich contract. Pan fyddwch chi wedi cwblhau eich prentisiaeth yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi wneud cais am swydd – gallai hyn fod yn swydd yma yn y BBC, neu rywle yn y diwydiant cyfryngau ehangach. Mae’r BBC wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn talent newydd ac, wrth i chi nesáu at ddiwedd eich prentisiaeth, byddwn yn gweithio gyda chi i’ch cefnogi chi a chynnig hyfforddiant cyflogadwyedd a rhwydweithio i chi i’ch helpu i sicrhau eich rôl nesaf.

 
Disgwylir i geisiadau ar gyfer y rôl/cynllun hwn gau ddydd Iau,  28/11/2024. JRA25

GAIR AM Y BBC

Mae amrywiaeth yn bwysig yn y BBC. Mae gennym amgylchedd gwaith lle rydyn ni’n gwerthfawrogi ac yn parchu cyfraniad unigryw pob unigolyn, gan alluogi pob un o’n gweithwyr i ffynnu a chyflawni eu potensial yn llawn.

Rydyn ni eisiau denu’r ystod ehangaf o bobl dalentog i fod yn rhan o’r BBC – boed hynny i gyfrannu i’n rhaglenni neu i’n hystod eang o swyddi nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu. Po fwyaf amrywiol yw ein gweithlu, y mwyaf y bydd modd i ni ymateb i’n cynulleidfaoedd a’u hadlewyrchu yn eu holl amrywiaeth.

Rydyn ni wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion, beth bynnag fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. 

I gael rhagor o wybodaeth am Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y BBC, cliciwch . 

Cymorth gyda’ch cais


Ein huchelgais ni yw bod y BBC ar gyfer pawb ac y dylai gynnwys pawb. Rydyn ni’n falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2, ac rydyn ni wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau sy’n gysylltiedig ag anabledd. 

Rydym yn cymryd cynhwysiant o ddifrif ac rydym am sicrhau bod pob ymgeisydd sydd ag anabledd neu sydd â chyflyrau iechyd tymor hir yn cael y cymorth a’r addasiadau sydd eu hangen arnynt. Os ydych chi angen addasiadau rhesymol ar gyfer y broses ymgeisio neu os oes gennych chi anghenion mynediad yr hoffech chi roi gwybod i ni amdanynt, cysylltwch â ni gan roi cyfeirnod y swydd yn y blwch pwnc. Byddem yn fwy na pharod i gael sgwrs gyfrinachol i drafod sut gallwn ni eich cefnogi chi drwy’r broses. ID y cais i lenwi’r rôl hon yw  19444



  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Math o Gyrfa: PrentisiaethLleoliad: Caerdydd, CymruCyflog: Cyflog o £21,840Mae'r brentisiaeth Ymchwilydd Newyddiadurwr (Lefel 5) yn ddelfrydol ar gyfer unigolion chwilfrydig sy'n frwd dros adrodd straeon. Mae'r cynllun hwn yn cynnig hyfforddiant newyddiaduraeth o'r radd flaenaf gyda'r darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf y byd.Byddwch yn ennill profiad yn y...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Math o Gyrfa: PrentisiaethLleoliad: Caerdydd, CymruCyflog: Cyflog o £21,840Mae'r brentisiaeth Ymchwilydd Newyddiadurwr (Lefel 5) yn cynnig cyfle i chi roi hwb i'ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Mae'r cynllun hwn yn dechrau ym mis Medi 2025 a byddwch ar gontract cyfnod penodol, sy'n golygu bod eich contract am gyfnod y brentisiaeth yn...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Math o Gynllun: Cynllun PrentisiaethLleoliad: Caerdydd, CymruCyflog: Cyflog o £21,840Mae'r brentisiaeth Ymchwilydd Newyddiadurwr (Lefel 5) hon yn ddelfrydol ar gyfer unigolion chwilfrydig sy'n frwd dros adrodd straeon. Mae'r cynllun hwn yn cyfuno hyfforddiant academaidd gyda phrofiad ymarferol yn y swydd. Fel prentis, byddwch yn dilyn y safon Prentisiaeth...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Math o Gontract: Contractau cyfnod penodol Lleoliad: Caerdydd, Cymru  Cyflog: Cyflog o £21,840 Mae prentisiaeth yn y BBC yn rhoi cyfle i chi roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Ni yw arweinwyr y diwydiant mewn gyrfaoedd cynnar ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Fel un o’r sefydliadau...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Mae'r rhan weithio yn y BBC yn cynnig cyfle i chi roi hwb i'ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd a hi.Mae'r brentisiaeth Ymchwilydd Newyddiadurwr (Lefel 5) hon yn ddelfrydol ar gyfer unigolion chwilfrydig sy'n frwd dros adrodd straeon.Byddwch yn ennill profiad yn y gwaith wrth weithio tuag at Ddiploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth a chymhwyster...