Rheolwr Cynorthwyol Gwasanaeth Lleoli Oedolion

2 weeks ago

Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Lleoli Oedolion ar gyfer Rheolwr Cynorthwyol. Mae'r Gwasanaeth Lleoli Oedolion yn darparu llety tymor byr a thymor hir i oedolion yr aseswyd bod angen gofal a chymorth arnynt ym Mro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae pobl yn byw mewn amgylchedd teuluol a ddarperir gan Letywyr Lleoli Oedolion cymeradwy. Arolygiaeth Gofal Cymru yw rheoleiddiwr y gwasanaeth.

Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio ar ddarparu gofal o ansawdd a galluogi pobl yr aseswyd bod angen gofal a chymorth arnynt i gyflawni'r canlyniadau a nodwyd mewn ffordd gynhwysol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'r tîm yn cynnwys saith gweithiwr prosiect, un swyddog gofal cymdeithasol a gweinyddwr.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Cyflog: Gradd 9 SCP 31 £37,261 i SCP 35 £41,496

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr

Prif Weithle: Canolfan Adnoddau’r Hen Goleg

Rheswm dros gynnig swydd dros dro: Parhaol

Disgrifiad:

- O ddydd i ddydd, rhoi arweinyddiaeth ymarferol a chefnogaeth rheoli i’r tîm Lleoli Oedolion (CB) a Gwestywyr.
- O ddydd i ddydd, rheoli systemau a phrosesau gweithredol.
- Darparu goruchwyliaeth rheoli ar gyfer atgyfeiriadau newydd, gan gynnwys y prosesau asesu a phontio.
- Cynorthwyo gyda recriwtio, sefydlu a hyfforddi staff a gwestywyr.
- Cefnogi’r tîm i sicrhau y cwblheir dyletswyddau ariannol a gweinyddol, adolygiadau gwasanaeth, asesiadau, arolygiadau yn amserol ac y cynhelir ffeiliau achos a nodiadau.
- Monitro cynnydd ceisiadau gan westywyr newydd a chwblhau cymeradwyaethau ac adroddiadau ail-lunio amserol i’w cyflwyno i Banel Cymeradwyo Lleoli Oedolion (CB).
- Rhoi cyngor a chymorth o ddydd i ddydd i weithwyr prosiect er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyda Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Rheoliadau'r Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaeth ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.
- Cefnogi’r Rheolwr wrth ddatblygu staff a gwestywyr gan sicrhau bod hyfforddiant a goruchwyliaeth yn cael ei gynllunio a’i ddarparu.
- Cynorthwyo'r Rheolwr i ymchwilio i bryderon, cwynion, a datrys gwrthdaro ac unrhyw ofynion perfformiad a datblygiad personol y tîm, staff unigol, neu westywyr.
- Cynorthwyo gyda gweithgareddau ymgysylltu i gael barn gwestywyr, unigolion a rhanddeiliaid eraill i lywio’r gwaith o ddatblygu a gwella gwasanaethau.

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- Y profiad o weithio gyda phobl sydd ag anghenion gofal a chymorth mewn o leiaf un o'r meysydd gwasanaeth canlynol: Lleoli Teuluoedd / Gwasanaethau Oedolion / Oedolion sy’n Agored i Niwed / Cysylltu Bywydau
- Profiad o weithio ar y cyd, gweithio amlddisgyblaethol / rhyngasiantaethol
- Profiad o reoli staff/mentora/hyfforddi a goruchwylio mewn lleoliad iechyd a/neu ofal cymdeithasol.
- Ymwybyddiaeth o bolisi a deddfwriaeth berthnasol; y Ddeddf Llesiant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (2016) a’r Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005), Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2019
- Bydd gennych alluoedd cyfathrebu a gweinyddol rhagorol a byddwch yn gallu cynllunio, dadansoddi, ysgrifennu adroddiadau, gosod blaenoriaethau a gweithio ar eich liwt eich hun.
- Byddwch yn gallu rheoli tîm bach o staff a chydlynu prosesau gweithredol o ddydd i ddydd a gallu myfyrio ar eich arfer eich hun a phobl eraill a’i herio.
- Meddu ar Gymhwyster Iechyd/Gofal Cymdeithasol priodol, e.e. BSc Gwaith Cymdeithasol/Diploma Gwaith Cymdeithasol, Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig/Nyrs Anableddau Dysgu Gofrestredig, Cymhwyster Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol (FfCCh Lefel 5 neu gyfatebol)
- Gallu gweithio o dan bwysau a gosod blaenoriaethau i’ch hun ac eraill i gyd-fynd â therfynau amser ac ymrwymo i oruchwyliaeth a datblygiad proffesiynol.
- Ymrwymo i bob agwedd ar gyfle cyfartal ac arfer gwrthwahaniaethol.
- Bydd angen i chi allu gweithio'n hyblyg a gallu gyrru/teithio ledled y Fro a Phen-y-bont neu rhwng lleoliadau fel y bo'n briodol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Oes angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Manwl Oedolion

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Nick Haake, Rheolwr y Gwasanaeth Lleoli
Oedolion/Llety â Chymorth,

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: SS00616

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** The Big Fresh Catering Company yn cynnig pryd ysgol maethlon iach amser cinio, sy’n cydymffurfio â’r safonau bwyd a maeth a nodir yn Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013. Yn ogystal â hyn rydym hefyd yn darparu gwasanaeth Bwffe/Digwyddiadau o ansawdd uchel i ysgolion, Caffi Pafiliwn Pier...

  • Rheolwr Ymarferwyr

    3 days ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Bellach mae gennym ddau Dîm Cymorth i Deuluoedd ag adnoddau da sy'n ymroddedig i weithio mewn partneriaeth â theuluoedd i gyflawni'r canlyniadau...

  • Rheolwr Ymarferwyr

    3 days ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn (GIMBH) yn dîm cymunedol integredig, sydd wedi'i leoli yn uned Llanfair, Ysbyty Llandochau. Rydym yn cydweithio â nifer o weithwyr proffesiynol o awdurdodau lleol, asiantaethau iechyd a’r trydydd sector. Mae ein gwasanaeth yn cynnig gofal iechyd meddwl eilaidd i oedolion 65 oed ac yn hŷn sy'n byw...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth bellach yn rhan o’r Adran Chynllunio dan Bennaeth Gwasanaeth sy’n atebol yn uniongyrchol i'r Gyfarwyddwr Lle. Ymgymryd â cheisiadau cynllunio a cheisiadau cysylltiedig dan ddarpariaethau perthnasol deddfwriaeth gynllunio, gan gynnwys cyflwyno adroddiadau ac argymhellion i'r Pwyllgor a/neu’r Pennaeth Gwasanaeth a’r...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Gofal HIrdymor Bro Morgannwg yn asesu ac yn cefnogi pobl a’u gofalwyr sydd ag anghenion hirdymor am ofal a chymorth. Mae’r tîm yn ymateb i unigolion y mae eu hanghenion o bosibl yn gymhleth neu’n gofyn am fonitro a chymorth parhaus er mwyn cyflawni eu canlyniadau lles. Mae’r tîm yn cefnogi pobl lle nad yw gwasanaethau...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cydweithfa Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd (VVC) yn un o bum Cydweithrediad rhanbarthol sy’n rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru. Mae'n cyflawni ystod o swyddogaethau'r Asiantaeth Fabwysiadu ar ran CBS Merthyr Tudful, CBC RCT, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg. Mae'r cwmni cydweithredol yn gyfrifol...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** The Big Fresh Catering Company yn cynnig pryd ysgol maethlon iach amser cinio, sy’n cydymffurfio â’r safonau bwyd a maeth a nodir yn Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013. Yn ogystal â hyn rydym hefyd yn darparu gwasanaeth Bwffe/Digwyddiadau o ansawdd uchel i ysgolion, Caffi Pafiliwn Pier...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Tîm Gweinyddu Ardal yn darparu gwasanaeth rheng flaen a chymorth gweinyddol i Dimau Gwasanaethau Oedolion yng Nghanolfan Tŷ Jenner, Canolfan Gyswllt Un Fro ac Uned Llanfair. Fel prif gysylltiadau ar gyfer y Timau Oedolion maent yn prosesu atgyfeiriadau i'r gwasanaeth ac yn gweinyddu rhestrau aros er mwyn caniatáu trosglwyddo gwaith a...

  • Rheolwr Gweithredol

    3 days ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** **Allwch chi ein helpu ni i ddarparu arweinyddiaeth effeithiol a chreadigol ar gyfer Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc ym Mro Morgannwg?** Mae Bro Morgannwg yn fan lle gall uwch reolwyr dawnus wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydym yn ddyfeisgar ac yn wydn, wedi ymrwymo i welliant ac yn awyddus i groesawu syniadau newydd. Gan adeiladu ar...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae gan Wasanaeth Seicoleg Addysgol Bro Morgannwg gyfle cyffrous i ddarpar Seicolegwyr Addysg i ymuno â’n gwasanaeth cyfeillgar ac esblygol. Fel SAC byddwch chi’n cefnogi'r gwasanaeth i gymhwyso seicoleg i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc drwy ein model darparu gwasanaethau mewn ardal o ysgolion yn yr ALl. Rydym yn GSA creadigol...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** **Ydych chi’n defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfder wrth wneud Gwaith Cymdeithasol?** **Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru?** **Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg.** Mae gennym gyfle i Weithwyr Cymdeithasol yn y Tîm Pontio Anableddau Dysgu, a byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd wedi...

  • Rheolwr Cegin

    3 days ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** The Big Fresh Catering Company yn cynnig pryd ysgol maethlon iach amser cinio, sy’n cydymffurfio â’r safonau bwyd a maeth a nodir yn Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013. Yn ogystal â hyn rydym hefyd yn darparu gwasanaeth Bwffe/Digwyddiadau o ansawdd uchel i ysgolion, Caffi Pafiliwn Pier...

  • Rheolwr Cegin

    2 weeks ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** The Big Fresh Catering Company yn cynnig pryd ysgol maethlon iach amser cinio, sy’n cydymffurfio â’r safonau bwyd a maeth a nodir yn Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013. Yn ogystal â hyn rydym hefyd yn darparu gwasanaeth Bwffe/Digwyddiadau o ansawdd uchel i ysgolion, Caffi Pafiliwn Pier...

  • Swyddog Adolygu

    3 days ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Ydych chi’n defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau wrth wneud Gwaith Cymdeithasol? Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru? Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg. Mae’r gwasanaethau cymdeithasol oedolion ym Mro Morgannwg yn rhoi ein staff a’n Mae gennym gyfle i Swyddog Adolygu yn y Tîm...

  • Rheolwr Ymarferydd

    3 days ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Nod y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yw helpu plant i fyw bywydau heb droseddu ac i gyflawni eu llawn botensial. Mae rôl y Rheolwr Ymarferydd yn rhan o Dîm Rheoli’r GTI, gyda chyfrifoldeb dros reoli achosion cyn ac ar ôl ymddangos yn y Llys. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos gallu i oruchwylio ansawdd arferion rheoli...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth bellach yn rhan o’r Adran Chynllunio dan Bennaeth Gwasanaeth sy’n atebol yn uniongyrchol i'r Rheolwr Gyfarwyddwr. Mae Bro Morgannwg yn cynnig amrywiaeth gyffrous o waith cynllunio mewn ardal amrywiol sy'n cynnwys arfordir a chefn gwlad hardd mewn lle deniadol i fyw a gweithio ynddo gyda chysylltiadau cymdeithasol ac...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys datblygu Tîm Derbyn pwrpasol, ac mae angen rheolwr ymroddedig a galluog ar ei gyfer. I fod yn llwyddiannus, byddwch yn gwybod sut olwg...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol cymwys sydd â phrofiad o ddatblygu a chefnogi fframweithiau sicrhau ansawdd i wella'r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ac yn cefnogi canlyniadau cadarnhaol i'r holl ddinasyddion sy'n derbyn gwasanaethau. Cafwyd buddsoddiad sylweddol o fewn y tîm hwn gyda chydnabyddiaeth o'r angen i atgyfnerthu a...