Rheolwr Ymarferwyr

2 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn (GIMBH) yn dîm cymunedol integredig, sydd wedi'i leoli yn uned Llanfair, Ysbyty Llandochau. Rydym yn cydweithio â nifer o weithwyr proffesiynol o awdurdodau lleol, asiantaethau iechyd a’r trydydd sector.

Mae ein gwasanaeth yn cynnig gofal iechyd meddwl eilaidd i oedolion 65 oed ac yn hŷn sy'n byw gyda dementia ac sydd wedi cael diagnosis o salwch meddwl. Yn gyffredinol, pan fo natur y salwch yn gymhleth, yn ddifrifol, ac yn ansefydlog. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Dementia Cynnar a thimau cymunedol Awdurdodau Lleol.

Mae GIMBH yn gweithio ar y cyd â dinasyddion, teuluoedd a gofalwyr i asesu anghenion a risgiau. Rydym yn gweithio o fewn fframwaith cyfreithiol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni gynnal hawliau unigolion. Mae pob proffesiwn yn mabwysiadu dull seiliedig ar gryfderau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau tuag at asesu ac ymyriadau. Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol er mwyn sicrhau canlyniadau personol, dyfeisio gofal, a chynlluniau cymorth.

Blaenoriaeth yn GIMBH yw darparu gwasanaeth effeithiol effeithlon i bobl hŷn sy'n byw ym Mro Morgannwg. Er mwyn gwneud hyn, mae rhaid i ni sicrhau bod ein staff yn cael y hyfforddiant a’r sgiliau ar gyfer y gwaith y maen nhw'n ei wneud. I hyrwyddo lles staff, ein hathroniaeth yw meithrin diwylliant lle mae gweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u hannog i gyflawni eu llawn botensial. Rydym yn darparu hyfforddiant a goruchwyliaeth staff yn rheolaidd ac yn cynnal cyfarfod wythnosol i drafod achosion cymhleth mewn maes amlddisgyblaethol

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Cyflog: Gradd 10, PCG 36 - 39, £42,503 - £45,495

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr

Prif Weithle: Uned Llanfair. Ysbyty Llandochau. Penlan Road,. Penarth CF64 2XX

**Disgrifiad**:

- Gweithio dan gyfarwyddyd y Rheolwr Tîm Integredig.
- Rheoli a goruchwylio gweithrediadau a llif gwaith tîm y Fro
- Rhoi arweiniad a goruchwyliaeth broffesiynol i aelodau'r tîm.
- Arwain a chefnogi gyda datblygu arferion integredig.
- Cefnogi datblygiadau'r tîm o gwmpas dulliau o reoli risg sy'n deillio o salwch meddwl.
- Arwain ar ddulliau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn seiliedig ar gryfder o asesu a chynllunio gofal
- Archwilio a rhoi arweiniad ynghylch asesiadau, cynlluniau Gofal a Thriniaeth/Gofal a Chymorth.
- Llofnodi pecynnau gofal yn unol â pholisïau gweithredol ac ateblorwydd cyllideb.

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- Cymhwyster Gwaith Cymdeithasol pethnasol a chofrestriad gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o salwch meddwl a phrofiad o weithio gydag oedolion hŷn.
- Sgiliau ardderchog o hunan reoli a rheoli amser.
- Gallu cadeirio cyfarfodydd
- Profiad ymarferol o oruchwylio a rheoli
- Dealltwriaeth gadarn o'r fframweithiau cyfreithiol sy'n ymwneud ag iechyd meddwl.
- Profiad o weithio mewn tîm amlddisgyblaethol.
- Profiad o weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill.
- Y gallu i gefnogi aelodau'r tîm i gyrraedd eu llawn botensial.
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o ddiogelu Oedolion sy’n wynebu risg.
- Ymagwedd hawdd mynd ato a myfyriol.
- Lefel uchel o gymhelliant personol a’r gallu i annog eraill
- Gallu gweithio dan bwysau ac o fewn cyfyngiadau amser llym
- Sgiliau trefnu, arwain a chyd-drafod
- Barod i ddysgu a chefnogi datblygiad y gwasanaeth

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen gwiriad gan y GDG: Manwl

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Michelle Grmusa (Rheolwr Tîm Integredig 01446 721500 Opt 2

Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth

Job Reference: SS00472


  • Rheolwr Ymarferwyr

    4 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Erbyn hyn mae gennym Dîm Derbyn penodol sy'n gallu ymateb yn effeithiol ar y pwynt cyswllt cyntaf. Rydym wedi cynyddu capasiti ein Rheolwr Ymarferydd yn y...

  • Cymorth Busnes Gcichc

    4 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd sydd mewn perygl o, neu sy'n ymwneud ag ymddygiad troseddol drwy gynnig gwasanaethau atal, dargyfeirio a Gorchymyn Llys statudol. Yn rhan annatod o'r tîm, mae’r rolau Cynorthwy-ydd Perfformiad a Chymorth Busnes yn cefnogi aelodau'r tîm i ddarparu...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Tîm Gweinyddu Ardal yn darparu gwasanaeth rheng flaen a chymorth gweinyddol i Dimau Gwasanaethau Oedolion yng Nghanolfan Tŷ Jenner, Canolfan Gyswllt Un Fro ac Uned Llanfair. Fel prif gysylltiadau ar gyfer y Timau Oedolion maent yn prosesu atgyfeiriadau i'r gwasanaeth ac yn gweinyddu rhestrau aros er mwyn caniatáu trosglwyddo gwaith a...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg yn ceisio rhoi pobl wrth galon eu gofal eu hunain, ni waeth pam mae angen cymorth gofal cymdeithasol arnynt. Rydyn ni am gynnig yr help iawn i bobl ar yr amser iawn i'w helpu i fod yn hapus, yn ddiogel a chael y cyfleoedd gorau mewn bywyd. O fewn Bro Morgannwg gall ymarferwyr wneud...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Rondel House yn darparu Gwasanaeth Dydd i bobl hŷn sy'n byw yn ardaloedd Canol a Dwyrain Bro Morgannwg, a allai ddioddef o eiddilwch sy'n gysylltiedig ag oedran, salwch cronig, anabledd a/neu ddementia. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwasanaeth 5 diwrnod, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn darparu amgylchedd diogel lle gall pobl...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Gwnewch newid na fyddwch yn difaru; dod yn Weithiwr Cymdeithasol yn y lle hapusaf yng Nghymru Rhowch eich manylion cyswllt yma i ni gysylltu. Unwaith y byddwn wedi trafod y rôl sydd ar gael ac wedi ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer a symud eich cais ymlaen. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol...