Rheolwr Gweithredol
2 weeks ago
**Amdanom ni**
**Allwch chi ein helpu ni i ddarparu arweinyddiaeth effeithiol a chreadigol ar gyfer Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc ym Mro Morgannwg?**
Mae Bro Morgannwg yn fan lle gall uwch reolwyr dawnus wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydym yn ddyfeisgar ac yn wydn, wedi ymrwymo i welliant ac yn awyddus i groesawu syniadau newydd. Gan adeiladu ar gryfderau a gydnabyddir yn eang, byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm galluog ac ymroddedig sydd â gallu profedig i ddarparu gwasanaeth da ac i helpu teuluoedd i gyflawni canlyniadau da.
Ar ôl creu trydedd swydd Rheolwr Gweithredol ac ychwanegu adnoddau sylweddol ar draws ein timau craidd, rydym yn chwilio am arweinydd eithriadol, a all ymgymryd â’r dasg o arwain ein Gwasanaethau Cymorth Cynnar ac Atal.
Byddwch yn gyfrifol am ein Tîm Derbyn, ein Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid, ein Gwasanaeth Dechrau'n Deg a Chymorth Cynnar, gan weithio gyda'n partneriaid mewnol ac allanol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd gan ddefnyddio ein hymagwedd seiliedig ar gryfder.
Mae hanes profedig o reolaeth effeithiol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol Plant yn hanfodol. Yn hollbwysig, byddwch yn gwybod sut beth yw arfer da a sut i helpu ein gweithlu i gyrraedd y safonau hyn o fewn amgylchedd heriol. Bydd barn ragorol a sgiliau arwain o’r radd flaenaf yn eich galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol a pharhaol i’r Gwasanaethau Cymdeithasol ym Mro Morgannwg.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion am gyflog: Rheolwr Gweithredol 1 Pwynt 1 i 5 £55,883 - £61,275
Oriau Gwaith: Llawn amser
Prif Weithle: Swyddfa'r Dociau, Y Barri a Gwaith Hybrid
Nodwch y dyddiadau canlynol:
- Canolfan asesu - 08/02/2023
- Cyfweliadau - 09/02/2023 a 10/02/2023
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Gradd / Diploma cydnabyddedig neu gymhwyster cyfwerth mewn Gwaith Cymdeithasol hy Gradd, DipSW, CQSW ac ati.
- Cofrestru gyda'r Cyngor Gofal
- Tystiolaeth o reolaeth weithredol a strategol lwyddiannus yn y Gwasanaethau Plant statudol
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
I drafod y rôl hon a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol, cysylltwch â Rachel Evans, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, Cyngor Bro Morgannwg.
Manylion cyswllt ffôn: 01446 704792.
Job Reference: SS00530
-
Rheolwr Ymarferwyr
4 weeks ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Erbyn hyn mae gennym Dîm Derbyn penodol sy'n gallu ymateb yn effeithiol ar y pwynt cyswllt cyntaf. Rydym wedi cynyddu capasiti ein Rheolwr Ymarferydd yn y...
-
Rheolwr Cynorthwyol Gwasanaeth Lleoli Oedolion
4 weeks ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Lleoli Oedolion ar gyfer Rheolwr Cynorthwyol. Mae'r Gwasanaeth Lleoli Oedolion yn darparu llety tymor byr a thymor hir i oedolion yr aseswyd bod angen gofal a chymorth arnynt ym Mro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae pobl yn byw mewn amgylchedd teuluol a ddarperir gan Letywyr Lleoli Oedolion...
-
Rheolwr TÎm, Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
4 weeks ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys datblygu Tîm Derbyn penodedig, y mae arnom angen rheolwr ymroddedig a galluog gyda'r profiad a'r sgiliau perthnasol i oruchwylio'r...
-
Waste Compliance Officer
4 weeks ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**About us** Bydd y rôl newydd hon yn rhan o dîm Ailgylchu a Gwastraff y Gwasanaethau Cymdogaeth yn sicrhau cydymffurfiaeth ar safleoedd ailgylchu a gwastraff a chynorthwyo gyda’r gwaith o fwrw targedau ailgylchu statudol, lleihau gwastraff a bod yn garbon niwtral erbyn 2030. **About the role** Manylion cyflog: Gradd 9, PCG 31-35, £37,261-...
-
Prentis Marchnata Digidol Atal Siarcod Benthyg
4 weeks ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn bartneriaeth rhwng Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg i gyflawni’r swyddogaethau Trwyddedu, Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd. Dyma rôl newydd a datblygol sy'n gweithio i Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru (Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru) i ddatblygu a...
-
Athro Arbenigol
4 weeks ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae'r rôl yn rhan o Wasanaeth Nam ar y Clyw Bro Morgannwg o fewn Cyfarwyddiaeth Lles ac ADY Bro Morgannwg. Mae'r swydd wedi'i lleoli o fewn y tîm Nam ar y Clyw a byddai'n golygu gweithio ar draws Bro Morgannwg gyda disgyblion o enedigaeth i 25 oed. Fel rhan o wasanaethau allgymorth ac addysgu o fewn y Canolfannau adnoddau clyw cynradd ac...