Prentis Marchnata Digidol Atal Siarcod Benthyg
1 month ago
**Amdanom ni**
Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn bartneriaeth rhwng Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg i gyflawni’r swyddogaethau Trwyddedu, Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd.
Dyma rôl newydd a datblygol sy'n gweithio i Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru (Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru) i ddatblygu a chryfhau eu gallu a’u strategaeth marchnata digidol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyflawni cymhwyster Marchnata Digidol lefel 3, ac yn gweithio ar swyddogaethau cyfryngau cymdeithasol a digidol ar gyfer yr Uned
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Cyflog: Isafswm Cyflog Cenedlaethol (yn ddibynnol ar oedran)
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr o weithio hyblyg (bydd ceisiadau rhan amser/rhannu swydd yn cael eu
hystyried)
Prif Weithle: Bydd y prif leoliad gwaith yng Nghaerdydd. Bydd modd gweithio yn swyddfeydd ym Mhen-y-bont
Contract 18 mis dros dro i gwblhau prentisiaeth.
Disgrifiad
Wedi'i anelu at y rheiny sy'n gyflogedig neu sydd â phrofiad o rôl farchnata a/neu sydd â phrofiad o'r sector
marchnata digidol. Bydd y cymhwyster yn rhoi'r sgiliau i chi ddefnyddio cyfryngau digidol i ddenu ac ymgysylltu
â chwsmeriaid cyfredol a chwsmeriaid posibl drwy wahanol ddulliau fel hysbysebu ar-lein, marchnata drwy e
- bost ac optimeiddio peiriannau chwilio.
Manteision i'r dysgwr
- Dysgu sgiliau newydd a bod ar y blaen o ran tueddiadau marchnata digidol
- Ennill dealltwriaeth fanwl o'r hyn a ddisgwylir gan farchnadwr digidol
- Arbenigo mewn maes marchnata drwy amrywiaeth o fodiwlau dewisol
- Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
- Cael mynediad at gyfoeth o adnoddau drwy Moodle - ein llwyfan dysgu ar-lein
Bydd y dyletswyddau’n cynnwys:
- Ennill dealltwriaeth gadarn o farchnata digidol mewn amgylchedd rheoleiddio a busnes
- Helpu i, ac arwain y gwaith o, gynnal ac adeiladu ar bresenoldeb presennol ar lwyfannau cyfryngau
cymdeithasol, gan gynnwys llwyfannau a thueddiadau newydd, drwy greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol
- Helpu i hyrwyddo Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru drwy'r cyfryngau cymdeithasol, cydgysylltu ag
asiantaethau partner a chyfrannu at erthyglau newyddion
- Helpu gydag ymholiadau cyfryngau a meithrin perthynas â newyddiadurwyr
- Arwain ar faterion eraill fel drafftio datganiadau i'r wasg, rheoli presenoldeb y wasg a chofnodi achosion llys
- Ymchwilio i bynciau i ysgrifennu blogiau, blogiau dylanwadol a chynnwys gwefannau
- Defnyddio metrigau a dadansoddeg marchnata digidol i flaenoriaethu ac optimeiddio negeseuon a darparu
adroddiadau ar berfformiad ymgyrchoedd
- Strategaeth a threfnu cyfryngau cymdeithasol - cyfrannu at a helpu i gynllunio, dylunio a threfnu
ymgyrchoedd yn y cyfryngau
- Rheoli ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol a datblygu syniadau i ymgysylltu’n well â defnyddwyr gan
ddefnyddio llwyfannau fel Facebook, Twitter, Instagram, LinkedIn, YouTube ac ati
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Dealltwriaeth gadarn o'r defnydd o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a digidol
- Tystiolaeth o gyflawni prosiect boed yn addysgol neu’n alwedigaethol
- Profiad o ddylunio a chyflawni cynlluniau a mesur canlyniadau
- Safon uchel o sgiliau cyfathrebu yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Y gallu i weithio ar eich pen eich hun neu fel rhan o dîm yn ôl y gofyn
- Y gallu i ddelio â blaenoriaethau gwrthwynebol a llwyth gwaith heriol
- Y gallu i ddefnyddio eich menter eich hun
- Defnyddiwr TGCh cymwys
- Wedi'ch addysgu i safon lefel TGAU/'O' neu gymhwyster cyfatebol mewn Saesneg a Mathemateg
- Ymrwymiad cryf i ddatblygiad personol
- Y gallu i yrru / teithio ar hyd a lled Pen-y-bont ar Ogwr / Caerdydd / y Fro neu rhwng lleoliadau os
yw’n berthnasol
- Y gallu i weithio’r tu allan i oriau swyddfa arferol o bryd i'w gilydd, i fodloni anghenion y gwasanaeth
- Siaradwr / dysgwr Cymraeg - mae hyn yn hynod ddymunol
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Nac oes
Ystyrir trefniant secondiad ar yr amod bod caniatâd wedi'i roi gan reolwr llinell presennol yr ymgeisydd.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Sarah Smith, Rheolwr y Tîm Troseddau a Deallusrwydd Ariannol, Ffôn: 07872 116265 neu e-bost
neu
Jason Bale, Rheolwr Gweithredol Menter a Gwasanaethau Arbenigol Ffôn: 07968 901945 neu e-bost
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.
Job Reference: EHS00436