Seicolegydd Addysg Cynorthwyol

3 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae gan Wasanaeth Seicoleg Addysgol Bro Morgannwg gyfle cyffrous i ddarpar Seicolegwyr Addysg i ymuno â’n gwasanaeth cyfeillgar ac esblygol. Fel SAC byddwch chi’n cefnogi'r gwasanaeth i gymhwyso seicoleg i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc drwy ein model darparu gwasanaethau mewn ardal o ysgolion yn yr ALl. Rydym yn GSA creadigol sydd â gweledigaeth i ddarparu gweithgareddau sy'n cefnogi ysgolion i ddatblygu eu harferion a'u darpariaeth gynhwysol i ddiwallu ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol. Rydym hefyd yn ceisio blaenoriaethu llais y disgybl, ymarfer sy'n canolbwyntio ar y person ac rydym yn rhoi anghenion plant a phobl ifanc yn ganolog i'r hyn rydym yn ei wneud. Rydym yn darparu model ymgynghori o ddarparu gwasanaethau gyda'r gallu i wneud gwaith parhaus a manwl. Rydym hefyd yn darparu ystod o gyfleoedd hyfforddi ac yn cefnogi ein consortiwm i ddarparu hyfforddiant CCLlE a goruchwyliaeth CCLlE i'n hysgolion. Rydym yn chwilio am SAC brwdfrydig â chymhelliant sy'n cynllunio gyrfa yn y dyfodol fel Seicolegwyr Addysg ac sy’n dymuno gweithio'n greadigol wrth gymhwyso seicoleg i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i blant a theuluoedd ym Mro Morgannwg. Bydd y GSA yn darparu rhaglen o weithgareddau sefydlu i sicrhau bod gennych y sgiliau i gyflawni'r rôl yn effeithiol, yn ogystal â darparu cyfleoedd amrywiol ar gyfer goruchwylio a gweithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus. Mae ein SAC yn aelodau gwerthfawr iawn o'r tîm ac mae ein hysgolion yn gofyn amdanyn nhw.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Graddfa Cyflog Soulbury ar gyfer Seicolegwyr Addysg Cynorthwyol (Graddfa 1-4, (£30,694 i £34,448) Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener Prif Weithle: Canolfan Ddinesig ac Ysgolion/Lleoliadau y Barri ym Mro Morgannwg Rheswm dros gynnig swydd dros dro: Contract dros dro am flwyddyn (wedi'i ariannu gan ysgolion) - 1 Medi 2023 i 31 Awst 2024. Disgrifiad: - Cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau seicoleg addysgol i ysgolion, teuluoedd, pobl ifanc, y gymuned, a'r Awdurdod Lleol gan ddefnyddio dulliau sy'n cael eu seilio ar theori seicolegol ac addysgol gymhwysol ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth. - Helpu'r gwasanaeth i hyrwyddo newid sefydliadol mewn lleoliadau addysgol er mwyn cefnogi'r potensial dysgu a lles emosiynol plant a phobl ifanc. - Rhoi amrywiaeth o ymyriadau ar waith wedi eu seilio ar dystiolaeth seicolegol ac addysgol. - Cyfrannu'n gadarnhaol ac mewn ffordd ategol at ddarparu gwasanaethau, gan weithio dan oruchwyliaeth seicolegydd addysg. - Datblygu a darparu gwasanaethau o fewn grŵp o ysgolion mewn ardal leol. Templed Hysbyseb Newydd - System E-recriwtio - Tachwedd 2019 - Gweithio ar y cyd â gwasanaethau eraill i hyrwyddo iechyd a lles emosiynol a chodi canlyniadau addysgol yr holl ddisgyblion, gan roi sylw arbennig i grwpiau sy’n agored i niwed. - Cefnogi cydweithwyr i ddarparu rhaglenni datblygu a hyfforddi proffesiynol ar gyfer amrywiaeth o weithwyr proffesiynol. - Cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygiad proffesiynol personol a gwasanaeth ehangach a fydd yn gwella arbenigedd a gallu'r deiliad swydd i gyfrannu at waith y gwasanaeth.
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch: Rydym yn chwilio am SAC sy'n hynod frwdfrydig, angerddol, deinamig a hyblyg. Bydd angen gradd anrhydedd dda mewn seicoleg arnoch ynghyd â gwybodaeth gyfredol am theori ac ymarfer seicolegol gan gynnwys dealltwriaeth gyfredol o ddatblygiad plant a phrofiad o sut y gellir cymhwyso seicoleg mewn lleoliadau addysgol neu gymunedol. Yn ogystal, bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol datblygedig iawn ynghyd â gwybodaeth am y cyd-destun y mae gwasanaethau seicolegol, ysgolion a lleoliadau yn gweithio ynddo. Rydym yn chwilio am SAC brwdfrydig â chymhelliant sy'n cynllunio gyrfa yn y dyfodol fel Seicolegydd Addysg.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Job Reference: LS00235



  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae gan Wasanaeth Seicoleg Addysgol Bro Morgannwg gyfle cyffrous i ddarpar Seicolegwyr Addysg i ymuno â’n gwasanaeth cyfeillgar ac esblygol. Fel SAC byddwch chi’n cefnogi'r gwasanaeth i gymhwyso seicoleg i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc drwy ein model darparu gwasanaethau mewn ardal o ysgolion yn yr ALl. Rydym yn GSA creadigol...

  • Seicolegydd Addysg

    1 day ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae gennym gyfle cyffrous i seicolegydd addysg ymuno â'n gwasanaeth creadigol a chefnogol. Mae ein tîm yn cynnwys unigolion sy'n rhannu angerdd dros roi perthnasoedd wrth wraidd ein dull gweithredu. Mae cyfleoedd gwych i ddatblygu’r hyn sydd o ddiddordeb i chi a chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth seicolegol i...