Seicolegydd Addysg Cynorthwyol

3 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae gan Wasanaeth Seicoleg Addysgol Bro Morgannwg gyfle cyffrous i ddarpar Seicolegwyr Addysg i ymuno â’n gwasanaeth cyfeillgar ac esblygol. Fel SAC byddwch chi’n cefnogi'r gwasanaeth i gymhwyso seicoleg i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc drwy ein model darparu gwasanaethau mewn ardal o ysgolion yn yr ALl. Rydym yn GSA creadigol sydd â gweledigaeth i ddarparu gweithgareddau sy'n cefnogi ysgolion i ddatblygu eu harferion a'u darpariaeth gynhwysol i ddiwallu ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol. Rydym hefyd yn ceisio blaenoriaethu llais y disgybl, ymarfer sy'n canolbwyntio ar y person ac rydym yn rhoi anghenion plant a phobl ifanc yn ganolog i'r hyn rydym yn ei wneud. Rydym yn darparu model ymgynghori o ddarparu gwasanaethau gyda'r gallu i wneud gwaith parhaus a manwl.

Rydym hefyd yn darparu ystod o gyfleoedd hyfforddi ac yn cefnogi ein consortiwm i ddarparu hyfforddiant CCLlE a goruchwyliaeth CCLlE i'n hysgolion. Rydym yn chwilio am SAC brwdfrydig â chymhelliant sy'n cynllunio gyrfa yn y dyfodol fel Seicolegwyr Addysg ac sy’n dymuno gweithio'n greadigol wrth gymhwyso seicoleg i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i blant a theuluoedd ym Mro Morgannwg. Bydd y GSA yn darparu rhaglen o weithgareddau sefydlu i sicrhau bod gennych y sgiliau i gyflawni'r rôl yn effeithiol, yn ogystal â darparu cyfleoedd amrywiol ar gyfer goruchwylio a gweithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus. Mae ein SAC yn aelodau gwerthfawr iawn o'r tîm ac mae ein hysgolion yn gofyn amdanyn nhw.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Graddfa Cyflog Soulbury ar gyfer Seicolegwyr Addysg Cynorthwyol (Graddfa 2-5, (£35228 i £39431) Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener Prif Weithle: Canolfan Ddinesig ac Ysgolion/Lleoliadau y Barri ym Mro Morgannwg Rheswm dros gynnig swydd dros dro: Contract dros dro am flwyddyn (wedi'i ariannu gan ysgolion) - 1 Medi 2024 i 31 Awst 2025.

Disgrifiad:

- Cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau seicoleg addysgol i ysgolion, teuluoedd, pobl ifanc, y gymuned, a'r Awdurdod Lleol gan ddefnyddio dulliau sy'n cael eu seilio ar theori seicolegol ac addysgol gymhwysol ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
- Helpu'r gwasanaeth i hyrwyddo newid sefydliadol mewn lleoliadau addysgol er mwyn cefnogi'r potensial dysgu a lles emosiynol plant a phobl ifanc.
- Rhoi amrywiaeth o ymyriadau ar waith wedi eu seilio ar dystiolaeth seicolegol ac addysgol.
- Cyfrannu'n gadarnhaol ac mewn ffordd ategol at ddarparu gwasanaethau, gan weithio dan oruchwyliaeth seicolegydd addysg.
- Datblygu a darparu gwasanaethau o fewn grŵp o ysgolion mewn ardal leol. Templed Hysbyseb Newydd - System E-recriwtio - Tachwedd 2019
- Gweithio ar y cyd â gwasanaethau eraill i hyrwyddo iechyd a lles emosiynol a chodi canlyniadau addysgol yr holl ddisgyblion, gan roi sylw arbennig i grwpiau sy’n agored i niwed.
- Cefnogi cydweithwyr i ddarparu rhaglenni datblygu a hyfforddi proffesiynol ar gyfer amrywiaeth o weithwyr proffesiynol.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygiad proffesiynol personol a gwasanaeth ehangach a fydd yn gwella arbenigedd a gallu'r deiliad swydd i gyfrannu at waith y gwasanaeth.

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:
Rydym yn chwilio am SAC sy'n hynod frwdfrydig, angerddol, deinamig a hyblyg. Bydd angen gradd anrhydedd dda mewn seicoleg arnoch ynghyd â gwybodaeth gyfredol am theori ac ymarfer seicolegol gan gynnwys dealltwriaeth gyfredol o ddatblygiad plant a phrofiad o sut y gellir cymhwyso seicoleg mewn lleoliadau addysgol neu gymunedol.

Yn ogystal, bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol datblygedig iawn ynghyd â gwybodaeth am y cyd-destun y mae gwasanaethau seicolegol, ysgolion a lleoliadau yn gweithio ynddo. Rydym yn chwilio am SAC brwdfrydig â chymhelliant sy'n cynllunio gyrfa yn y dyfodol fel Seicolegydd Addysg.
**Gwybodaeth Ychwanegol**

Job Reference: LS00322



  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae gan Wasanaeth Seicoleg Addysgol Bro Morgannwg gyfle cyffrous i ddarpar Seicolegwyr Addysg i ymuno â’n gwasanaeth cyfeillgar ac esblygol. Fel SAC byddwch chi’n cefnogi'r gwasanaeth i gymhwyso seicoleg i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc drwy ein model darparu gwasanaethau mewn ardal o ysgolion yn yr ALl. Rydym yn GSA creadigol...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Ydych chi'n angerddol am drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol? Mae Cyngor Bro Morgannwg yn chwilio am arweinydd ymroddedig a gweledigaethol i fod yn Bennaeth nesaf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Lles. Yn y rôl ganolog hon, byddwch yn arwain ein hymdrechion i ddarparu gwasanaethau addysg a chymorth cynhwysol...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth bellach yn rhan o’r Adran Chynllunio dan Bennaeth Gwasanaeth sy’n atebol yn uniongyrchol i'r Gyfarwyddwr Lle. Ymgymryd â cheisiadau cynllunio a cheisiadau cysylltiedig dan ddarpariaethau perthnasol deddfwriaeth gynllunio, gan gynnwys cyflwyno adroddiadau ac argymhellion i'r Pwyllgor a/neu’r Pennaeth Gwasanaeth a’r...

  • Uwch Gyfreithiwr

    1 day ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn Dibynnu ar gymhwyster a phrofiad, teitl y swydd fydd nail ai: Uwch Gyfreithiwr neu Gyfreithiwr Cynorthwyol. Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd â diddordeb / cefndir amlwg mewn gwaith cyfreithiol Cyflogaeth, ac Ymgyfreitha. Os mai chi yw hwn, gallai hwn fod yn gyfle newydd a chyffrous i unigolyn brwdfrydig sydd efallai'n meddu ar...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae’r swydd hon yn rhan o’r tîm Cynhwysol, yn cynnig cwricwlwm amrywiol o weithgareddau a phrosiectau ieuenctid mewn ysgolion, y gymuned a'r awyr agored wrth ddiwallu anghenion a diddordebau pobl ifanc ym Mro Morgannwg. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Cyflog ar gyfer...

  • Uwch Gynllunydd

    4 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn chwilio am Gynllunydd Cynorthwyol a gwybodus i ymuno â'n tîm cynllunio. Mae Bro Morgannwg yn cynnig amrywiaeth gyffrous o waith cynllunio mewn ardal amrywiol sy'n cynnwys arfordir a chefn gwlad hardd mewn lle deniadol i fyw a gweithio ynddo gyda chysylltiadau cymdeithasol ac economaidd cryf â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn...

  • Athro Tlr2a

    2 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Ysgol Gynradd Llandochau yn ysgol gynradd un dosbarth mynediad yn Llandochau. Mae 208 o ddisgyblion ar y gofrestr, o'r Meithrin hyd at Flwyddyn 6. Fel ysgol, ein nod yw darparu amgylchedd hapus ac ysgogol sy'n caniatáu i blant ffynnu a rhagori wrth feithrin ethos meithrin sy'n caniatáu i bob plentyn lwyddo. Oherwydd hyrwyddo'r...