Uwch Gyfreithiwr

4 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**

Yn Dibynnu ar gymhwyster a phrofiad, teitl y swydd fydd nail ai: Uwch Gyfreithiwr neu Gyfreithiwr Cynorthwyol.

Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd â diddordeb / cefndir amlwg mewn gwaith cyfreithiol Cyflogaeth, ac Ymgyfreitha. Os mai chi yw hwn, gallai hwn fod yn gyfle newydd a chyffrous i unigolyn brwdfrydig sydd efallai'n meddu ar neu'n dymuno ennill sgiliau a phrofiad yn y maes hwn o waith.

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion am gyflog: Gradd 8, 26 - 30 (£32,909 - £36,298) or Gradd 10; 36-39 (£42,503-£45,495)
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 awr yr wythnos / Dydd Llun I dydd Gwener
Prif Waith: Swyddfeydd Dinesig

**Disgrifiad**:
Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddarparu gwasanaeth cyfreithiol cynhwysfawri’r Cyngor. Gyda phwyslais ar gyflogaeth, addysg, ymgyfreitha a Gwaith trwyddedu.

**Amdanat ti**

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach

Rydym yn chwilio am Gyfreithiwr Cyflogaeth ac Ymgyfreitha i ymuno â'n tîm uchel ei barch, cyfeillgar a phrofiadol.

Byddwch yn rhoi cyngor ac arweiniad ar ystod amrywiol a diddorol o faterion cyfraith cyflogaeth a Chyfreitha. Bydd eich rôl yn cynnwys gwaith dadleuol a di-gynnen, megis cynnal achosion Tribiwnlys Cyflogaeth, a chynghori ar faterion cysylltiadau diwydiannol.

Rydym yn falch o’r manteision a gynigiwn ac yn croesawu ceisiadau gan gyfreithwyr sydd am weithio o bell, yn hyblyg neu’n rhan amser. Rydym yn cymryd amrywiaeth a chynhwysiant o ddifrif ac yn edrych i adeiladu a chynnal gwasanaeth sy'n adlewyrchu'r gymuned yr ydym yn ei chynrychioli.

Mae profiad o gyfraith cyflogaeth yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol a gallwn ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant i ymgeisydd llwyddiannus sy'n gallu dangos sgiliau cyfreithiol trosglwyddadwy cryf.

Rydym yn cynnig buddion staff rhagorol gan gynnwys cyflog cystadleuol, cyfraniad hael at bensiwn, gweithio hyblyg, a rhaglen cymorth i weithwyr.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: Safonol
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Richard Price 01446 709409
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.

Job Reference: RES00362


  • Uwch Gyfreithiwr

    4 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle ar gyfer Uwch Gyfreithiwr wedi codi ac rydym yn chwilio am ymgeisydd o safon uchel gyda phrofiad perthnasol i ymuno â thîm cyfreithiol y Cyngor yn y Tîm Gwasanaethau Cymunedol. Mae'r tîm brwdfrydig a hynod broffesiynol hwn yn chwilio am unigolyn sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth yn ei waith ac sy’n frwd dros waith cyfreithiol...

  • Uwch Gyfreithiwr

    4 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddarparu gwasanaeth cyfreithiol cynhwysfawr i’r Cyngor. Gyda phwyslais ar waith cyfreithiol anafiadau personol ymgyfreitha a thai. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog: Gradd 10; 36-39, £42,503 - £45,495 Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 awr yr wythnos / Dydd Llun I dydd Gwener Prif Waith: Swyddfeydd...