Uwch Gyfreithiwr

4 months ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae cyfle ar gyfer Uwch Gyfreithiwr wedi codi ac rydym yn chwilio am ymgeisydd o safon uchel gyda phrofiad perthnasol i ymuno â thîm cyfreithiol y Cyngor yn y Tîm Gwasanaethau Cymunedol. Mae'r tîm brwdfrydig a hynod broffesiynol hwn yn chwilio am unigolyn sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth yn ei waith ac sy’n frwd dros waith cyfreithiol Gwasanaethau Plant a gweithio mewn Llywodraeth Leol.

Bydd y swydd yn cynnwys rhoi cyngor a pharatoi ceisiadau i'r Llys ac yn cynnwys eiriolaeth, a bydd angen i'r unigolyn a benodir allu delio â llwyth gwaith amrywiol a heriol a bod yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cyfreithiol mewnol llwyddiannus.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Cyflog: Uwch Gyfreithiwr - Gradd 10 (PCG 36 - 39) £38,813 - £41,675. Cyfreithiwr Cynorthwyol - Gradd 8 (PCG 26 - 30) £29,636 - £32,878 (yn ddibynnol ar brofiad). Ar hyn o bryd mae Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £5,500 y flwyddyn yn cael ei gymhwyso i gyflog y swydd hon ac yn destun adolygiad.

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: Dydd Llun i ddydd Gwener 37 awr

Prif Weithle: Y Swyddfeydd Dinesig ond mae'r gwasanaeth erbyn hyn yn dilyn model gweithio hybrid sy'n galluogi gweithwyr i weithio’n hyblyg o’u cartrefi neu mewn swyddfa, yn dibynnu ar ofynion y gwasanaeth a gofyniad i fynychu gwrandawiadau llys mewn person. Mae gennym system rheoli achosion fodern, adnoddau cyfreithiol ar-lein, a thîm o Gynorthwywyr Cyfreithiol ymroddedig. Mae gennym hefyd swydd cyfreithiwr dan hyfforddiant yr ydym yn ei defnyddio er mwyn helpu i dyfu ein gweithlu ein hunain.

Rheswn dros dro: contract cyfnod penodol o 2 flynedd
Disgrifiad: Gweler yr adran "amdanom ni" ynghyd â'r Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person.

**Amdanat ti**

Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod wedi’i dderbyn fel cyfreithiwr neu ei alw i’r bar a rhaid iddo allu gweithio’n rhan o dîm.

Disgwyliwn i’r unigolyn a benodir gymryd cyfrifoldeb personol am sicrhau rhagoriaeth, gweithio gydag eraill i gyflawni’r canlyniadau gorau posib, ymateb yn gadarnhaol i newid a chyfleoedd newydd er mwyn manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael a meddwl a gweithredu gyda golwg ar hyrwyddo buddiannau’r Cyngor.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Angen Gwiriad GDG: safonol

Er bod y rôl yn heriol, mae ein polisïau gweithio hyblyg yn sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Mae polisi Amser Hyblyg y Cyngor yn berthnasol i'r swydd ac mae patrymau gweithio hyblyg ar gael, yn amodol ar ddiwallu anghenion ein cleientiaid ac ystyried trefniadau gwaith aelodau presennol y tîm.

Bydd yr ymgeiswyr hynny sy'n llwyddiannus ar y cam ffurflen gais yn cael eu gwahodd i gyfweliad, a bydd y cyfweliad hwn yn cael ei gynnal ar Microsoft Teams. Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â hyn, cysylltwch ag Alex Fletcher i gael trafodaeth.

Job Reference: RES00361


  • Uwch Gyfreithiwr

    4 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn Dibynnu ar gymhwyster a phrofiad, teitl y swydd fydd nail ai: Uwch Gyfreithiwr neu Gyfreithiwr Cynorthwyol. Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd â diddordeb / cefndir amlwg mewn gwaith cyfreithiol Cyflogaeth, ac Ymgyfreitha. Os mai chi yw hwn, gallai hwn fod yn gyfle newydd a chyffrous i unigolyn brwdfrydig sydd efallai'n meddu ar...

  • Uwch Gyfreithiwr

    4 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddarparu gwasanaeth cyfreithiol cynhwysfawr i’r Cyngor. Gyda phwyslais ar waith cyfreithiol anafiadau personol ymgyfreitha a thai. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog: Gradd 10; 36-39, £42,503 - £45,495 Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 awr yr wythnos / Dydd Llun I dydd Gwener Prif Waith: Swyddfeydd...