Gweithiwr Cymdeithasol

3 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**

**Ydych chi’n defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfder wrth wneud Gwaith Cymdeithasol?**

**Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru?**

**Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg.**

Mae gennym gyfle i Weithwyr Cymdeithasol yn y Tîm Pontio Anableddau Dysgu, a byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd wedi ymrwymo i ymarfer o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae Tîm Anabledd Dysgu'r Fro yn dîm amlddisgyblaethol sy'n cynorthwyo oedolion 18+ oed a hefyd bobl ifanc sy’n dod drwy Bontio i’r Gwasanaethau Oedolion â diagnosis o Anabledd Dysgu i fodloni eu hanghenion gofal a chymorth cymwys a'u canlyniadau personol.

**Dyma gyfle cyffrous i weithio fel rhan o'n Tîm Pontio, i gefnogi pobl ifanc gyda symud o gartref / lleoliadau i fyw'n annibynnol yn y gymuned / llety â chymorth neu opsiynau llety a asesir eraill.**

**Bydd hwn yn gyfle anhygoel i weithio'n agos gyda'r rheolwyr i greu ac esblygu'r rôl i fodloni canlyniadau personol defnyddwyr ein gwasanaeth mewn dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn / ar sail cryfder.**

Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda Gwasanaethau Plant, ein Llety â Chymorth a'n Gwasanaethau Lleoliad i Oedolion, darparwyr allanol, ac asiantaethau eraill.

Rydym yn buddsoddi yn ein timau i fynd â'r gwasanaeth i'r lefel nesaf o ragoriaeth.

Byddwch yn cael cymorth rhagorol ac yn cael mynediad at ystod o gyfleoedd hyfforddi i'ch cefnogi yn eich rôl.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Cyflog: Gradd 8/9, (Yn dibynnu ar brofiad)

PCG 26 - 35 £32,909 - £41,496 y flwyddyn

Oriau Gwaith/Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos 8.30-5.00pm (4.30pm dydd Gwener) gyda lefel o hyblygrwydd.

Prif Weithle: Tîm Anableddau Dysgu, Canolfan Adnoddau’r Hen Goleg

Swydd barhaol

**Disgrifiad**:

- Cyflawni asesiad o ddinasyddion yn unol â dyletswyddau statudol dan ddeddfwriaeth berthnasol.
- Cynllunio a chomisiynu gwasanaethau i alluogi oedolion ag anghenion gofal a chymorth a gofalwyr ag anghenion cymorth i oresgyn y rhwystrau i gyflawni'r canlyniadau personol a monitro ac adolygu'r cynlluniau gofal drwy gyd-gynhyrchu â dinasyddion a gofalwyr
- Paratoi ar gyfer sesiynau goruchwylio ac Adolygu Datblygiad Personol (#AmdanafFi) gyda’r goruchwylydd/rheolwr llinell a chyfrannu atynt, a nodi anghenion datblygu personol a hyfforddiant i gynnal Cofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Dilyn hyfforddiant i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus i sicrhau bod y Cyngor yn gallu parhau i gyflawni ei swyddogaethau statudol, gan gynnwys parodrwydd i alluogi staff i ddilyn hyfforddiant pellach i ddod yn Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy, neu’n weithwyr mewn rolau uwch eraill mwy penodol.
- Goruchwylio neu fentora staff neu fyfyrwyr eraill lle y bo’n briodol a chynnig mewnbwn i raglenni hyfforddiant a chyfarfodydd Materion Ymarfer Tîm lle y bo’n briodol.
- Rhoi gwybod am unrhyw bryderon ynglŷn â diogelu i’r swyddog diogelu priodol yn ddi-oed.

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o weithio gydag oedolion a phobl ifanc sy'n gymwys i gael cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.
- Asesu dinasyddion sy’n Oedolion a phobl ifanc.
- Gweithio gyda phobl ifanc sy'n dod o’r Gwasanaeth Plant i bontio i'r Tîm Anableddau Dysgu.
- Cefnogi oedolion i symud ymlaen o adref / lleoliadau i'r gymuned.
- Hybu oedolion i fyw mor annibynnol â phosib a chael bywyd bodlon.
- Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau statudol/gwirfoddol i hyrwyddo annibyniaeth dinasyddion.
- Profiad o weithio gydag ymagwedd ar sail adfer/cryfder o gefnogi dinasyddion i gyflawni eu canlyniadau personol
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol e.e. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru); y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, y Ddeddf Iechyd Meddwl, y Ddeddf Galluedd Meddyliol a.y.b.
- Gwybodaeth am faterion a gweithdrefnau diogelu o ran oedolion
- Gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau Cyfle Cyfartal ac ymrwymiad iddynt
- Y gallu i gyfathrebu’n glir ac effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Gallu asesu anghenion, cynllunio gwaith, pennu blaenoriaethau ac adolygu trefniadau.
- Y gallu i ddadansoddi a dehongli gwybodaeth.
- Gallu cydgysylltu a chyd-drafod ag unigolion, gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau.
- Y gallu i weithio fel aelod o dîm.
- Y gallu i weithio’n hyblyg a dan bwysau.
- Gallu gweithredu a chynnal systemau rheoli TG a gwaith achos. Safon addysg gyffredinol dda.
- Ymrwymiad i'ch datblygiad personol eich hun a hyfforddiant pellach.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Angen Gwiriad GDG

Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person atodol am ragor o wybodaeth.

Job Reference: SS00641



  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle wedi codi i unigolyn/unigolion brwdfrydig sy'n gweithio'n galed fod yn rhan o Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol Integredig deinamig. Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda dinasyddion sy'n profi anawsterau iechyd meddwl difrifol a pharhaus ac sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd o dan Fesur Iechyd Meddwl...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Gwnewch newid na fyddwch yn difaru; dod yn Weithiwr Cymdeithasol yn y lle hapusaf yng Nghymru Rhowch eich manylion cyswllt yma i ni gysylltu. Unwaith y byddwn wedi trafod y rôl sydd ar gael ac wedi ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer a symud eich cais ymlaen. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae tîm Asesydd Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn dîm integredig sy'n cynnwys staff Nyrsio a Gweithwyr Cymdeithasol, Ei prif gyfrifoldebau yw cynnal asesiadau integredig cynhwysfawr o unigolion mewn cartrefi nyrsio a chynrychioli'r Awdurdod Lleol yn y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG (CHC) a...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle wedi codi i unigolyn hyblyg, gwydn, brwdfrydig a gweithgar ddod yn rhan annatod o weledigaeth y cyngor i ddarparu'r gwasanaethau iawn i bobl ag anawsterau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd. Fel y disgrifir yn Fframwaith Gwasanaeth i Drin Pobl sydd â Phroblemau Iechyd Meddwl a Phroblemau oherwydd...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Gofal Hirdymor Bro Morgannwg yn asesu pobl sydd ag anghenion hirdymor am ofal a chymorth ac yn eu cefnogi nhw a’u gofalwyr. Mae'r tîm yn ymateb i unigolion y gall eu hanghenion fod yn gymhleth neu y mae angen eu monitro a’u cefnogi’n barhaus er mwyn iddynt gyflawni eu canlyniadau lles. Mae'r tîm yn cefnogi pobl nad yw...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** **Ydych chi’n defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfder wrth wneud Gwaith Cymdeithasol?** **Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru?** **Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg.** Mae gennym gyfle i Weithwyr Cymdeithasol yn y Tîm Pontio Anableddau Dysgu, a byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd wedi...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cydweithfa Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd (VVC) yn un o bum Cydweithrediad rhanbarthol sy’n rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru. Mae'n cyflawni ystod o swyddogaethau'r Asiantaeth Fabwysiadu ar ran CBS Merthyr Tudful, CBC RCT, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg. Mae'r cwmni cydweithredol yn gyfrifol...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cynnig cyfleoedd anffurfiol i bobl ifanc 11-25 oed ledled Bro Morgannwg i'w helpu i gyflawni eu potensial llawn. Rydym yn darparu amgylcheddau diogel i bobl ifanc fwynhau eu hunain a chwrdd ag eraill; teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi; cael gwybodaeth a chymorth; a dysgu sgiliau newydd. **Ynglŷn â'r...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Gyda newidiadau a datblygiadau yn y dyfodol o fewn y Tîm Addysg, mae swydd barhaol newydd a chyffrous ar gael ar gyfer Gweithiwr Achos Ymgysylltu Disgyblion. Mae’r swydd hon yn eistedd o fewn y gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau sy’n adrodd i’r Cydlynydd Gwaith Achos Ymgysylltu â Disgyblion a’r Rheolwr AHYYY a bydd yn helpu i ysgogi a...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Lleoli Oedolion ar gyfer Rheolwr Cynorthwyol. Mae'r Gwasanaeth Lleoli Oedolion yn darparu llety tymor byr a thymor hir i oedolion yr aseswyd bod angen gofal a chymorth arnynt ym Mro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae pobl yn byw mewn amgylchedd teuluol a ddarperir gan Letywyr Lleoli Oedolion...

  • Gweithiwr Gofal Plant

    1 month ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau o fewn ei Rhaglen Dechrau'n Deg. Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael mewn ardaloedd penodol i gefnogi pob teulu i roi Dechrau'n Deg mewn bywyd i blant 0-3 oed Nod y rhaglen yw darparu gwasanaethau cymorth dwys i blant a’u teuluoedd. Mae’r rhaglen yn...

  • Gweithiwr Gofal Plant

    4 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau o fewn ei Rhaglen Dechrau'n Deg. Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael mewn ardaloedd penodol i gefnogi pob teulu i roi Dechrau'n Deg mewn bywyd i blant 0-3 oed Nod y rhaglen yw darparu gwasanaethau cymorth dwys i blant a’u teuluoedd. Mae’r rhaglen yn...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Me’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (GAI) yn wasanaeth i bobl o bob oed gydag ASA/Awtistiaeth sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae’r gwasanaeth yn cynnig un pwynt mynediad, gan gynnwys opsiynau hunan-atgyfeirio i'r gwasanaeth diagnosteg oedolion ac ymyriadau byr dymor parhaus i oedolion a theuluoedd ar ôl cael diagnosis a...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Tîm Gweinyddu Ardal yn darparu gwasanaeth rheng flaen a chymorth gweinyddol i Dimau Gwasanaethau Oedolion yng Nghanolfan Tŷ Jenner, Canolfan Gyswllt Un Fro ac Uned Llanfair. Fel prif gysylltiadau ar gyfer y Timau Oedolion maent yn prosesu atgyfeiriadau i'r gwasanaeth ac yn gweinyddu rhestrau aros er mwyn caniatáu trosglwyddo gwaith a...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Rondel House yn darparu Gwasanaeth Dydd i bobl hŷn sy'n byw yn ardaloedd Canol a Dwyrain Bro Morgannwg, a allai ddioddef o eiddilwch sy'n gysylltiedig ag oedran, salwch cronig, anabledd a/neu ddementia. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwasanaeth 5 diwrnod, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn darparu amgylchedd diogel lle gall pobl...