Gweithiwr Cymdeithasol

2 weeks ago

Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**

Mae cyfle wedi codi i unigolyn hyblyg, gwydn, brwdfrydig a gweithgar ddod yn rhan annatod o weledigaeth
y cyngor i ddarparu'r gwasanaethau iawn i bobl ag anawsterau iechyd meddwl a chamddefnyddio
sylweddau sy'n cyd-ddigwydd.

Fel y disgrifir yn Fframwaith Gwasanaeth i Drin Pobl sydd â Phroblemau Iechyd Meddwl a Phroblemau
oherwydd Camddefnyddio Sylweddau sy’n Cyd-ddigwydd Llywodraeth Cymru, mae Diagnosis Deuol yn
derm a ddefnyddir i ddisgrifio cydfodolaeth dau anhwylder neu fwy sydd wedi'u diagnosio. Gall hyn arwain
at ddehongliad cul o angen, gan arwain at fylchau mewn darpariaethau, fodd bynnag, mae diffiniad
ehangach o broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd, p'un a yw o
ddifrifoldeb digonol i'w ystyried fel anhwylder y gellir ei ddiagnosio yn fwy priodol wrth ystyried cwmpas y rôl
hon. Fodd bynnag, i’w gadw’n gryno defnyddir yr ymadrodd "diagnosis deuol" ar gyfer y swydd hon, ond
gydag ystyr y diffiniad ehangach a mwy cynhwysol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda dinasyddion sy'n cael anawsterau difrifol gydag iechyd
meddwl a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau sy’n cyd-ddigwydd. Bydd yn gweithio ar draws Tîm Iechyd
Meddwl Ardal y Fro a thîm Alcohol a Chyffuriau'r Fro, a byddant yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr
iechyd a rhanddeiliaid eraill wrth gyfrannu at ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl a chamddefnyddio
sylweddau amlddisgyblaethol/amlasiantaethol i gynorthwyo'r dinesydd yn ei daith adfer. Bydd disgwyl iddo
gynnal asesiadau a llunio ac adolygu cynlluniau gofal a chymorth integredig sy'n hyrwyddo annibyniaeth
dinasyddion a'u gwydnwch wrth reoli eu hanawsterau a'u heffaith ar eu bywyd, gan fanteisio ar ei gryfderau
i wella’r cyfle o wellhad llwyddiannus a chynaliadwy.

Bydd hefyd yn gweithredu fel cyswllt rhwng gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd a chamddefnyddio
sylweddau i hyrwyddo darparu gofal cyfannol, sy'n canolbwyntio ar adferiad a thriniaeth sy'n cyfateb i
anghenion y dinesydd

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion Cyflog: Gradd 8-9. PCG 26-35. £32909 - £41496.

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37.

Prif Weithle: Tîm Iechyd Meddwl Canolfan Newlands ac ardal y Fro.

Rheswm dros gynnig swydd dros dro: Dd/b

**Disgrifiad**:
Asesu oedolion i benderfynu ar gymhwysedd o ran darparu gwasanaethau, hyrwyddo annibyniaeth defnyddwyr a’u grymuso. Cynnig gwybodaeth, cyngor ac atgyfeiriadau fel y bo’n briodol at wasanaethau allanol i ddiwallu anghenion a nodwyd.

**Amdanat ti**
Bydd angen i chi ddangos:

- Profiad o weithio gydag oedolion sy’n agored i niwed trwy salwch, anabledd neu eiddilwch oherwydd eu hoedran.
- Asesu defnyddwyr gwasanaeth sy’n oedolion a gofalwyr.
- Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau statudol/gwirfoddol i hyrwyddo annibyniaeth defnyddwyr gwasanaeth.

Ar gyfer Gradd 8
- Gweithwyr Cymdeithasol newydd gymhwyso, llai na 2 flynedd o brofiad ers cymhwyso / profiad ymarferol
- Yn barod i astudio er mwyn bodloni gofynion cofrestru o fewn fframwaith ADPP Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gyfer Gradd 9
- Gweithwyr cymdeithasol â mwy na 3 blynedd o brofiad o waith ymarferol
- Gweithio gydag achosion mwy cymhleth
- Goruchwylio Gweithwyr Cymdeithasol sy’n fyfyrwyr
- Goruchwylio, hyfforddi a mentora
- Asesydd Ymarfer
- Chwarae rhan lawn wrth oruchwylio’n broffesiynol yn unol â Pholisi
- Goruchwylio'r Gyfarwyddiaeth a'r Polisi Rheoli Llwyth Gwaith
- Bodloni gofynion y Fframwaith Datblygiad Gyrfa Gweithwyr Cymdeithasol

**Gwybodaeth Ychwanegol**

A oes angen gwiriad gan y GDG: Manwl.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Noel Martinez-Walsh, Rheolwr Tîm Gwaith Cymdeithasol - 01446 454300

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: SS00586

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cyngor Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau ar gyfer ei Dîm Fourteen Plus. Yn dilyn buddsoddiad sylweddol i Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi creu nifer o swyddi i ychwanegu capasiti a gwytnwch ar draws ein timau. Fel Gweithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg, bydd gennych lwyth gwaith hylaw, cefnogaeth ragorol ac amser i'w...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Gwnewch newid na fyddwch yn difaru; dod yn Weithiwr Cymdeithasol yn y lle hapusaf yng Nghymru Rhowch eich manylion cyswllt yma i ni gysylltu. Unwaith y byddwn wedi trafod y rôl sydd ar gael ac wedi ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer a symud eich cais ymlaen. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae tîm Asesydd Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn dîm integredig sy'n cynnwys staff Nyrsio a Gweithwyr Cymdeithasol, Ei prif gyfrifoldebau yw cynnal asesiadau integredig cynhwysfawr o unigolion mewn cartrefi nyrsio a chynrychioli'r Awdurdod Lleol yn y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG (CHC) a...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cyngor Bro Morgannwg yn awyddus i dderbyn ceisiadau ar gyfer ei Dîm Iechyd ac Anabledd Plant yn ei Adran Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc. Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi creu nifer o swyddi i ychwanegu capasiti a gwydnwch ar draws ein timau. Yn weithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg bydd...

    **Amdanom ni** Mae Cydweithfa Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd (VVC) yn un o bum Cydweithrediad rhanbarthol sy’n rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru. Mae'n cyflawni ystod o swyddogaethau'r Asiantaeth Fabwysiadu ar ran CBS Merthyr Tudful, CBC RCT, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg. Mae'r cwmni cydweithredol yn gyfrifol...

    **Amdanom ni** Mae Derw Newydd yn cefnogi dysgwyr 3-16 oed sydd ag anawsterau iechyd cymdeithasol, emosiynol a/neu feddyliol. Mae Derw Newydd yn rhan o Ysgol Arbennig Ysgol y Deri. Yn wreiddiol, bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn Fferm Ymddiriedolaeth Amelia a Cowbridge Court House, sy'n symud i ddarpariaeth bwrpasol yn y Barri. Dyma gyfle cyffrous i ymuno...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Lleoli Oedolion ar gyfer Rheolwr Cynorthwyol. Mae'r Gwasanaeth Lleoli Oedolion yn darparu llety tymor byr a thymor hir i oedolion yr aseswyd bod angen gofal a chymorth arnynt ym Mro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae pobl yn byw mewn amgylchedd teuluol a ddarperir gan Letywyr Lleoli Oedolion...

  • Gweithiwr Sesiynol

    7 days ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn wasanaeth amrywiol sy’n cynnig amrywiaeth o ymyraethau i blant a phobl ifanc rhwng 8 a 17 oed sy’n rhan o gynlluniau gwirfoddol a chynlluniau dan orchymyn y llys. Bydd y gweithwyr sesiynol yn cefnogi’r tîm ehangach i gynnig ymyraethau a chynnig cymorth i bobl ifanc a’u teuluoedd i leihau’r...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Mentor Lles Ieuenctid yn darparu ymyriadau lles fel rhan o'r Gwasanaeth Lles Ieuenctid. Mae’r Gwasanaeth Lles Ieuenctid yn broject wedi ei ariannu gan Teuluoedd yn Gyntaf i gynnig cymorth targedig i bobl ifanc ym Mro Morgannwg a gafodd brofiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod sydd bellach yn amharu’n sylweddol ar eu lles...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau o fewn ei Rhaglen Dechrau'n Deg. Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael mewn ardaloedd penodol i gefnogi pob teulu i roi Dechrau'n Deg mewn bywyd i blant 0-3 oed Nod y rhaglen yw darparu gwasanaethau cymorth dwys i blant a’u teuluoedd. Mae’r rhaglen yn...

  • Rheolwr Integredig

    7 days ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Tîm Iechyd Meddwl Lleol y Fro yn dîm amlddisgyblaethol deinamig, sy'n cynnig cymorth sy'n canolbwyntio ar wella ac wedi’i seilio ar ganlyniadau i bobl sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Mae gan y tîm berthnasoedd rhagorol gyda sefydliadau'r trydydd sector, gwasanaethau sylfaenol ac arbenigol ac mae'n agored i ddatblygu'r...