Gweithiwr Sesiynol

4 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn wasanaeth amrywiol sy’n cynnig amrywiaeth o ymyraethau i blant a phobl ifanc rhwng 8 a 17 oed sy’n rhan o gynlluniau gwirfoddol a chynlluniau dan orchymyn y llys. Bydd y gweithwyr sesiynol yn cefnogi’r tîm ehangach i gynnig ymyraethau a chynnig cymorth i bobl ifanc a’u teuluoedd i leihau’r risg o gymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddu.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Gradd 6, PCG 14 £25409 y.f. pro rata

Oriau Gwaith: Yn ôl yr angen

Patrwm Gweithio: Yn ôl yr angen

Prif Weithle: 91 Salisbury Road, Y Barri CF62 6PD

**Disgrifiad**:
Rydym eisiau cyflogi nifer o weithwyr achlysurol â sgiliau amrywiol i ddiwallu anghenion y bobl ifanc a'r teuluoedd a wasanaethwn. Gallai’r gwaith gynnwys gwaith 1:1 a grŵp yn ogystal â mentora a thasgau cymorth cyffredinol. Mewn rhai sefyllfaoedd gallai hyn gynnwys ymgysylltu â grwpiau mawr o bobl ifanc mewn gweithgareddau gwyliau neu breswyl.

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- 1 - 2 flynedd o brofiad o weithio gyda phlant neu bobl ifanc mewn perygl o gael eu hallgáu’n gymdeithasol mewn lleoliad ffurfiol h.y. gwaith ieuenctid, addysg, gofal cymdeithasol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiad plentyn
- Gwybodaeth am weithdrefnau diogelu plant
- Gallu gweithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun ac fel aelod o dîm, a hynny dan bwysau
- Gallu ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, a’u cymell
- Gallu negodi a chyd-gysylltu ag unigolion ac asiantaethau eraill

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad GDG: Manwl

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Carys Davies, Rheolwr Ymarferwr - Atal ac Adnoddau ar 01446 745820

Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: SS00042