Rheolwr Integredig
4 weeks ago
**Amdanom ni**
Mae Tîm Iechyd Meddwl Lleol y Fro yn dîm amlddisgyblaethol deinamig, sy'n cynnig cymorth sy'n canolbwyntio ar wella ac wedi’i seilio ar ganlyniadau i bobl sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Mae gan y tîm berthnasoedd rhagorol gyda sefydliadau'r trydydd sector, gwasanaethau sylfaenol ac arbenigol ac mae'n agored i ddatblygu'r gwasanaeth yn seiliedig ar adborth gan y bobl rydym yn eu cefnogi.
**Ynglŷn â'r rôl**
**Ynglŷn â’r rôl**
- Yn yr adran hon mae angen i chi ddisgrifio dyletswyddau’r rôl... _
Manylion Tâl: Gradd 11 Graddfa 40-43 £48,474 - £51,515
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr, dydd Llun i ddydd Gwener
Prif Weithle: Ysbyty'r Barri, Y Barri, Bro Morgannwg
***Disgrifiad**:
Cyfrifoldeb cyffredinol am lwybr integredig a phrofiad pobl o Dîm Iechyd Meddwl Lleol y Fro o atgyfeirio i ryddhau.
Sefydlu diwylliant o gydgynhyrchu, creadigrwydd ac arloesedd sy'n ymateb i anghenion newidiol pobl sydd angen cymorth iechyd meddwl.
Sicrhau cydymffurfiaeth TIMLlF â gofynion statudol a gwerthoedd ac amcanion corfforaethol a chyfarwyddiaeth y Cyngor a'r Byrddau Iechyd.
Cynnig arweinyddiaeth a goruchwyliaeth broffesiynol i'r tîm, monitro a rheoli perfformiad a nodi anghenion hyfforddi i sicrhau y darperir gwasanaeth o ansawdd uchel.
Sicrhau bod Polisïau, gweithdrefnau a chynllun cyflenwi gwasanaeth y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd yn cael eu rhoi ar waith, eu datblygu a'u hadolygu'n gywir, yn unol â deddfwriaeth ac arfer sy'n newid.
Bod yn gyfrifol am ansawdd y swyddogaethau Asesu Gofal, Cynllunio Triniaeth ac Adolygu yn y tîm.
Rheoli a gwella'r gwasanaethau a ddarperir gan y Tîm mewn cysylltiad â phobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, gofalwyr, y 3ydd sector ac asiantaethau partner eraill.
Cynnal ymchwiliadau a gwneud argymhellion ar ran y BIP a’r Awdurdod Lleol, gan gynnwys cwynion, digwyddiadau critigol, digwyddiadau difrifol annisgwyl a diogelu.
Cymryd rhan yn ôl y gofyn mewn trefniadau cynllunio rhyngadrannol a gwaith prosiect yn rheolaidd neu ar sail ad hoc i sicrhau bod dull cydgysylltiedig a thrawsbynciol corfforaethol yn cael ei ddatblygu yng ngwaith a swyddogaethau'r Cyngor / BIP.
**Amdanat ti**
**Amdanoch chi**
- Yn yr adran hon, mae angen i chi ddisgrifio gofynion hanfodol yr ymgeisydd..._
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Profiad clinigol / statudol helaeth, gan weithio ym maes Cynllunio Gofal ac Asesu Iechyd Meddwl Aml-ddisgyblaethol.
- Profiad o reoli’n llwyddiannus gan gynnwys cynllunio busnes, archwilio a gwerthuso, arwain unigolion a thimau.
- Profiad o reoli adnoddau yn brydlon ac o fewn cyllideb
- Profiad o asesu a rheoli risg
- Gwybodaeth o’r holl ddeddfwriaeth / canllawiau a pholisïau perthnasol
- Gweithiwr Cymdeithasol Cofrestredig / Cymhwyster Proffesiynol Iechyd Meddwl Cofrestredig
- Cymhwyster Rheoli Perthnasol fel gradd, Diploma Lefel 5 TMDP mewn Arwain a Rheoli.
- Sgiliau arwain a threfnu rhagorol.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol a lefelau uchel o gymhelliant
**Gwybodaeth Ychwanegol**
**Gwybodaeth Ychwanegol**
- Yn yr adran hon, mae angen i chi ddisgrifio unrhyw wybodaeth ychwanegol i’r ymgeisydd..._
Angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Manwl (Gwahardd Oedolion)
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Linda Woodley Rheolwr Gweithredol 07815859638
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Job Reference: SS00755
-
Rheolwr Tîm Ailalluogi
4 weeks ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous yn bodoli i ymuno â'n tîm yng Ngwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro. Rydym yn chwilio am reolwr brwdfrydig a llawn cymhelliant i arwain ein tîm Ailalluogi. Mae Gwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro yn wasanaeth integredig a gaiff ei gynnal gan Gyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd y Brifysgol Caerdydd ar Fro. Rydym yn...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
1 month ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae cyfle wedi codi i unigolyn hyblyg, gwydn, brwdfrydig a gweithgar ddod yn rhan annatod o weledigaeth y cyngor i ddarparu'r gwasanaethau iawn i bobl ag anawsterau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd. Fel y disgrifir yn Fframwaith Gwasanaeth i Drin Pobl sydd â Phroblemau Iechyd Meddwl a Phroblemau oherwydd...