Gweithiwr Ymgysylltu â Phobl Ifanc

2 months ago

Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**

Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cynnig cyfleoedd anffurfiol i bobl ifanc 11-25 oed ledled Bro Morgannwg i'w helpu i gyflawni eu potensial llawn. Rydym yn darparu amgylcheddau diogel i bobl ifanc fwynhau eu hunain a chwrdd ag eraill; teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi; cael gwybodaeth a chymorth; a dysgu sgiliau newydd.

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion Tâl: Cydgyngor Trafod Telerau Pt12

Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 awr yr wythnos, gan gynnwys hyd at dair noson yr wythnos, ambell i benwythnos a phreswylfa dros nos.

Prif Weithle: Wedi’i lleoli yn y Swyddfeydd Dinesig a theithio i wahanol leoliadau ym Mro Morgannwg.

Rheswm dros gynnig swydd dros dro: Cyllid Grant

**Disgrifiad**:
Byddwch yn gyfrifol am gyflwyno cwricwlwm amrywiol sy'n gweithio tuag at greu cynnig i bobl ifanc y tu mewn a'r tu allan i'r ysgol. Mae hynny’n cynnwys cymorth gyda'r nos, penwythnosau a darpariaeth yn y gymuned. Byddwch chi’n helpu'r rhai y nodir eu bod fwyaf mewn perygl o ddod yn ddigartref neu’n NEET. Byddwch yn ymgymryd â gwaith ar sail 1:1 neu grŵp gan ddarparu amrywiaeth o ymyriadau gwaith ieuenctid gan gynnwys cyfleoedd achrededig.**
**Amdanat ti**

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o weithio gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau
- Cymhwyster cydnabyddedig mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, (o leiaf Lefel 3) neu uwch.
- Cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) fel Gweithiwr Cymorth Ieuenctid neu Weithiwr Ieuenctid
- Gwybodaeth am faterion sy'n effeithio ar bobl ifanc
- Profiad o gynllunio a gwerthuso cwricwlwm
- Gwybodaeth am weithdrefnau diogelu

Gallu cynllunio, darparu, goruchwylio a gwerthuso rhaglen gytbwys o weithgareddau i ddiwallu anghenion cymdeithasol, hamddenol ac addysgol pobl ifanc

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Manwl

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: LS00240

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae’r swydd hon yn rhan o’r tîm Cynhwysol, yn cynnig cwricwlwm amrywiol o weithgareddau a phrosiectau ieuenctid mewn ysgolion, y gymuned a'r awyr agored wrth ddiwallu anghenion a diddordebau pobl ifanc ym Mro Morgannwg. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Cyflog ar gyfer...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae’r swydd hon yn rhan o’r tîm Cynhwysol, yn cynnig cwricwlwm amrywiol o weithgareddau a phrosiectau ieuenctid mewn ysgolion, y gymuned a'r awyr agored wrth ddiwallu anghenion a diddordebau pobl ifanc ym Mro Morgannwg. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl: Pwynt...

  • Gweithiwr Sesiynol

    1 month ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn wasanaeth amrywiol sy’n cynnig amrywiaeth o ymyraethau i blant a phobl ifanc rhwng 8 a 17 oed sy’n rhan o gynlluniau gwirfoddol a chynlluniau dan orchymyn y llys. Bydd y gweithwyr sesiynol yn cefnogi’r tîm ehangach i gynnig ymyraethau a chynnig cymorth i bobl ifanc a’u teuluoedd i leihau’r...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cyngor Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau ar gyfer ei Dîm Fourteen Plus. Yn dilyn buddsoddiad sylweddol i Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi creu nifer o swyddi i ychwanegu capasiti a gwytnwch ar draws ein timau. Fel Gweithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg, bydd gennych lwyth gwaith hylaw, cefnogaeth ragorol ac amser i'w...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Derw Newydd yn cefnogi dysgwyr 3-16 oed sydd ag anawsterau iechyd cymdeithasol, emosiynol a/neu feddyliol. Mae Derw Newydd yn rhan o Ysgol Arbennig Ysgol y Deri. Yn wreiddiol, bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn Fferm Ymddiriedolaeth Amelia a Cowbridge Court House, sy'n symud i ddarpariaeth bwrpasol yn y Barri. Dyma gyfle cyffrous i ymuno...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Derw Newydd yn cefnogi dysgwyr 11-16 oed sydd ag anawsterau iechyd cymdeithasol, emosiynol a/neu feddyliol. Mae Derw Newydd yn rhan o Ysgol Arbennig Ysgol y Deri. Yn wreiddiol, bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn Fferm Ymddiriedolaeth Amelia a Cowbridge Court House, sy'n symud i ddarpariaeth bwrpasol yn y Barri. Dyma gyfle cyffrous i ymuno...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae'r swydd hon yn rhan o’r tîm Byd-eang, sy’n cynnig darpariaethau ieuenctid mynediad agored sy'n cyflwyno cwricwlwm amrywiol gan ddiwallu anghenion a bodloni diddordebau pobl ifanc ym Mro Morgannwg. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl: Cydgyngor Trafod Telerau...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys datblygu dau Dîm Cymorth i Deuluoedd, lle mae gennym swydd wag ar gyfer Rheolwr Tîm ymroddedig a galluog i reoli un o'r timau hyn. I fod...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys datblygu Tîm Derbyn pwrpasol, ac mae angen rheolwr ymroddedig a galluog ar ei gyfer. I fod yn llwyddiannus, byddwch yn gwybod sut olwg...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys datblygu Tîm Derbyn penodedig, y mae arnom angen rheolwr ymroddedig a galluog gyda'r profiad a'r sgiliau perthnasol i oruchwylio'r...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    2 months ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Gwnewch newid na fyddwch yn difaru; dod yn Weithiwr Cymdeithasol yn y lle hapusaf yng Nghymru Rhowch eich manylion cyswllt yma i ni gysylltu. Unwaith y byddwn wedi trafod y rôl sydd ar gael ac wedi ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer a symud eich cais ymlaen. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae'r swydd hon yn rhan o’r tîm Byd-eang, sy’n cynnig darpariaethau ieuenctid mynediad agored sy'n cyflwyno cwricwlwm amrywiol gan ddiwallu anghenion a bodloni diddordebau pobl ifanc ym Mro Morgannwg. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl: Cydgyngor Trafod Telerau...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle wedi codi o fewn y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid i Ymarferydd Cymorth Newid Cyfieriad. Nod y Tîm Atal yw ymgysylltu â phlant a phobl ifanc sydd mewn perygl o fynd i mewn i'r System Cyfiawnder Troseddol Ieuenctid. Ein nod yw gweithio’n greadigol ac yn hyblyg gyda phobl ifanc a’u teuluoedd er mwyn lleihau'r tebygolrwydd ohonynt...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Mentor Lles Ieuenctid yn darparu ymyriadau lles fel rhan o'r Gwasanaeth Lles Ieuenctid. Mae’r Gwasanaeth Lles Ieuenctid yn broject wedi ei ariannu gan Teuluoedd yn Gyntaf i gynnig cymorth targedig i bobl ifanc ym Mro Morgannwg a gafodd brofiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod sydd bellach yn amharu’n sylweddol ar eu lles...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cyngor Bro Morgannwg yn awyddus i dderbyn ceisiadau ar gyfer ei Dîm Iechyd ac Anabledd Plant yn ei Adran Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc. Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi creu nifer o swyddi i ychwanegu capasiti a gwydnwch ar draws ein timau. Yn weithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg bydd...

    **Amdanom ni** Mae cyfle wedi codi o fewn y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid ar gyfer Ymarferydd Atal ac Ymyrryd yn Gynnar. Nod y Tîm Atal yw ymgysylltu â phlant a phobl ifanc (8 - 17 oed) sydd mewn perygl o fynd i mewn i'r System Cyfiawnder Troseddol Ieuenctid. Ein nod yw gweithio’n greadigol ac yn hyblyg gyda phobl ifanc a’u teuluoedd er mwyn lleihau'r...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Adran Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc Cyngor Bro Morgannwg yn ceisio rhoi unigolion wrth wraidd eu gofal eu hunain, ni waeth pam mae angen cymorth gofal cymdeithasol arnynt. Rydym am gynnig y cymorth cywir i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd ar yr adeg iawn, i'w helpu i fod yn hapus ac yn ddiogel, ac i gael y cyfleoedd gorau mewn...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cyngor Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau ar gyfer y Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal. Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi creu nifer o swyddi i ychwanegu capasiti a gwydnwch ar draws ein timau. Yn weithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg bydd gennych lwyth gwaith hawdd ei reoli, cewch gymorth...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg yn ceisio rhoi pobl wrth galon eu gofal eu hunain, waeth pam y mae angen cymorth gofal cymdeithasol arnynt. Rydym am gynnig y cymorth iawn i bobl ar yr adeg iawn i'w helpu i fod yn hapus, yn ddiogel ac i gael y cyfleoedd gorau mewn bywyd. Ym Mro Morgannwg mae ymarferwyr yn gallu gwneud...