Gweithiwr Cymorth Ymddygiad

2 weeks ago

Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae Derw Newydd yn cefnogi dysgwyr 11-16 oed sydd ag anawsterau iechyd cymdeithasol, emosiynol a/neu feddyliol. Mae Derw Newydd yn rhan o Ysgol Arbennig Ysgol y Deri. Yn wreiddiol, bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn Fferm Ymddiriedolaeth Amelia a Cowbridge Court House, sy'n symud i ddarpariaeth bwrpasol yn y Barri.

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm gwych. Rydyn ni'n credu na ddylai unrhyw un golli ysgol.
Rydym yn chwilio am rywun sydd wir eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc; rhywun sy'n fodlon bod y gwahaniaeth. Rhywun sydd eisiau helpu ein myfyrwyr i gyflawni eu potensial trwy roi cyfle iddynt newid; rhywun sy'n gallu helpu ein disgyblion i ymgysylltu a mwynhau profiadau cadarnhaol bywyd.

**Am y Rôl**
Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): YYD/SW

Manylion am gyflog: Gradd 7, PCG 20 - 25 £28,371 - £32,020 y.f. pro rata + Lwfans AAA

Diwrnodau / Oriau Gwaith: 37 awr yn ystod y tymor yn unig

Parhaol

**Disgrifiad**:
Dymuna'r corff llywodraethol benodi gweithiwr cymorth ymddygiad deinamig, gofalgar ac egnïol i ymuno â'n tîm anhygoel.
O dan gyfarwyddyd Pennaeth Derw Newydd, bydd deiliad y swydd yn rhoi cyngor a chefnogaeth arbenigol i ysgolion er mwyn sicrhau bod anghenion corfforol, cymdeithasol ac emosiynol y bobl ifanc yn cael eu diwallu'n effeithiol.

Bydd deiliad y swydd yn aelod gweithgar o ddarpariaethau Derw Newydd yn gweithio ar draws lleoliadau'r Fro ac yn darparu dulliau atal a chymorth cynnar cynradd yn ogystal â dangos sut i weithio'n effeithiol â phobl ifanc. Mae'r rôl yn cynnwys cofnodi, gwerthuso a myfyrio ar bob agwedd ar ymddygiad myfyrwyr gydag adborth i Derw Newydd.

Bydd yr ymgeisydd yn gallu ail-ysgogi myfyrwyr a'u cefnogi wrth bontio i'r ysgol ac allan o'r ysgol. Bydd yn rhoi cymorth, arweiniad a hyfforddiant ymarferol sy’n ymwneud â rheoli ymddygiad a strategaethau cysylltiedig i gefnogi dysgu myfyrwyr.
Fel ysgol mae’r ffocws ar newid ysbrydoledig o fewn ein disgyblion i sicrhau eu dyfodol llewyrchus.

**Amdanat ti**
- Byddai’r swydd hon yn addas i rywun sy’n hoffi gweithio gyda phlant a phobl ifanc, rhywun sydd wrth ei fodd yn rhannu gwybodaeth ac yn eu cefnogi i ffynnu.
- Rhaid i’r ymgeisydd fod â’r gallu i sefydlu a meithrin perthnasau priodol ac effeithiol gyda phlant a phobl ifanc. Mae gofyn iddo fod yn ddiymhongar, ond eto'n hyderus, yn frwdfrydig ac yn deall yr angen am ffiniau.
- Bydd gan ddeiliad y swydd hanes cryf iawn o weithio'n llwyddiannus gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion iechyd cymdeithasol, emosiynol a meddyliol difrifol.
- Rydym yn chwilio am rywun sydd wir eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc; rhywun sy'n fodlon bod y gwahaniaeth.
- Rydym yn chwilio am rywun sy'n cydnabod pwysigrwydd cefnogaeth uchel a her uchel. Bydd ffocws ar chwalu rhwystrau sy'n llesteirio mynediad at ddysgu.
- Mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd gefnogi myfyrwyr i ddatblygu strategaethau ymdopi a meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol. Y rhinweddau sydd eu hangen yw'r gallu i ddeall eich cyflwr emosiynol eich hun / rheoleiddio personol a bod yn bwyllog dan bwysau. Mae sgiliau gwrando da yn hanfodol.
Dyma gyfle cyffrous i'r ymgeiswyr cywir ymuno ag ysgol lwyddiannus sy'n ehangu'n gyflym.
- Bydd gofyn i chi gael GDG manwl ar gyfer Plant ac Oedolion ar gyfer y swyddi hyn.

Oes angen gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd?: Manwl

**Sut i wneud cais**

Job Reference: SCH00461

  • Cymorth Busnes Gcichc

    4 weeks ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd sydd mewn perygl o, neu sy'n ymwneud ag ymddygiad troseddol drwy gynnig gwasanaethau atal, dargyfeirio a Gorchymyn Llys statudol. Yn rhan annatod o'r tîm, mae’r rolau Cynorthwy-ydd Perfformiad a Chymorth Busnes yn cefnogi aelodau'r tîm i ddarparu...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Am y Rôl** Manylion Cyflog: Gradd 5 (PCG-12), £22,777 - £24,496pro-rata Oriau Gwaith / Wythnosau’r Flwyddyn / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos/39 wythnos y flwyddyn. 8.00am i 16.00 (15.30 ar ddydd Gwener) gyda 30 munud o egwyl cinio Prif Weithle: Ysgol Uwchradd Pencoedtre Swydd barhaol **Disgrifiad**: Rydym yn chwilio am ymarferwyr ymroddedig...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Am y Rôl** Manylion Cyflog: Gradd 5 (PCG-12), £22,777 - £24,496pro-rata Oriau Gwaith / Wythnosau’r Flwyddyn / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos/39 wythnos y flwyddyn. Prif Weithle: Ysgol Uwchradd Pencoedtre Swydd barhaol **Disgrifiad**: Rydym yn chwilio am ymarferwyr ymroddedig iawn i gefnogi, datblygu a gweithredu ein strategaethau ar gyfer...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Tîm Adnoddau Cymunedol y Fro yn wasanaeth integredig sy'n cael ei redeg gan Gyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Rydym yn darparu cefnogaeth a / neu therapi tymor byr i bobl sy'n byw yn eu cartref eu hunain pan gânt eu rhyddhau o'r ysbyty gyntaf neu er mwyn eu hatal rhag cael eu derbyn i'r ysbyty. Ein nod yw...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cynnig cyfleoedd anffurfiol i bobl ifanc 11-25 oed ledled Bro Morgannwg i'w helpu i gyflawni eu potensial llawn. Rydym yn darparu amgylcheddau diogel i bobl ifanc fwynhau eu hunain a chwrdd ag eraill; teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi; cael gwybodaeth a chymorth; a dysgu sgiliau newydd. **Ynglŷn â'r...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae’r swydd hon yn rhan o’r tîm Cynhwysol, yn cynnig cwricwlwm amrywiol o weithgareddau a phrosiectau ieuenctid mewn ysgolion, y gymuned a'r awyr agored wrth ddiwallu anghenion a diddordebau pobl ifanc ym Mro Morgannwg. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl: Pwynt...

    **Amdanom ni** Yn y Gwasanaeth Dydd Anabledd Dysgu, rydym yn cefnogi oedolion gydag anableddau dysgu a all fod ag anghenion cymhleth hefyd i fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd dydd, a all fod yn waith, gwirfoddoli, neu wedi eu seilio ar addysg a hamdden. Rydym yn cynnig cymorth sy’n canolbwyntio ar y person er mwyn gwneud yn fawr o botensial, cynyddu...

    **Amdanom ni** Gwnewch newid na fyddwch yn difaru; dod yn Weithiwr Cymdeithasol yn y lle hapusaf yng Nghymru Rhowch eich manylion cyswllt yma i ni gysylltu. Unwaith y byddwn wedi trafod y rôl sydd ar gael ac wedi ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer a symud eich cais ymlaen. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Tîm Gweinyddu Ardal yn darparu gwasanaeth rheng flaen a chymorth gweinyddol i Dimau Gwasanaethau Oedolion yng Nghanolfan Tŷ Jenner, Canolfan Gyswllt Un Fro ac Uned Llanfair. Fel prif gysylltiadau ar gyfer y Timau Oedolion maent yn prosesu atgyfeiriadau i'r gwasanaeth ac yn gweinyddu rhestrau aros er mwyn caniatáu trosglwyddo gwaith a...

  • Gweithiwr Gofal Plant

    4 weeks ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau o fewn ei Rhaglen Dechrau'n Deg. Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael mewn ardaloedd penodol i gefnogi pob teulu i roi Dechrau'n Deg mewn bywyd i blant 0-3 oed Nod y rhaglen yw darparu gwasanaethau cymorth dwys i blant a’u teuluoedd. Mae’r rhaglen yn...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Rondel House yn darparu Gwasanaeth Dydd i bobl hŷn sy'n byw yn ardaloedd Canol a Dwyrain Bro Morgannwg, a allai ddioddef o eiddilwch sy'n gysylltiedig ag oedran, salwch cronig, anabledd a/neu ddementia. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwasanaeth 5 diwrnod, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn darparu amgylchedd diogel lle gall pobl...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cydweithfa Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd (VVC) yn un o bum Cydweithrediad rhanbarthol sy’n rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru. Mae'n cyflawni ystod o swyddogaethau'r Asiantaeth Fabwysiadu ar ran CBS Merthyr Tudful, CBC RCT, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg. Mae'r cwmni cydweithredol yn gyfrifol...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** **Ydych chi’n defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfder wrth wneud Gwaith Cymdeithasol?** **Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru?** **Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg.** Mae gennym gyfle i Weithwyr Cymdeithasol yn y Tîm Pontio Anableddau Dysgu, a byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd wedi...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Gofal Hirdymor Bro Morgannwg yn asesu pobl sydd ag anghenion hirdymor am ofal a chymorth ac yn eu cefnogi nhw a’u gofalwyr. Mae'r tîm yn ymateb i unigolion y gall eu hanghenion fod yn gymhleth neu y mae angen eu monitro a’u cefnogi’n barhaus er mwyn iddynt gyflawni eu canlyniadau lles. Mae'r tîm yn cefnogi pobl nad yw...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Me’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (GAI) yn wasanaeth i bobl o bob oed gydag ASA/Awtistiaeth sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae’r gwasanaeth yn cynnig un pwynt mynediad, gan gynnwys opsiynau hunan-atgyfeirio i'r gwasanaeth diagnosteg oedolion ac ymyriadau byr dymor parhaus i oedolion a theuluoedd ar ôl cael diagnosis a...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn bartneriaeth rhwng Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg sy’n cyflawni swyddogaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Thrwyddedu. Mae gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir swydd wag yn ein Tîm Diwydiant ar hyn o bryd. Rydym yn chwilio am weithiwr Iechyd yr...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r rôl hon yn rhan o'r Tîm Rheoli Cymdogaeth. Rydym yn darparu gwasanaeth rheoli cynhwysfawr, o ansawdd uchel i bron 4,000 o gartrefi, 800 o garejys a 300 o les ddeiliaid ledled Bro Morgannwg. Gwasanaethau: Gadewch i gartrefi Rheoli ystadau Rheoli tenantiaethau Cyfranogiad tenantiaid Datrys anghydfodau cymdogion Cynlluniau Tai...