Swyddog Gwasanaethau Masnachol

1 month ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn bartneriaeth rhwng Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg sy’n cyflawni swyddogaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Thrwyddedu.
Mae gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir swydd wag yn ein Tîm Diwydiant ar hyn o bryd. Rydym yn chwilio am weithiwr Iechyd yr Amgylchedd Proffesiynol brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â thîm rhagweithiol a gweithgar o swyddogion profiadol.
Mae'r tîm yn gyfrifol am Awdurdod Sylfaenol, cyngor busnes pwrpasol, digwyddiadau hyfforddi a chyswllt digwyddiadau mawr gan gynnwys Prifddinas Caerdydd. Maent hefyd yn arwain ar wireddu cyfleoedd creu incwm ac adennill costau i'r Gwasanaeth. Mae'r gwaith rhagweithiol hwn yn cyd-fynd â'n rhaglen arolygu a gwaith gorfodi adweithiol i wella cydymffurfedd ar draws y rhanbarth.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Gradd 9, SCP 31-35 : £37,261- £41,496 y flwyddyn
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr o weithio hyblyg llawn amser (bydd ceisiadau rhan amser/rhannu swydd yn cael eu hystyried)
Byddwch yn gyfrifol am Awdurdod Sylfaenol, cyngor busnes pwrpasol, digwyddiadau hyfforddi a chyswllt i ddigwyddiadau mawr gan gynnwys Prifddinas Caerdydd. Byddwch hefyd yn arwain ar wireddu cyfleoedd creu incwm ac adennill costau ar gyfer y Gwasanaeth. Mae'r gwaith rhagweithiol hwn yn cyd-fynd â'n rhaglen arolygu a gwaith gorfodi adweithiol i wella cydymffurfedd ar draws y rhanbarth.
Agwedd allweddol o’r rôl fydd gweithredu fel prif bwynt cyswllt rhwng GRhR a’n busnesau Prif Awdurdod sy’n cynnwys rhai o fanwerthwyr mwyaf y DU a hefyd rhai busnesau lleol allweddol.
Byddwch yn gyfrifol am greu a chyflwyno pecynnau hyfforddi i fusnesau yn ôl yr angen ar draws y swyddogaethau rheoleiddio amrywiol y mae GRhR yn gyfrifol drostynt, gan gynnwys Hylendid Bwyd ac Iechyd a Diogelwch, felly byddai profiad o ddarparu hyfforddiant neu ddarlithio yn fanteisiol.

**Amdanat ti**
Gweithiwr Iechyd yr Amgylchedd Proffesiynol profiadol gyda phrofiad o weithio ar y cyd â phartneriaid, sgiliau cyfathrebu cryf a’r gallu i weithio'n greadigol gyda'r tîm i wneud y gorau o wasanaethau cymorth busnes.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Jonathan Wood, (Team Manager - Industry) on 07711 481641.

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.

Job Reference: EHS00435



  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir (SRS) yn wasanaeth cydweithredol arloesol a ffurfiwyd rhwng Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae'r Gwasanaeth yn darparu gwasanaeth cwbl integredig o dan un strwythur rheoli ar gyfer safonau masnachu, iechyd yr amgylchedd a swyddogaethau trwyddedu. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn recriwtio Swyddog Gwasanaethau Cymdogaeth i'n Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth o fewn y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir. Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir yn gweithio gyda’r tri chyngor partner - Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg - dan un strwythur rheoli unigol. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Cyflog**:Gradd 9, PCG...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn recriwtio Swyddog Gorfodi Eiddo Gwag i'n Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth o fewn y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir. Mae'r tîm yn dîm amlddisgyblaethol sy'n cwmpasu Tai Sector Preifat, Rheoli Llygredd ac Iechyd y Cyhoedd. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl**:Tâl Gradd 9, PCG 31-35, **£37,261 - **£**41,496** Oriau Gwaith / Patrwm...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn chwilio am rywun sydd â gweledigaeth, tosturi ac egni i arwain ein timau Llyfrgell a Gwasanaethau Diwylliannol, o fewn y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau. Mae hwn yn gyfle newydd i gefnogi a datblygu ein gwasanaethau llyfrgell anhygoel, ac i dyfu ein gwasanaethau celfyddydol a diwylliannol gyda ffrydiau refeniw, digwyddiadau a...

  • Swyddog Adolygu

    4 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Ydych chi’n defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau wrth wneud Gwaith Cymdeithasol? Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru? Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg. Mae’r gwasanaethau cymdeithasol oedolion ym Mro Morgannwg yn rhoi ein staff a’n Mae gennym gyfle i Swyddog Adolygu yn y Tîm...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg yn ceisio rhoi pobl wrth galon eu gofal eu hunain, waeth pam y mae angen cymorth gofal cymdeithasol arnynt. Rydym am gynnig y cymorth iawn i bobl ar yr adeg iawn i'w helpu i fod yn hapus, yn ddiogel ac i gael y cyfleoedd gorau mewn bywyd. Ym Mro Morgannwg mae ymarferwyr yn gallu gwneud...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r swyddi uchod ar gael o fewn Adran Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth Bro Morgannwg sy'n cynnwys gwasanaethau cydgysylltiedig Gweithrediadau Gwasanaethau Cymdogaeth, Peirianneg a Thrafnidiaeth. Mae'r holl wasanaethau hyn yn cynnwys gweithrediadau rheng flaen sylweddol a blaenllaw sy'n cyflawni swyddogaethau amrywiol yn uniongyrchol i...

  • Uwch Swyddog Cymorth

    1 month ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn bartneriaeth rhwng Cynghorau Pen - y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg i gyflawni’r swyddogaethau Trwyddedu, Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd. Mae hon yn rôl amrywiol a diddorol yn gweithio o fewn tîm Cymorth Busnes Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir. Bydd yr ymgeisydd...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth cymorth cynhwysfawr i’r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol er mwyn galluogi’r Swyddog Monitro/Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i ddarparu gwasanaeth cyfreithiol cynhwysfawr i’r Cyngor. Cynorthwyo’r Swyddog Monitro/Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i sicrhau y darperir...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys datblygu Tîm Derbyn pwrpasol, ac mae angen rheolwr ymroddedig a galluog ar ei gyfer. I fod yn llwyddiannus, byddwch yn gwybod sut olwg...

  • Swyddog Incwm

    4 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn recriwtio ar gyfer swydd Swyddog Incwm yn y Tîm Cyllid Gofal Cymunedol, sy’n swyddogaeth allweddol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae gan y Gyfarwyddiaeth ystod eang o ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol ynghylch amddiffyn a chefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl:...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Tîm Gorfodi Tai yn gyfrifol am gynnal safonau tai, yn enwedig yn y sector rhentu preifat. Mae'r tîm yn delio â chwynion gan denantiaid am eu llety byw ac mae'n canolbwyntio'n benodol ar drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth. Yn ogystal, mae dyletswyddau'n ymwneud â niwsans statudol, safleoedd aflan ac lle mae plâu ac eiddo 2gwag sy’n...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Os ydych chi'n hoffi gweithio gydag ystadegau, data neu os oes gennych feddwl chwilfrydig i "wasgu symiau mawr o ddata i fformat dealladwy syml", gallai'r Tîm Deallusrwydd Busnes a Datblygu Gwasanaethau (Perfformiad) fod yn waith i chi. Rydym yn darparu ystod o ddata i gynulleidfa eang gan gynnwys Lywodraeth Cymru, Uwch Reolwyr, rheolwyr...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys datblygu dau Dîm Cymorth i Deuluoedd, lle mae gennym swydd wag ar gyfer Rheolwr Tîm ymroddedig a galluog i reoli un o'r timau hyn. I fod...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys datblygu Tîm Derbyn penodedig, y mae arnom angen rheolwr ymroddedig a galluog gyda'r profiad a'r sgiliau perthnasol i oruchwylio'r...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth yn croesawu ceisiadau am swydd Swyddog Datblygu Llyfrgell Digidol. Byddwch yn cynorthwyo i redeg llyfrgell gyda thîm rhagorol a byddwch yn arwain ar hyrwyddo gwasanaethau a gweithgareddau llyfrgell ar draws y Fro trwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a’r wefan llyfrgelloedd. **Ynglŷn â'r...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Bydd Swyddog Polisi Fforwm Cydnerth Lleol De Cymru yn cefnogi Cydlynydd y Fforwm i sicrhau bod cadernid yn Ne Cymru yn gadarn ac yn arloesol. Mae Fforwm Cydnerth Lleol De Cymru (y Fforwm), yn cwmpasu ardal ddaearyddol Heddlu De Cymru ac yn cynnwys y Gwasanaethau Brys, Awdurdodau Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Sefydliadau Iechyd, y Lluoedd...

  • Swyddog Ystadau

    4 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r adran Ystadau Strategol yn ymwneud â chyflawni ystod lawn o ddyletswyddau proffesiynol sy'n gysylltiedig â Rheoli Ystadau Strategol asedau eiddo'r Cyngor. Rydym yn cefnogi adrannau cleientiaid mewnol i ddarparu gwasanaeth cynghori cynhwysfawr mewn perthynas ag adnewyddu prydlesau eiddo masnachol / adolygiadau rhent (trafodaethau...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Grant Cyfleusterau i'r Anabl **Ynglŷn â'r rôl** Manylion y Cyflog: Gradd 8, PCG (£32,909-£36,298) Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr/52 wythnos Prif Weithle: Docks Office **Disgrifiad**: Archwilio ceisiadau am gymorth grant a chynghori'r Prif Swyddog Adnewyddu Tai a Grantiau. Darparu Gwasanaeth Asiantaeth Grantiau pan fydd...

  • Uwch Swyddog Tgch

    1 month ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Tîm Gweinyddion a Storio TGCh yn dymuno penodi Uwch Swyddog TGCh sy'n hynod frwdfrydig, yn drefnus, ac yn rhagweithiol. Dyma gyfle i fod yn rhan o dîm prysur a deinamig sy'n ymfalchïo yn y gwaith o gefnogi seilwaith TG y cyngor. **Ynglŷn â'r rôl** Pay Details: Grade 8, £32,909 - £36,298 Hours of Work / Working Pattern: 5 days /...