Swyddog Adolygu

2 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Ydych chi’n defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau wrth wneud Gwaith Cymdeithasol?

Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru?

Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg.

Mae’r gwasanaethau cymdeithasol oedolion ym Mro Morgannwg yn rhoi ein staff a’n

Mae gennym gyfle i Swyddog Adolygu yn y Tîm Anableddau Dysgu, a byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd wedi ymrwymo i ymarfer o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae Tîm Anableddau Dysgu'r Fro yn dîm amlddisgyblaethol sy'n cynorthwyo oedolion 18+ oed â diagnosis o Anabledd Dysgu i fodloni eu hanghenion gofal a chymorth cymwys a'u canlyniadau personol.

Rydym yn buddsoddi yn ein timau i fynd â'r gwasanaeth i'r lefel nesaf o ragoriaeth.
Byddwch yn cael cymorth rhagorol ac yn cael mynediad at ystod o gyfleoedd hyfforddi i'ch cefnogi yn eich rôl.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Cyflog: Gradd 6, PCG 14-19 £23,484 - £25,927 y flwyddyn

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener

Prif Weithle: Tîm Anableddau Dysgu, Canolfan Adnoddau’r Hen Goleg

**Disgrifiad**:

- Gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu i greu cynllun sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n ei gynrychioli ef a’i ffordd o fyw o ddewis.
- Cyflawni asesiad o ddinasyddion yn unol â dyletswyddau statudol dan ddeddfwriaeth berthnasol.
- Cynllunio a chomisiynu gwasanaethau i alluogi oedolion ag anghenion gofal a chymorth a gofalwyr ag anghenion cymorth i oresgyn y rhwystrau i gyflawni'r canlyniadau personol a monitro ac adolygu'r cynlluniau gofal drwy gyd-gynhyrchu â dinasyddion a gofalwyr.
- Paratoi ar gyfer sesiynau goruchwylio ac Adolygiadau Datblygiad Personol (#AmdanafFi) gyda’r goruchwylydd/rheolwr llinell a chyfrannu atynt, a nodi anghenion datblygu personol a hyfforddiant.
- Dilyn hyfforddiant i ategu datblygiad proffesiynol parhaus.
- Rhoi gwybod am unrhyw bryderon diogelu i’r swyddog diogelu priodol yn ddi-oed.

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o weithio gydag oedolion ag anghenion ychwanegol.
- Profiad o gynnal asesiadau â dinasyddion a gofalwyr.
- Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau statudol/gwirfoddol i hyrwyddo annibyniaeth dinasyddion.
- Profiad o weithio gyda dull adfer/sy’n seiliedig ar gryfderau o gefnogi dinasyddion i
gyflawni eu canlyniadau personol.
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol e.e. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; Deddf Cydraddoldeb 2010; Deddf Iechyd Meddwl 1983, Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a.y.b., a diddordeb mewn dysgu amdani.
- Gwybodaeth am faterion a gweithdrefnau diogelu o ran oedolion.
- Gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau Cyfle Cyfartal ac ymrwymiad iddynt.
- Y gallu i gyfathrebu’n glir ac yn effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Y gallu i asesu anghenion, cynllunio gwaith, pennu blaenoriaethau ac adolygu trefniadau.
- Y gallu i ddadansoddi a gwerthuso gwybodaeth.
- Y gallu i gydgysylltu a chyd-drafod ag unigolion, gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau.
- Y gallu i weithio fel aelod o dîm amlddisgyblaethol.
- Y gallu i weithio’n hyblyg a dan bwysau.
- Y gallu i weithredu a chynnal systemau rheoli gwaith achos a TG.
- Safon addysg gyffredinol dda.
- Ymrwymiad i'ch datblygiad personol eich hun a hyfforddiant pellach.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Gwiriwch DBS Angen: Uwch

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Mirko Doering, Rheolwr y Tîm Dros Dro,

Gweler y disgrifiad swydd ynghlwm / manyleb person am ragor o wybodaeth

Job Reference: SS00592



  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Ydych chi’n defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfder wrth wneud Gwaith Cymdeithasol? Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru? Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg. Mae gwasanaethau cymdeithasol oedolion ym Mro Morgannwg yn rhoi ein staff a’n Mae gennym gyfle ar gyfer Swyddog Cymorth Gofalwyr rhan...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Tîm Adolygu’n rhan o Wasanaeth Gofal Hirdymor Bro Morgannwg sy'n rhoi cymorth i unigolion sy'n derbyn gofal a chymorth, a'u gofalwyr. Mae'r Tîm Adolygu’n gyfrifol am gwblhau adolygiadau wedi'u trefnu a heb eu trefnu i werthuso cynnydd tuag at gyflawni canlyniadau personol, am gadarnhau a yw unrhyw drefniadau gofal a chymorth a...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle wedi codi i unigolyn/unigolion brwdfrydig sy'n gweithio'n galed fod yn rhan o Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol Integredig deinamig. Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda dinasyddion sy'n profi anawsterau iechyd meddwl difrifol a pharhaus ac sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd o dan Fesur Iechyd Meddwl...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** **Ydych chi’n defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfder wrth wneud Gwaith Cymdeithasol?** **Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru?** **Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg.** Mae gennym gyfle i Weithwyr Cymdeithasol yn y Tîm Pontio Anableddau Dysgu, a byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd wedi...