Gweithiwr Cymdeithasol

2 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau ar gyfer y Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal.

Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi creu nifer o swyddi i ychwanegu capasiti a gwydnwch ar draws ein timau. Yn weithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg bydd gennych lwyth gwaith hawdd ei reoli, cewch gymorth rhagorol a chewch amser i'w dreulio gyda phlant a phobl ifanc.

Mae'r Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal yn grŵp cyfeillgar ac angerddol o weithwyr cymdeithasol a swyddogion gofal cymdeithasol sydd wedi ymrwymo i feithrin perthynas â'n plant. Rydym yn gweithio gyda dull seiliedig ar gryfderau sy'n canolbwyntio ar blant ac sydd â llawer o gyfleoedd i ddefnyddio sgiliau gwaith uniongyrchol.

Rydym yn gweithio gyda phlant 0-14 oed sy’n rhoi cyfle i ni ddatblygu perthynas ystyrlon gyda'n teuluoedd. Bydd gweithwyr cymdeithasol yn cael cyfle i ymgymryd â gwaith mabwysiadu, rhyddhau gorchmynion gofal a hefyd cefnogi teuluoedd i gael sefydlogrwydd trwy orchmynion Gwarchodaeth Arbennig.

Dyma gyfle arbennig i ymgartrefu mewn Awdurdod sydd â hanes llwyddiannus o wneud gwahaniaeth a pherfformio’n rhagorol. Mae perthnasau’n ganolog i'n gwaith, ac rydym yn hyrwyddo arfer sy'n seiliedig ar gryfder ym mhopeth a wnawn.

Ewch i’n tudalen Swyddi Gwasanaethau Plant pwrpasol i ddarllen am y Weledigaeth, y Timau a'r Manteision i Weithwyr.

Gallwch ddisgwyl cynhesrwydd a lefelau uchel o gymorth gan weithlu ymroddedig ac Awdurdod lle mae lles a datblygiad yn ganolog i'n gwaith.

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion Tâl: Gradd 8, PCG 26 - 30 £32,909- £36,298 y flwyddyn / Gradd 9, PCG 31 - 35 £37,261 - £41,496 y flwyddyn pro rata

Bydd cyflog ar benodi yn dibynnu ar gymhwyster a phrofiad fel y penderfynir gan y swyddog penodi. Nid oes cynnydd awtomatig o Radd 8 i Radd 9

18.5 awr yn rhan amser (patrwm gwaith i'w drafod a'i gytuno gyda'r ymgeisydd llwyddiannus)

Prif Weithle: Y Barri / Gweithio Ystwyth

**Amdanat ti**

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Gradd/diploma cydnabyddedig neu gymhwyster cyfatebol mewn Gwaith Cymdeithasol e.e. Gradd, Diploma Gwaith Cymdeithasol, CQSW ac ati.
- Wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
- Profiad o Waith Cymdeithasol gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd / gofalwyr.
- Profiad o weithio amlasiantaethol
- Gwybodaeth am egwyddorion y Ddeddf Plant, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), canllawiau a safonau cenedlaethol.

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Rhagor o wybodaeth am y tîm:
Mae’r Tîm Plant sy’n Derbyn Gofal yn dîm pwrpasol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Mae’r Tîm yn cefnogi plant a phobl ifanc a gaiff eu derbyn yn wirfoddol neu sy’n destun Gorchmynion Gofal neu Leoli. Mae ffocws y tîm ar alluogi plant sy’n derbyn gofal i gyflawni eu potensial trwy gyfrwng lleoliadau sefydlog, addysg briodol ac ymlyniadau cadarnhaol. Lle bo angen cefnogaeth therapiwtig ar blant, mae hwn ar gael yn rhwydd drwy ein gwasanaeth ENFYS. Rydym yn elwa o fynediad i'n gwasanaeth amser a chymorth teuluol Gweithredu Dros Blant a'n tîm Addysg Pobl Agored i Niwed cefnogol iawn.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Job Reference: SS00627



  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle wedi codi i unigolyn/unigolion brwdfrydig sy'n gweithio'n galed fod yn rhan o Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol Integredig deinamig. Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda dinasyddion sy'n profi anawsterau iechyd meddwl difrifol a pharhaus ac sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd o dan Fesur Iechyd Meddwl...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Gwnewch newid na fyddwch yn difaru; dod yn Weithiwr Cymdeithasol yn y lle hapusaf yng Nghymru Rhowch eich manylion cyswllt yma i ni gysylltu. Unwaith y byddwn wedi trafod y rôl sydd ar gael ac wedi ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer a symud eich cais ymlaen. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae tîm Asesydd Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn dîm integredig sy'n cynnwys staff Nyrsio a Gweithwyr Cymdeithasol, Ei prif gyfrifoldebau yw cynnal asesiadau integredig cynhwysfawr o unigolion mewn cartrefi nyrsio a chynrychioli'r Awdurdod Lleol yn y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG (CHC) a...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle wedi codi i unigolyn hyblyg, gwydn, brwdfrydig a gweithgar ddod yn rhan annatod o weledigaeth y cyngor i ddarparu'r gwasanaethau iawn i bobl ag anawsterau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd. Fel y disgrifir yn Fframwaith Gwasanaeth i Drin Pobl sydd â Phroblemau Iechyd Meddwl a Phroblemau oherwydd...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Gofal Hirdymor Bro Morgannwg yn asesu pobl sydd ag anghenion hirdymor am ofal a chymorth ac yn eu cefnogi nhw a’u gofalwyr. Mae'r tîm yn ymateb i unigolion y gall eu hanghenion fod yn gymhleth neu y mae angen eu monitro a’u cefnogi’n barhaus er mwyn iddynt gyflawni eu canlyniadau lles. Mae'r tîm yn cefnogi pobl nad yw...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** **Ydych chi’n defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfder wrth wneud Gwaith Cymdeithasol?** **Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru?** **Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg.** Mae gennym gyfle i Weithwyr Cymdeithasol yn y Tîm Pontio Anableddau Dysgu, a byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd wedi...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cyngor Bro Morgannwg yn awyddus i dderbyn ceisiadau ar gyfer ei Dîm Iechyd ac Anabledd Plant yn ei Adran Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc. Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi creu nifer o swyddi i ychwanegu capasiti a gwydnwch ar draws ein timau. Yn weithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg bydd...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cydweithfa Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd (VVC) yn un o bum Cydweithrediad rhanbarthol sy’n rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru. Mae'n cyflawni ystod o swyddogaethau'r Asiantaeth Fabwysiadu ar ran CBS Merthyr Tudful, CBC RCT, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg. Mae'r cwmni cydweithredol yn gyfrifol...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cynnig cyfleoedd anffurfiol i bobl ifanc 11-25 oed ledled Bro Morgannwg i'w helpu i gyflawni eu potensial llawn. Rydym yn darparu amgylcheddau diogel i bobl ifanc fwynhau eu hunain a chwrdd ag eraill; teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi; cael gwybodaeth a chymorth; a dysgu sgiliau newydd. **Ynglŷn â'r...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Gyda newidiadau a datblygiadau yn y dyfodol o fewn y Tîm Addysg, mae swydd barhaol newydd a chyffrous ar gael ar gyfer Gweithiwr Achos Ymgysylltu Disgyblion. Mae’r swydd hon yn eistedd o fewn y gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau sy’n adrodd i’r Cydlynydd Gwaith Achos Ymgysylltu â Disgyblion a’r Rheolwr AHYYY a bydd yn helpu i ysgogi a...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Lleoli Oedolion ar gyfer Rheolwr Cynorthwyol. Mae'r Gwasanaeth Lleoli Oedolion yn darparu llety tymor byr a thymor hir i oedolion yr aseswyd bod angen gofal a chymorth arnynt ym Mro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae pobl yn byw mewn amgylchedd teuluol a ddarperir gan Letywyr Lleoli Oedolion...

  • Gweithiwr Gofal Plant

    4 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau o fewn ei Rhaglen Dechrau'n Deg. Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael mewn ardaloedd penodol i gefnogi pob teulu i roi Dechrau'n Deg mewn bywyd i blant 0-3 oed Nod y rhaglen yw darparu gwasanaethau cymorth dwys i blant a’u teuluoedd. Mae’r rhaglen yn...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Me’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (GAI) yn wasanaeth i bobl o bob oed gydag ASA/Awtistiaeth sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae’r gwasanaeth yn cynnig un pwynt mynediad, gan gynnwys opsiynau hunan-atgyfeirio i'r gwasanaeth diagnosteg oedolion ac ymyriadau byr dymor parhaus i oedolion a theuluoedd ar ôl cael diagnosis a...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Tîm Gweinyddu Ardal yn darparu gwasanaeth rheng flaen a chymorth gweinyddol i Dimau Gwasanaethau Oedolion yng Nghanolfan Tŷ Jenner, Canolfan Gyswllt Un Fro ac Uned Llanfair. Fel prif gysylltiadau ar gyfer y Timau Oedolion maent yn prosesu atgyfeiriadau i'r gwasanaeth ac yn gweinyddu rhestrau aros er mwyn caniatáu trosglwyddo gwaith a...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Rondel House yn darparu Gwasanaeth Dydd i bobl hŷn sy'n byw yn ardaloedd Canol a Dwyrain Bro Morgannwg, a allai ddioddef o eiddilwch sy'n gysylltiedig ag oedran, salwch cronig, anabledd a/neu ddementia. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwasanaeth 5 diwrnod, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn darparu amgylchedd diogel lle gall pobl...