Gweithiwr Cymdeithasol

3 weeks ago

Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn awyddus i dderbyn ceisiadau ar gyfer ei Dîm Iechyd ac Anabledd Plant yn ei Adran Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc.

Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi creu nifer o swyddi i ychwanegu capasiti a gwydnwch ar draws ein timau. Yn weithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg bydd gennych lwyth gwaith hawdd ei reoli, cewch gymorth rhagorol a chewch amser i'w dreulio gyda phlant a phobl ifanc.

Gallwch ddisgwyl cynhesrwydd a lefelau uchel o gymorth gan weithlu ymroddedig ac Awdurdod lle mae lles a datblygiad yn ganolog i'n gwaith.

Dyma gyfle arbennig i ymgartrefu mewn Awdurdod sydd â hanes llwyddiannus o wneud gwahaniaeth a pherfformio’n rhagorol. Mae perthnasau’n ganolog i'n gwaith, ac rydym yn hyrwyddo arfer sy'n seiliedig ar gryfder ym mhopeth a wnawn.

Ewch i’n tudalen Swyddi Gwasanaethau Plant bwrpasol i ddarllen am y Weledigaeth, y Timau a'r Manteision i Weithwyr.

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion am gyflog: Gradd 8, PCG 26 - 30, £34,834 - £38,223 y.f. / Gradd 9, PCG 31 - 35 £ 39,186 - £43,421 y.f. (pro rata)

Cyflog wrth benodi’n dibynnu ar gymwysterau a phrofiad fel y penderfynir gan y swyddog penodi. Nid oes cynnydd awtomatig o Radd 8 i Radd 9

Oriau Gwaith: 18.5 awr

Prif Waith: Swyddfa’r Dociau, Y Barri

Angen Gwiriad DBS: Manwl

**Amdanat ti**

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Gradd/diploma cydnabyddedig neu gymhwyster cyfatebol mewn Gwaith Cymdeithasol e.e. Gradd, Diploma Gwaith Cymdeithasol, CQSW ac ati.
- Wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
- Profiad o Waith Cymdeithasol gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd / gofalwyr.
- Profiad o weithio amlasiantaethol
- Gwybodaeth am egwyddorion y Ddeddf Plant, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), canllawiau a safonau cenedlaethol.

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael mwy o wybodaeth.

Mwy o wybodaeth am y timau:
Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymdeithasol cymwys i weithio yn ein Tîm Iechyd ac Anabledd Plant, yn benodol i weithio gyda'n pobl ifanc oedran pontio.

Mae gweithwyr cymdeithasol yn ein Tîm Iechyd ac Anabledd Plant yn darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd ag anabledd dysgu difrifol neu arwyddocaol, anabledd corfforol, nam ar y synhwyrau, neu nam cyfathrebu dwys. Mae ganddynt gysylltiadau aml-asiantaeth cryf, yn enwedig gyda Iechyd. Byddwch yn chwarae rhan wrth ymateb i atgyfeiriadau newydd i'r tîm ac wrth sicrhau ein bod yn darparu ymateb cychwynnol effeithiol a byddwn yn datblygu perthnasoedd tymor hwy gyda theuluoedd i'w helpu i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.

Bydd y gwaith yn bwrpasol a bydd risgiau'n cael eu rheoli'n hyderus. Mae digon o adnoddau gan y Tîm i alluogi gweithwyr i weithredu mewn ffordd amserol ond hefyd gydag amser i fyfyrio.

Ym mhob un o'r timau, gall gweithwyr fod yn garedig ac yn gyson a gallant ganolbwyntio ar eu gwaith gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd / gofalwyr. Mae rheolwyr ar gael yn rhwydd ac mae lles y staff yn flaenoriaeth.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Cynhelir cyfweliadau

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu gwnewch gais ar-lein:
Alison Woolcock, Rheolwr Tîm, 01446 725202

Job Reference: SS00703

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cyngor Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau ar gyfer ei Dîm Fourteen Plus. Yn dilyn buddsoddiad sylweddol i Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi creu nifer o swyddi i ychwanegu capasiti a gwytnwch ar draws ein timau. Fel Gweithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg, bydd gennych lwyth gwaith hylaw, cefnogaeth ragorol ac amser i'w...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Gwnewch newid na fyddwch yn difaru; dod yn Weithiwr Cymdeithasol yn y lle hapusaf yng Nghymru Rhowch eich manylion cyswllt yma i ni gysylltu. Unwaith y byddwn wedi trafod y rôl sydd ar gael ac wedi ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer a symud eich cais ymlaen. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae tîm Asesydd Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn dîm integredig sy'n cynnwys staff Nyrsio a Gweithwyr Cymdeithasol, Ei prif gyfrifoldebau yw cynnal asesiadau integredig cynhwysfawr o unigolion mewn cartrefi nyrsio a chynrychioli'r Awdurdod Lleol yn y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG (CHC) a...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cyngor Bro Morgannwg yn awyddus i dderbyn ceisiadau ar gyfer ei Dîm Iechyd ac Anabledd Plant yn ei Adran Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc. Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi creu nifer o swyddi i ychwanegu capasiti a gwydnwch ar draws ein timau. Yn weithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg bydd...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cydweithfa Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd (VVC) yn un o bum Cydweithrediad rhanbarthol sy’n rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru. Mae'n cyflawni ystod o swyddogaethau'r Asiantaeth Fabwysiadu ar ran CBS Merthyr Tudful, CBC RCT, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg. Mae'r cwmni cydweithredol yn gyfrifol...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Lleoli Oedolion ar gyfer Rheolwr Cynorthwyol. Mae'r Gwasanaeth Lleoli Oedolion yn darparu llety tymor byr a thymor hir i oedolion yr aseswyd bod angen gofal a chymorth arnynt ym Mro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae pobl yn byw mewn amgylchedd teuluol a ddarperir gan Letywyr Lleoli Oedolion...

  • Gweithiwr Sesiynol

    4 weeks ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn wasanaeth amrywiol sy’n cynnig amrywiaeth o ymyraethau i blant a phobl ifanc rhwng 8 a 17 oed sy’n rhan o gynlluniau gwirfoddol a chynlluniau dan orchymyn y llys. Bydd y gweithwyr sesiynol yn cefnogi’r tîm ehangach i gynnig ymyraethau a chynnig cymorth i bobl ifanc a’u teuluoedd i leihau’r...

  • Gweithiwr Gofal Plant

    1 month ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau o fewn ei Rhaglen Dechrau'n Deg. Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael mewn ardaloedd penodol i gefnogi pob teulu i roi Dechrau'n Deg mewn bywyd i blant 0-3 oed Nod y rhaglen yw darparu gwasanaethau cymorth dwys i blant a’u teuluoedd. Mae’r rhaglen yn...

    **Amdanom ni** Mae'r Mentor Lles Ieuenctid yn darparu ymyriadau lles fel rhan o'r Gwasanaeth Lles Ieuenctid. Mae’r Gwasanaeth Lles Ieuenctid yn broject wedi ei ariannu gan Teuluoedd yn Gyntaf i gynnig cymorth targedig i bobl ifanc ym Mro Morgannwg a gafodd brofiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod sydd bellach yn amharu’n sylweddol ar eu lles...

  • Rheolwr Integredig

    4 weeks ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Tîm Iechyd Meddwl Lleol y Fro yn dîm amlddisgyblaethol deinamig, sy'n cynnig cymorth sy'n canolbwyntio ar wella ac wedi’i seilio ar ganlyniadau i bobl sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Mae gan y tîm berthnasoedd rhagorol gyda sefydliadau'r trydydd sector, gwasanaethau sylfaenol ac arbenigol ac mae'n agored i ddatblygu'r...