Rheolwr Ymarferwyr

2 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth.

Bellach mae gennym ddau Dîm Cymorth i Deuluoedd ag adnoddau da sy'n ymroddedig i weithio mewn partneriaeth â theuluoedd i gyflawni'r canlyniadau gorau.

Rydym hefyd yn datblygu ein gwasanaethau i gefnogi ein dull gweithredu pwrpasol sy'n seiliedig ar gryfderau, sef 'Adeiladu ar Gryfderau'. Mae'r dull hwn yn cydnabod arbenigedd ein plant, ein teuluoedd a'n gweithwyr, ac yn rhoi perthnasoedd wrth wraidd popeth a wnawn.

Gan ymuno â'n gwasanaeth estynedig, byddwch yn rhan o Awdurdod sy'n ddyfeisgar ac yn wydn, wedi ymrwymo i wella ac yn awyddus i groesawu syniadau newydd. Gan adeiladu ar gryfderau amlwg, cewch eich cefnogi gan dîm galluog ac ymrwymedig sydd â gallu amlwg i ddarparu gwasanaeth da.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl:Gradd 10 PCG 36 - 39 £42,503 - £45,495 + £5,000

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr, dydd Llun i ddydd Gwener

Prif Weithle: Swyddfa'r Doc, Y Barri / Gweithio Ystwyth

Telir taliad chwyddo blynyddol o £5,000 ar gyfer y swydd hon.

**Disgrifiad**:
Cynnig gwasanaeth gwaith cymdeithasol i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd/gofalwyr yn unol â’r ddeddfwriaeth, y canllawiau, y rheoliadau a’r safonau cenedlaethol perthnasol. Goruchwylio staff gwaith cymdeithasol yn eu harferion gwaith cymdeithasol uniongyrchol. Dirprwyo ar ran y rheolwr tîm yn ei absenoldeb.

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- Bod yn Weithiwr Cymdeithasol cymwys a chofrestredig.
- Profiad o waith cymdeithasol statudol gyda plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
- Gwybodaeth am egwyddorion Deddf Plant 1989 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Profiad o ddefnyddio Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
- Gallu negodi’n effeithiol.
- Ymrwymiad i waith partneriaeth.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

**Cynhelir cyfweliadau ar 23/02/2023**

**Y math o wiriad sydd ei angen gan y GDG**:Manwl - plant ac oedolion***

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Tracy Prosser, Rheolwr Gweithredol

Lourine Matsungo, Rheolwr Tîm

Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: SS00555


  • Rheolwr Ymarferwyr

    4 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Erbyn hyn mae gennym Dîm Derbyn penodol sy'n gallu ymateb yn effeithiol ar y pwynt cyswllt cyntaf. Rydym wedi cynyddu capasiti ein Rheolwr Ymarferydd yn y...

  • Cymorth Busnes Gcichc

    4 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd sydd mewn perygl o, neu sy'n ymwneud ag ymddygiad troseddol drwy gynnig gwasanaethau atal, dargyfeirio a Gorchymyn Llys statudol. Yn rhan annatod o'r tîm, mae’r rolau Cynorthwy-ydd Perfformiad a Chymorth Busnes yn cefnogi aelodau'r tîm i ddarparu...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Tîm Gweinyddu Ardal yn darparu gwasanaeth rheng flaen a chymorth gweinyddol i Dimau Gwasanaethau Oedolion yng Nghanolfan Tŷ Jenner, Canolfan Gyswllt Un Fro ac Uned Llanfair. Fel prif gysylltiadau ar gyfer y Timau Oedolion maent yn prosesu atgyfeiriadau i'r gwasanaeth ac yn gweinyddu rhestrau aros er mwyn caniatáu trosglwyddo gwaith a...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg yn ceisio rhoi pobl wrth galon eu gofal eu hunain, ni waeth pam mae angen cymorth gofal cymdeithasol arnynt. Rydyn ni am gynnig yr help iawn i bobl ar yr amser iawn i'w helpu i fod yn hapus, yn ddiogel a chael y cyfleoedd gorau mewn bywyd. O fewn Bro Morgannwg gall ymarferwyr wneud...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Rondel House yn darparu Gwasanaeth Dydd i bobl hŷn sy'n byw yn ardaloedd Canol a Dwyrain Bro Morgannwg, a allai ddioddef o eiddilwch sy'n gysylltiedig ag oedran, salwch cronig, anabledd a/neu ddementia. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwasanaeth 5 diwrnod, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn darparu amgylchedd diogel lle gall pobl...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Gwnewch newid na fyddwch yn difaru; dod yn Weithiwr Cymdeithasol yn y lle hapusaf yng Nghymru Rhowch eich manylion cyswllt yma i ni gysylltu. Unwaith y byddwn wedi trafod y rôl sydd ar gael ac wedi ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer a symud eich cais ymlaen. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol...