Rheolwr Gwasanaeth RHyddhau O’r Ysbyty I’r

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r Gwasanaeth Byw'n Annibynnol yn dîm amlddisgyblaethol sy'n cefnogi oedolion i aros yn annibynnol gartref ac yn gysylltiedig â'u cymuned, ein nod yw grymuso pobl i gymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain, i gyflawni eu nodau, a sicrhau bod gan bobl y wybodaeth, y cyngor a’r gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn er mwyn gallu cadw eu hannibyniaeth. Rydyn ni'n gweithio yn y gymuned, gyda'r gymuned, i'r gymuned, ac rydyn ni hefyd yn gweithio yn lleoliadau ysbyty, i gefnogi pobl yn ôl i'r gymuned.

**Am Y Swydd** Diben y Swydd**:

- Mae gwasanaeth rhyddhau O’r Ysbyty i’r Cartref, sy’n ddatblygiad strategol allweddol, yn gweithio ar dri safle ysbyty, yn darparu tîm brysbennu amlddisgyblaethol sy'n seiliedig ar gryfder sy’n cynnwys staff awdurdod lleol ac Iechyd, ac a fydd yn brysbennu at y llwybr rhyddhau priodol, ac yn cydweithio â gwasanaethau cymunedol, er mwyn osgoi derbyniadau i'r ysbyty.
- Bydd deiliad y swydd yn goruchwylio'r gwaith o gyflawni'r gwasanaeth rhyddhau, gan sicrhau bod brysbennu ac asesu rhagweithiol ar waith, bod ystod eang o opsiynau ataliol, cyfannol ar gael a bod dull cadarn o atal, yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ar waith cyn penderfynu ar lwybr statudol.
- Bydd yn goruchwylio'r gwaith o ddatblygu polisïau a gweithdrefnau ledled y gwasanaeth ac yn sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi i gyflawni'r gwasanaethau a pholisïau hyn yn effeithiol.
- Bydd yn creu a chynnal partneriaethau gwaith cadarnhaol, gyda chydweithwyr iechyd yn y lleoliad acíwt a chymunedol, ynghyd â Gofal Cymdeithasol.
- Bydd yn sicrhau bod dealltwriaeth dda o ddull brysbennu sydd wedi ei seilio ar gryfderau, anghenion gofal a chymorth cymunedol a bod y ddealltwriaeth honno’n esblygu ac yn ymateb i anghenion demograffig a phersonol newidiol.
- Bydd yn goruchwylio'r gwaith o gyflawni gwasanaeth rhyddhau gan sicrhau bod gofal a chymorth yn cael eu darparu ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn, yn y ffordd amserol fwyaf diogel, gyda'r cartref yn ddewis cyntaf. Bydd rhyddhau i adfer ac asesu, ailalluogi a grymuso dinasyddion yn greiddiol i’r gwaith.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rhaid i chi hefyd allu asesu risgiau a datblygu strategaethau rhagataliol ar gyfer lliniaru risg. Rhaid i chi allu creu a chyflawni gwaith partneriaeth effeithiol gyda chanlyniadau â ffocws a gallu ymgysylltu, cefnogi, herio a chyflawni newid. Rhaid i chi allu grymuso eich staff i ddarparu gwasanaethau i'r safon uchaf.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Prif leoliad y swydd fydd Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae'r swydd wag hon yn addas i’w rhannu, Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02671



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn bartneriaeth amlasiantaethol sydd ar flaen y gad o ran datblygu ymyriadau arloesol i blant a phobl ifanc 10-17 oed sydd wedi troseddu neu mewn perygl o droseddu. **Am Y Swydd** Rydym yn chwilio am rywun i lenwi’r swydd ganlynol yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) - Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd yn chwilio am Reolwr Sicrwydd Ansawdd i arwain ar y gwaith gweithredu: Strategaeth Sicrwydd Ansawdd ac Archwilio ar gyfer Gwasanaethau Plant ac Oedolion Prosesau Sicrwydd Ansawdd cadarn ar draws y Gyfarwyddiaeth. **Am Y Swydd** Yn y rôl o Reolwr Sicrwydd Ansawdd byddwch yn ymuno â thîm ymroddgar...

  • Rheolwr Cofrestredig

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Gwasanaethau Plant - Preswyl** **Rheolwr Cofrestredig** Mae disgwyl i recriwtio i gartref plant newydd Caerdydd agor ym mis Ionawr 2024 Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio rheolwr ar gyfer ein tri Chartref newydd i Blant dan Asesiad, a fydd yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc...

  • Athro Ysbyty

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Dyma wasanaeth addysgu ysbyty rhagorol er yn fach yn Ysbyty Plant Arch Noa yn y Mynydd Bychan. Uned Cyfeirio Disgyblion Bryn y Deryn sy’n ei oruchwylio. Rydyn ni’n awyddus i recriwtio athro cyfrwng Cymraeg. **Am Y Swydd** Mae llawer o resymau pam y mae Gwasanaeth Addysgu Ysbyty Plant Arch Noa yn lle gwych i fuddsoddi eich talent. Yn...

  • Rheolwr Cofrestredig

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio rheolwr ar gyfer ein tri Chartref newydd i Blant dan Asesiad, a fydd yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Bydd y tri chartref yn dal cyfanswm o bedwar person ifanc ac yn cael eu cefnogi'n llawn gan dimau aml-broffesiynol. Mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd ar daith wella yn dilyn arolygiad Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi, lle rydym yn ymdrechu i sicrhau canlyniadau rhagorol i bob plentyn a pherson ifanc yn ein gwasanaeth. Er mwyn ein helpu i barhau â'n cynnydd cadarnhaol hyd yma, rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol neu Swyddog Prawf...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Prif swyddogaethau’r adran yw: - darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad - rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at y gwaith o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolion ymroddedig ymuno â Gofal Cartref y Tîm Adnoddau Cymunedol (TAC) sy'n gweithredu ledled Caerdydd. Rydym yn cefnogi dinasyddion Caerdydd i atal derbyniadau diangen i'r ysbyty, gan hwyluso rhyddhau cleifion o'r ysbyty a cheisio helpu pobl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Rydym yn...

  • Rheolwr Project

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymroddgar sydd â hanes llwyddiannus o reoli projectau wedi eu cyllido ac o fod yn rheolwr llinell ar dîm. Mae'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Trafnidiaeth Teithwyr yn dîm bach o 9 swyddog sy'n rheoli pob agwedd ar ofynion Trafnidiaeth Teithwyr y Cyngor, gan gynnwys trafnidiaeth brif ffrwd o’r cartref i’r ysgol, Trafnidiaeth Anghenion Addysgol Ychwanegol, trafnidiaeth y Gwasanaethau Plant ac Oedolion ac unrhyw drafnidiaeth ad-hoc y mae’r cyngor ei hangen. Mae'r...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd rôl allweddol o ran prynu gwasanaethau a rheoli a monitro'n gyffredinol y gwasanaethau hyn i gefnogi oedolion a phlant sy'n agored i niwed, ar draws y swyddogaeth Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu tua £140 miliwn o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Therapydd Galwedigaethol yn y Gwasanaethau 18.5hrs Byw'n Annibynnol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynnal asesiadau o angen a chytuno ar ganlyniadau gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Mae ymyriadau yn debygol o gynnwys darparu cyfarpar a chyflawni addasiadau mawr. Bydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Ganolfan Gyswllt arobryn ac uchel ei pharch, yn cynnig ymateb sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i ymholiadau ynghylch ystod o wasanaethau’r Cyngor gan drigolion Caerdydd a defnyddwyr gwasanaeth eraill drwy sawl cyfrwng gan gynnwys dros y ffôn, cyswllt dros y we, sgyrsiau ar y we, SgyrsBot, e-bost, negeseuon llais a thestun. Os...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn parhau ei daith wella, lle rydym yn ymdrechu i sicrhau canlyniadau rhagorol bob amser i bob plentyn a pherson ifanc yn ein gwasanaeth. I’n helpu i barhau â'n cynnydd cadarnhaol hyd yn hyn, rydym yn chwilio am ymarferydd GCI brwdfrydig, hunangymhellol a phrofiadol. Cynigir y swydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym yn awyddus i recriwtio Cynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol i'n Gwasanaeth Pobl Hŷn a Namau Corfforol yn y Gwasanaethau Oedolion. Mae hon yn swydd barhaol ac yn rhoi cyfle i weithio mewn lleoliad gwasanaeth gwaith cymdeithasol prysur. Mae’r rôl gyda'n Tîm Ysbytai yn ymateb i gysylltiadau gan ddinasyddion, eu teuluoedd, darparwyr...

  • Cyfrifydd

    3 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r swydd hon yn rhan o’r Is-adran Cyfrifeg o fewn Cyllid. Mae gan yr is-adran Cyfrifeg gyfrifyddion cymwys a phrofiadol sy’n cynnig cyngor ariannol proffesiynol a chymorth cyfrifeg i’r holl gyfarwyddiaethau, ysgolion ac amrywiaeth o gyrff allanol a chydbwyllgorau ynglŷn â chyfrifyddu refeniw a chyfalaf. Bydd yr ymgeisydd...

  • Cogydd Cynorthwyol

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes. **Ynglŷn...

  • Cogydd Cynorthwyol

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes. **Am Y Swydd** Yn...

  • Cogydd Cynorthwyol

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes. **Am Y Swydd** Yn...