Uwch Gynorthwy-ydd Casglu
2 weeks ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae’r swydd hon yn Is-adran y Dreth Gyngor. Mae’r Is-adran hon yn gyfrifol am gasglu dros £200 miliwn y flwyddyn i helpu’r Cyngor i ariannu ei wasanaethau. Rydym yn ymdrechu’n barhaus i gynnal a gwella ein cyfraddau casglu sy’n helpu i sicrhau’r grym gwario mwyaf posib i’r Cyngor. Mae’r is-adran hon hefyd yn gyfrifol am gynnal cronfa ddata o fwy na 160,000 o dalwyr y dreth gyngor a sicrhau bod diwygiadau i atebolrwydd, gostyngiadau ac eithriadau yn cael eu prosesu’n brydlon ac effeithlon.
**Am Y Swydd**
Yn absenoldeb y Swyddog Casglu, bydd gofyn i'r ymgeisydd oruchwylio tîm mawr a sicrhau bod y llwythi gwaith yn cael eu rheoli mor effeithlon ac effeithiol â phosibl. At hynny, bydd angen i’r ymgeisydd, ar brydiau, weithredu fel eiriolwr ar gyfer y Cyngor mewn gwrandawiadau llys a phrosesu a mantoli’r newidiadau i’r Rhestr Brisio a geir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Bydd hefyd yn ofynnol i'r ymgeisydd gefnogi datblygiad staff y dreth gyngor a delio hefyd ag ymholiadau cymhleth gan gwsmeriaid.
Bydd y rolau hyn yn cynnwys cyfuniad o weithio gartref ac yn Neuadd y Ddinas lle mae'r swyddi wedi'u lleoli'n swyddogol.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Dylai fod gan ymgeiswyr wybodaeth weithio o drethiant lleol a dealltwriaeth dda o’r ddeddfwriaeth briodol.Sgiliau cyfathrebu a chyfrifiadurol da, yn arbennig mewn perthynas â systemau Trethiant Lleol a Rheoli Dogfennau. Rhaid iddynt hefyd allu rheoli tîm mawr o staff yn effeithiol, gan gynnwys y gallu i asesu, monitro a gwella perfformiad.
Rhaid i’r ymgeisydd fod yn ymrwymedig i ddatblygiad parhaus.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae 2 swydd barhaol ar gael
Mae’r swyddi hyn yn destun gwiriadau Safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_._
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: RES01206
-
Uwch Gynorthwy-ydd Gweinyddol
4 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Nod y Gwasanaethau Plant yw sicrhau bod plant a theuluoedd Caerdydd yn cael y gwasanaeth a'r cymorth gorau. Mae Caerdydd wedi ymrwymo i fod yn 'Ddinas sy’n Dda i Blant’ sy’n rhoi hawliau plant ar flaen y gad o ran datblygu polisi a strategaeth. **Am Y Swydd** Mae cyfle Parhaol cyffrous wedi codi yn nhîm Cyllid Gwasanaethau Plant...
-
Uwch Gynorthwy-ydd Clercaidd
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae’r Hyb Diogelu Amlasiantaethol yn un o’r drysau ffrynt i Wasanaethau Plant Caerdydd. Yma rydym yn prosesu atgyfeiriadau ac adroddiadau gan yr heddlu sy’n nodi pryderon am blant yng Nghaerdydd. Mae'r Hyb hefyd yn ymdrin â galwadau gan aelodau o'r cyhoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol, o athrawon i swyddogion prawf sy'n...
-
Uwch Gynorthwy-ydd Adennill Dyledion
4 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae swydd Uwch Gynorthwy-ydd Adennill Dros Dro wedi dod ar gael yn Adran Adennill y Gwasanaethau Refeniw hyd at y 1af o Hydref 2025. Mae deiliad y swydd hon yn gyfrifol am adennill y Dreth Gyngor, Ardrethi Busnes, Dirwyon Parcio, Throseddau Traffig sy’n Symud a Mân ddyled sydd heb eu talu. Mae'r adran yn brysur, ac mae’r llwyth...
-
Uwch Gynorthwy-ydd Clercaidd
3 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Yr Hyb Diogelu Amlasiantaethol (y MASH) yw'r pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw un a allai fod yn poeni am les plentyn yng Nghaerdydd. Mae'r MASH yn ymateb i aelodau'r cyhoedd, ac i weithwyr proffesiynol a allai fod angen cyngor neu sydd eisiau adrodd am bryderon. Mae ansawdd ac amseroldeb y wybodaeth a gesglir ac a gofnodir yn helpu i lunio...
-
Cynorthwy-ydd Domestig
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous ar hyn o bryd i Gynorthwy-ydd Domestig ymuno â’n tîm profiadol ac ymroddedig. - Swydd barhaol Cynorthwy-ydd Domestig 16 Awr gan gynnwys gweithio ar benwythnosau (am daliad uwch). Mae Crosslands, sy'n rhan o Gyngor Caerdydd, yn Gartref Plant yn ardal Trelái yng Nghaerdydd, sy'n darparu gofal o ansawdd uchel i 6 o...
-
Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl
7 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...
-
Uwch Gynorthwy-ydd Addysgu
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Cymorth Nam Synhwyraidd Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg Caerdydd fel Cynorthwy-ydd Addysgu yn cefnogi dysgwyr â Nam ar y Golwg. Fel Gwasanaeth, rydym yn gweithio mewn partneriaeth i hwyluso cynhwysiant i ddysgwyr â Nam ar y Golwg yn eu hysgolion lleol, colegau a lleoliadau blynyddoedd cynnar...
-
Uwch Gynorthwy-ydd Clerigol
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Bryn y Deryn a Chanolfan Carnegie yn Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) CA4 ar gyfer 90 o ddisgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol, cymdeithasol ac iechyd meddwl. Rydym yn edrych i benodi Swyddog Cymorth Gweinyddol i'n tîm positif presennol. **Am Y Swydd** Trefnu a goruchwylio systemau gweinyddol yn yr ysgol. Cyfrannu at...
-
Cynorthwy-ydd Casglu
4 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae swydd ar gael gyda’r tîm Ardrethi Busnes yn Is-adran Refeniw’r Gwasanaethau Corfforaethol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am helpu i filio a chasglu ardrethi busnes o tua 13,000 o fusnesau yn y ddinas a phrif ddiben y swydd fydd i ddiweddaru a chynnal gwybodaeth am gyfrifon yn gywir. **Beth Rydym Ei...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y Brifysgol? Cael swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn syth erbyn cymhwyso’r flwyddyn nesaf. **Cyflog Cystadleuol** **Taliad Atodol ar sail y Farchnad** **Rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr** **Tyfu a datblygu** **_ Dinas sy’n Dda i Blant UNICEF_** **Dull Ffocws ar y...