Uwch Gynorthwy-ydd Clercaidd

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae’r Hyb Diogelu Amlasiantaethol yn un o’r drysau ffrynt i Wasanaethau Plant Caerdydd. Yma rydym yn prosesu atgyfeiriadau ac adroddiadau gan yr heddlu sy’n nodi pryderon am blant yng Nghaerdydd. Mae'r Hyb hefyd yn ymdrin â galwadau gan aelodau o'r cyhoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol, o athrawon i swyddogion prawf sy'n ceisio cyngor.

Yn rhan o’r tîm prysur hwn, mae'r tîm gweinyddol yn hanfodol i'r gwaith o redeg y gwasanaeth o ddydd i ddydd gan sicrhau bod yr atgyfeiriadau ac adroddiadau dan sylw yn cael eu prosesu yn gywir ac amserol.

**Am Y Swydd**
Rydym yn chwilio am Uwch Gynorthwy-ydd Clercaidd i roi cymorth i'r Hyb Diogelu Amlasiantaethol a thimau o weithwyr cymdeithasol rheoli achosion. Mae’r dyletswyddau'n cynnwys ateb y ffôn a phrosesu gwybodaeth amrywiol gan ddefnyddio system gyfrifiadurol o fewn terfynau amser llym.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am weithiwr llawn cymhelliant a hynod weithgar, sy'n gallu gweithio o’i ben a’i bastwn ei hun ac fel aelod o dîm. Mae’r Hyb yn swyddfa gyflym sy’n delio â llawer iawn o waith; gan hynny mae’r gallu i roi sylw i fanylion yn hollbwysig yn y rôl hon.

Rydym yn chwilio am rywun sydd llawn ymrwymiad a brwdfrydedd tuag at weithio yn y Sector Gwasanaethau Plant. Rhywun meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth dda o ddefnyddio gwahanol gronfeydd data ar gyfer rheoli cofnodion cleientiaid a gwybodaeth a dealltwriaeth helaeth o raglenni Microsoft Office.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r swydd hon yn destun gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy'n agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch ac amddiffyniad pob plentyn ac oedolyn agored i niwed, a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae tîm Gweinyddol yr Hyb Diogelu Amlasiantaethol yn gweithio yn unol â’r Polisi Gweithio Hybrid ac yn gweithio rhwng eu cartrefi a Neuadd y Sir

Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer ôl-rannu.

Croesawn geisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02158



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Yr Hyb Diogelu Amlasiantaethol (y MASH) yw'r pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw un a allai fod yn poeni am les plentyn yng Nghaerdydd. Mae'r MASH yn ymateb i aelodau'r cyhoedd, ac i weithwyr proffesiynol a allai fod angen cyngor neu sydd eisiau adrodd am bryderon. Mae ansawdd ac amseroldeb y wybodaeth a gesglir ac a gofnodir yn helpu i lunio...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Nod y Gwasanaethau Plant yw sicrhau bod plant a theuluoedd Caerdydd yn cael y gwasanaeth a'r cymorth gorau. Mae Caerdydd wedi ymrwymo i fod yn 'Ddinas sy’n Dda i Blant’ sy’n rhoi hawliau plant ar flaen y gad o ran datblygu polisi a strategaeth. **Am Y Swydd** Mae cyfle Parhaol cyffrous wedi codi yn nhîm Cyllid Gwasanaethau Plant...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae swydd Uwch Gynorthwy-ydd Adennill Dros Dro wedi dod ar gael yn Adran Adennill y Gwasanaethau Refeniw hyd at y 1af o Hydref 2025. Mae deiliad y swydd hon yn gyfrifol am adennill y Dreth Gyngor, Ardrethi Busnes, Dirwyon Parcio, Throseddau Traffig sy’n Symud a Mân ddyled sydd heb eu talu. Mae'r adran yn brysur, ac mae’r llwyth...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous ar hyn o bryd i Gynorthwy-ydd Domestig ymuno â’n tîm profiadol ac ymroddedig. - Swydd barhaol Cynorthwy-ydd Domestig 16 Awr gan gynnwys gweithio ar benwythnosau (am daliad uwch). Mae Crosslands, sy'n rhan o Gyngor Caerdydd, yn Gartref Plant yn ardal Trelái yng Nghaerdydd, sy'n darparu gofal o ansawdd uchel i 6 o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Cymorth Nam Synhwyraidd Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg Caerdydd fel Cynorthwy-ydd Addysgu yn cefnogi dysgwyr â Nam ar y Golwg. Fel Gwasanaeth, rydym yn gweithio mewn partneriaeth i hwyluso cynhwysiant i ddysgwyr â Nam ar y Golwg yn eu hysgolion lleol, colegau a lleoliadau blynyddoedd cynnar...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r swydd hon yn Is-adran y Dreth Gyngor. Mae’r Is-adran hon yn gyfrifol am gasglu dros £200 miliwn y flwyddyn i helpu’r Cyngor i ariannu ei wasanaethau. Rydym yn ymdrechu’n barhaus i gynnal a gwella ein cyfraddau casglu sy’n helpu i sicrhau’r grym gwario mwyaf posib i’r Cyngor. Mae’r is-adran hon hefyd yn gyfrifol am...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bryn y Deryn a Chanolfan Carnegie yn Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) CA4 ar gyfer 90 o ddisgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol, cymdeithasol ac iechyd meddwl. Rydym yn edrych i benodi Swyddog Cymorth Gweinyddol i'n tîm positif presennol. **Am Y Swydd** Trefnu a goruchwylio systemau gweinyddol yn yr ysgol. Cyfrannu at...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y Brifysgol? Cael swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn syth erbyn cymhwyso’r flwyddyn nesaf. **Cyflog Cystadleuol** **Taliad Atodol ar sail y Farchnad** **Rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr** **Tyfu a datblygu** **_ Dinas sy’n Dda i Blant UNICEF_** **Dull Ffocws ar y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys atodiad marchnad gwerth £3,000 yn ychwanegol at y cyflog rhestredig. Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a...