Cynorthwy-ydd Domestig
3 days ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous ar hyn o bryd i Gynorthwy-ydd Domestig ymuno â’n tîm profiadol ac ymroddedig.
- Swydd barhaol Cynorthwy-ydd Domestig 16 Awr gan gynnwys gweithio ar benwythnosau (am daliad uwch).
Mae Crosslands, sy'n rhan o Gyngor Caerdydd, yn Gartref Plant yn ardal Trelái yng Nghaerdydd, sy'n darparu gofal o ansawdd uchel i 6 o bobl ifanc o 11 i 17 oed. Fel tîm, rydym yn ymdrechu i ddarparu amgylchedd adferol, diogel, meithringar a strwythuredig sy'n cefnogi lles corfforol ac emosiynol pobl ifanc.
**Am Y Swydd**
Mae'r Cynorthwy-ydd Domestig yn rhan hanfodol o'r tîm ac felly mae'n gweithio gyda staff eraill i gynnal amgylchedd glân a hylan ar gyfer yr holl bobl ifanc a staff.
**YR HYN Y GALLWN EI GYNNIG I CHI**
Swydd mewn Cartref Plant sefydledig yn gweithio i Gyngor Caerdydd.
Yn ogystal â'r cyflog blynyddol, telir yn ychwanegol ar gyfer gweithio ar benwythnosau.
Hawliau gwyliau blynyddol hael a chynlluniau pensiwn.
Cymorth hyfforddi a chyfleoedd datblygu
Darperir goruchwyliaeth ffurfiol.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Cynnal safon glendid uchel drwy'r cartref gan ddefnyddio'r dulliau glanhau cymeradwy.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm a bydd yn gorfforol heini.
Chwilio am ymgeisydd sydd â'r sgiliau cywir a'r cymhelliant a'r rhinweddau personol cywir i fod yn rhan o'n tîm a gallu gweithio ochr yn ochr â phobl ifanc.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth ymgeisio am y swydd uchod.
Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Job Reference: PEO01396
-
Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...