Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl

7 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae Crosslands yn cynnig gofal o safon uchel i 6 o bobl ifanc 11-17 oed, gan fodloni anghenion pobl ifanc drwy hyrwyddo’r Fframwaith Arwyddion Diogelwch, sef dull arloesol yn seiliedig ar gryfderau sy'n cynnig lleoliadau sefydlog, diogel a meithringar. Fel tîm, rydym yn ymdrechu i ddarparu amgylchedd adferol, diogel, meithringar a strwythuredig sy'n cefnogi lles corfforol ac emosiynol. Mae'n bosibl bod cartref teuluol neu leoliad blaenorol y bobl ifanc wedi methu. Maent wedi wynebu argyfwng yn eu bywydau ac o ganlyniad gallant arddangos amrywiaeth o symptomau ac ymddygiadau sy'n seiliedig ar drawma. Mae ein tîm yn cynnig cymorth uniongyrchol, gan sicrhau ein bod yn cynnig amgylchedd cynnes a chroesawgar o'r cychwyn cyntaf. Rydym yn cydnabod ac yn hyrwyddo anghenion unigol, unigryw ac amrywiol pobl ifanc a, pha fo'n briodol, yn cynnal ac yn cryfhau eu perthynas gyda theuluoedd, brodyr a chwiorydd a phobl eraill y maent wedi dweud wrthym sy’n bwysig iddynt. Mae ein tîm yn cynnwys Rheolwr, 2 Ddirprwy, 2 Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl, 14 Swyddog Gofal Plant Preswyl, Staff sy’n Effro dros nos, 2 Gynorthwy-ydd Domestig, 1 Swyddog Cymorth Busnes a Pherson Cynnal a Chadw. **Am Y Swydd** Rydym yn chwilio am **Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl** i ddod i ymuno â'n tîm Bydd gennych brofiad helaeth o weithio gyda phobl ifanc gydag ymddygiad cymhleth mewn lleoliad preswyl. Gan weithio fel Uwch-swyddog Gofal Plant Preswyl, rhaid i chi fynd gam ymhellach ar ran y bobl ifanc - gan sicrhau eu bod yn cael profiadau a pherthnasoedd cadarnhaol wrth dyfu i fyny i'w galluogi i deimlo'n ddiogel ac yn hyderus ar gyfer eu dyfodol. Er mwyn cyflawni'r rôl hon rhaid i chi allu cynnig profiad ac arbenigedd wrth weithio gyda phobl ifanc yn Crosslands i sicrhau eu bod yn cymryd rhan lawn yn y broses o wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Rhaid i chi allu meithrin, cynnal ac adfer perthnasau gyda phobl ifanc a'u teuluoedd. Mae cyfrannu at hybu iechyd a lles cymdeithasol y bobl ifanc yn hanfodol, yn ogystal â chymryd rhan yn y gwaith o gynnal amgylcheddau ffisegol, cymdeithasol ac emosiynol effeithiol. Uwch Swyddogion Gofal Plant Preswyl yw'r gweithwyr cyswllt ar gyfer addysg ac iechyd gan sicrhau bod cyfleoedd a chyflawniadau i bobl ifanc yn cael eu hyrwyddo er lles pobl ifanc. Mae uwch swyddogion yn cyfrannu at asesu anghenion, canlyniadau a nodau'r person ifanc gan ddatblygu ac adolygu Cynlluniau Personol yn unol â gofynion rheoliadol. Fel Uwch Swyddog, byddwch yn dangos sgiliau arwain a bydd rhaid i chi fodelu gofal da a chyson i gydweithwyr yn ogystal â goruchwylio a mentora, ac ar adegau, bydd rhaid i chi redeg y cartref yn absenoldeb y rheolwr a'r dirprwyon. Mae cydymffurfio â'r holl bolisïau, gweithdrefnau a gofynion rheoleiddiol yn rhan hanfodol o’r rôl. Mae’n rhaid i Uwch Swyddogion gyfrannu at wella'r cartref gan gynnwys cynllunio, cydgysylltu a rhoi prosiectau penodol ar waith. **Beth Rydym Ei Eisiau Gennych** Fel Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl, byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ofalu am y bobl ifanc. Byddwch yn frwdfrydig, yn meddu ar lythrennedd emosiynol, yn frwdfrydig iawn, yn dangos agwedd "gadarnhaol" ac yn barod i fynd gam ymhellach, yn barod i ddysgu ac i rannu profiadau. Er mwyn gwneud cais am y swydd, mae'n rhaid i chi gael Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc - Cymru a Gogledd Iwerddon). Bydd gofyn i chi weithio ar sail rota 4 wythnos lle mae'r patrymau shifft yn cynnwys sifftiau cynnar, sifftiau hwyr, cysgu i mewn, penwythnos a gweithio ar wyliau banc. Byddwch yn rhan o rota ar alw (y tu allan i oriau swyddfa) pan fo angen. Gan weithio mewn modd cadarnhaol a pharchus, byddwch yn cynnig gofal unigol drwy ddatblygu perthnasoedd proffesiynol ac effeithiol. Byddwch yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth o anghenion sylfaenol person ifanc a'i hawliau. Byddwch yn gallu dangos eich bod yn gallu cyfathrebu a gweithio'n unigol ac fel aelod o dîm, gyda phobl ifanc, eu teuluoedd, cydweithwyr, gweithwyr proffesiynol eraill ac asiantaethau allanol. **YR HYN Y GALLWN EI GYNNIG I CHI** Swydd barhaol amser llawn mewn Cartref Plant sefydledig yn gweithio i Gyngor Caerdydd. Yn ogystal â'r cyflog blynyddol, cynigir tâl ychwanegol am weithio gyda’r nos (ar ôl 8pm), ar benwythnosau, cyflawni dyletswyddau cysgu i mewn ac ar alw. Hawliau gwyliau blynyddol hael a chynlluniau pensiwn. Anogir a chefnogir datblygiad proffesiynol parhaus gyda chyfleoedd hyfforddi rheolaidd. Darperir goruchwyliaeth ffurfiol ac anffurfiol. **Gwybodaeth Ychwanegol** Gan fod hon yn rôl mor ddiddorol,



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio tîm newydd o weithwyr Gofal Plant Preswyl ar gyfer ein cartref newydd i Blant dan Asesiad, yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ei waith....


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio Swyddog Effro’r Nos ar gyfer Cartref Crosslands yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ei waith. Mae hwn yn gyfle i weithio mewn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf. **PEO02930*** **Swydd Dirprwy Swyddog Cyfrifol** **Gradd 7**: - £33,945 - £38,223** **Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Dirprwy Swyddog Cyfrifol, i weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Ddirprwy Reolwr hyderus, annibynnol ac effeithiol ar gyfer ein Cartref Plant...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio 2 Gweithiwr Cymdeithasol profiadol a pharhaol i ymuno â'n tîm newydd ac arloesol a fydd yn adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth yn annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd.** Byddwch yn ymuno â Hyb Adolygu gwell a diwygiedig, yn eistedd ochr yn ochr â Chadeiryddion Cynadleddau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio Swyddog Adolygu Annibynnol profiadol a pharhaol i ymuno â'n gwasanaethau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc, gwasanaethau sy’n tyfu gennym. Byddwch yn ymuno â thîm deinamig a sefydledig i barhau â'r gwaith da yn y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol. Bydd gennych o leiaf 6 mis o...

  • Uwch Swyddog Hyb

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i ddinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. **Am Y Swydd** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous yn ein Tîm y Tu Allan i Oriau newydd. **Y buddion a gynigir** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau...