Swyddog Gofal Plant Preswyl

1 week ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus?

Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau cysgu dros nos, yn ychwanegol at eich cyflog.

Byddwch yn derbyn taliad chwyddo cyflog ychwanegol o 30% ar ôl 8pm yn ystod yr wythnos, 50% ar benwythnosau a £38 ar gyfer dyletswyddau cysgu dros nos.

Gall Caerdydd gynnig cyfle i weithio ar draws ein cartrefi plant amrywiol gan roi'r cyfle i chi ennill a thyfu eich profiad yn gweithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol ar draws ein cartrefi plant yng Nghaerdydd.

Gallwn gynnig oriau gwaith hyblyg, p'un a ydych yn chwilio am waith rhan-amser neu lawn-amser, a allai ffitio o amgylch eich ffordd o fyw bersonol.

Mae sicrhau bod y staff cywir yn cael eu paru â'r plentyn neu'r person ifanc cywir wrth wraidd y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu. Byddai gennych un gweithle sefydlog ond o bryd i'w gilydd efallai y bydd eich sgiliau a'ch dull gweithredu’n fwy addas ar gyfer un o'n cartrefi eraill. Mae ein cartrefi i gyd yn agos at ei gilydd ac ni fyddai hyn yn cynnwys unrhyw deithio afresymol.

**Am Y Swydd**
Rydym yn edrych i recriwtio i swyddi llawn-amser a rhan-amser.

Mae'n cymryd math arbennig o berson i ymrwymo ei yrfa i gefnogi eraill. Byddai eich amynedd, eich empathi a'ch natur ofalgar yn eich gwneud yn berson delfrydol i gefnogi unigolion ar draws ein cartrefi yng Nghaerdydd. Os ydych chi'n teimlo mai dyma'r math o berson ydych chi, yna chi yw'r person rydym yn chwilio amdano.

Rydym yn chwilio am unigolion i helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael lefel ac ansawdd uchel o gymorth unigol drwy gydol eu hamser yn ein cartrefi.

Byddwch yn gweithio mewn tîm sy'n cefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, i feithrin perthnasau priodol ac i gael hwyl, gan fod yno ar bob cam o’u datblygiad. Mae angen i chi fod yn barod i ddysgu a rhannu profiadau, sgiliau a gwybodaeth tra hefyd yn rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd eich rôl.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Fel Swyddog Gofal Plant Preswyl, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gofal uniongyrchol a chymorth effeithiol i bobl ifanc i'w galluogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol yn unol â'u cynllun personol gofal plant.

Mae pob diwrnod yn wahanol, a byddwch yn wynebu heriau newydd - mae angen aelodau o staff arnom sydd ag agwedd gadarnhaol, sy'n barod i fynd yr ail filltir i'r bobl ifanc yn eu gofal.

Mae angen i’n tîm helpu i gydnabod a hyrwyddo unigoliaeth, natur unigryw ac anghenion amrywiol pobl ifanc tra'n darparu amgylchedd meithringar a chadarnhaol.

Fel rhan o'r rôl, byddwch yn cymryd rhan lawn yn yr amgylchedd gofal a byw â chymorth o fewn y cartref a fydd yn cynnwys glanhau'r cartref, cynnal a chadw, paratoi prydau bwyd a helpu pobl ifanc i fynd i ddigwyddiadau, gweithgareddau, addysg, apwyntiadau a chyfarfodydd.

Byddwch yn cefnogi'r cynlluniau addysg ar gyfer y plant, a all gynnwys gwaith cartref, adolygu, gwaith project a gweithgareddau addysgol eraill. Byddwch yn hybu darllen a datblygiad deallusol pobl ifanc drwy greu amgylchedd cadarnhaol ar gyfer dysgu a chymorth, gan greu cysylltiadau cadarnhaol gydag ysgolion, mynychu digwyddiadau, gweithgareddau a nosweithiau rhieni fel y bo'n briodol.

**Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwch yn derbyn**:

- Hawliau i wyliau blynyddol cystadleuol a chynlluniau pensiwn.
- Help a chefnogaeth i gwblhau:

- Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (Gofal Cymdeithasol Cymru)
- Cymhwyster Plant a Phobl Ifanc Lefel 2 (Craidd)
- Cymhwyster Plant a Phobl Ifanc Lefel 3 (Ymarfer)
- Anogir a chefnogir datblygiad proffesiynol parhaus a chynnydd o fewn y proffesiwn a chynigir cyfleoedd hyfforddi rheolaidd.
- Cyfleoedd hyfforddi i ddysgwyr Cymraeg ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
- Darperir goruchwyliaeth ffurfiol ac anffurfiol.
- Mynediad at wasanaethau lles staff CareFirst.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth ymgeisio am y swydd uchod.

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae’r swyddi hyn yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol,



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Gofal Plant...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i ddiwallu eu hanghenion unigol a goresgyn heriau sy'n eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thŷ Storrie, ein Cartref Preswyl, sy'n darparu llety seibiant byr i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ogystal â chael effaith...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thŷ Storrie, ein Cartref Preswyl, sy'n darparu llety seibiant byr i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ogystal â chael effaith...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i ddiwallu eu hanghenion unigol a goresgyn heriau sy'n eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thŷ Storrie, ein Cartref Preswyl, sy'n darparu llety seibiant byr i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ogystal â chael effaith...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyfle cyffrous i weithio gyda Phlant a Phobl Ifanc mewn Cartref Plant yng Nghaerdydd fel isod: Cartref Plant Tŷ Storrie - Gwasanaeth seibiannau byr/preswyl i blant 6-17 oed. Mae’r Cartref Plant yng Nghaerdydd. Rhoi gofal o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc. Gweithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar drawma. Fframwaith Arwyddion...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio 4 Gweithiwr Cymdeithasol profiadol a pharhaol i ymuno â'n tîm newydd ac arloesol a fydd yn adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth yn annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd.** Byddwch yn ymuno â Hyb Adolygu gwell a diwygiedig, yn eistedd ochr yn ochr â Chadeiryddion Cynadleddau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio 2 Gweithiwr Cymdeithasol profiadol a pharhaol i ymuno â'n tîm newydd ac arloesol a fydd yn adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth yn annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd.** Byddwch yn ymuno â Hyb Adolygu gwell a diwygiedig, yn eistedd ochr yn ochr â Chadeiryddion Cynadleddau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf. **PEO02930*** **Swydd Dirprwy Swyddog Cyfrifol** **Gradd 7**: - £33,945 - £38,223** **Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Dirprwy Swyddog Cyfrifol, i weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Ddirprwy Reolwr hyderus, annibynnol ac effeithiol ar gyfer ein Cartref Plant...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous ar gael yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio Dirprwy Reolwr ar gyfer Cartref Plant Crosslands i ymuno â'n tîm profiadol ac ymroddedig gan weithio gyda 6 o bobl ifanc 11-17 oed. Mae Crosslands yn cynnig gofal o safon uchel i fodloni anghenion pobl ifanc drwy hyrwyddo’r Fframwaith Arwyddion...