Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl

4 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus?

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thŷ Storrie, ein Cartref Preswyl, sy'n darparu llety seibiant byr i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau cysgu dros nos, yn ychwanegol at eich cyflog.

Byddwch yn derbyn taliad chwyddo cyflog ychwanegol o 30% ar ôl 8pm yn ystod yr wythnos, 50% ar benwythnosau a £38 ar gyfer dyletswyddau cysgu dros nos.

**Am Y Swydd**
Mae'n cymryd math arbennig o berson i neilltuo ei yrfa i gefnogi eraill. Byddai eich amynedd, eich empathi a'ch natur ofalgar yn eich gwneud yn berson delfrydol i gefnogi unigolion sy'n defnyddio ein cartref seibiant byr yn Nhŷ Storrie. Os ydych chi'n teimlo mai dyma'r math o berson ydych chi, yna chi yw'r person yr ydym yn chwilio amdano.

Byddwch yn gweithio mewn tîm sy'n cefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, meithrin perthnasau priodol a chael hwyl, bod yna bob cam o’u datblygiad. Mae angen i chi fod yn barod i ddysgu a rhannu profiadau, meddu ar sgiliau a gwybodaeth tra hefyd yn rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd eich rôl.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cwblhau cymhwyster Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc yn unol â gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn gallu cyflawni a dod yn gymwys yn holl ofynion hyfforddi a datblygu’r swydd. At hynny, bydd gennych brofiad o weithio gyda phobl ifanc ag anghenion emosiynol, corfforol, cymdeithasol, ymddygiadol a chymhleth ac o leiaf 2 flynedd o brofiad mewn rôl ym maes Gofal Plant preswyl.

Fel Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gofal uniongyrchol a chymorth effeithiol i bobl ifanc yn ein cartref seibiant byr i'w galluogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol yn unol â'u cynllun personol gofal plant.

Mae pob diwrnod yn wahanol, a byddwch yn wynebu heriau newydd, mae arnom angen aelodau o staff sydd ag agwedd gadarnhaol, sy'n barod i fynd y filltir ychwanegol i'r bobl ifanc yn eu gofal.

Mae angen i’n tîm helpu i gydnabod a hyrwyddo unigoliaeth, natur unigryw ac anghenion amrywiol pobl ifanc tra'n darparu amgylchedd meithringar a chadarnhaol.

**Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwch yn derbyn**:

- Hawliau i wyliau blynyddol cystadleuol a chynlluniau pensiwn.
- Anogir a chefnogir datblygiad proffesiynol parhaus a chynnydd o fewn y proffesiwn a chynigir cyfleoedd hyfforddi rheolaidd.
- Cyfleoedd hyfforddi i ddysgwyr Cymraeg ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
- Darperir goruchwyliaeth ffurfiol ac anffurfiol.
- Mynediad at wasanaethau lles staff CareFirst.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth ymgeisio am y swydd uchod.

Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Yn rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant a phlant sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn a pherson ifanc, a byddant yn gweithredu i ddiogelu ei les. Maent yn cydnabod bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol Cyngor Caerdydd.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siartr Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO02627



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Gofal Plant...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i ddiwallu eu hanghenion unigol a goresgyn heriau sy'n eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thŷ Storrie, ein Cartref Preswyl, sy'n darparu llety seibiant byr i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ogystal â chael effaith...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i ddiwallu eu hanghenion unigol a goresgyn heriau sy'n eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thŷ Storrie, ein Cartref Preswyl, sy'n darparu llety seibiant byr i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ogystal â chael effaith...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyfle cyffrous i weithio gyda Phlant a Phobl Ifanc mewn Cartref Plant yng Nghaerdydd fel isod: Cartref Plant Tŷ Storrie - Gwasanaeth seibiannau byr/preswyl i blant 6-17 oed. Mae’r Cartref Plant yng Nghaerdydd. Rhoi gofal o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc. Gweithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar drawma. Fframwaith Arwyddion...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf. **PEO02930*** **Swydd Dirprwy Swyddog Cyfrifol** **Gradd 7**: - £33,945 - £38,223** **Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Dirprwy Swyddog Cyfrifol, i weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Ddirprwy Reolwr hyderus, annibynnol ac effeithiol ar gyfer ein Cartref Plant...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio 4 Gweithiwr Cymdeithasol profiadol a pharhaol i ymuno â'n tîm newydd ac arloesol a fydd yn adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth yn annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd.** Byddwch yn ymuno â Hyb Adolygu gwell a diwygiedig, yn eistedd ochr yn ochr â Chadeiryddion Cynadleddau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio 2 Gweithiwr Cymdeithasol profiadol a pharhaol i ymuno â'n tîm newydd ac arloesol a fydd yn adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth yn annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd.** Byddwch yn ymuno â Hyb Adolygu gwell a diwygiedig, yn eistedd ochr yn ochr â Chadeiryddion Cynadleddau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae dau gyfle llawn amser wedi dod ar gael gyda Caerdydd ar Waith. Mae cyfle cyffrous ar gyfer unigolyn ymrwymedig sydd meddu ar sgiliau gofal cwsmeriaid gwych i ymuno â Caerdydd ar Waith. Caerdydd ar Waith yw’r asiantaeth recriwtio fewnol ar gyfer Cyngor Caerdydd. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio ar Raglen...