Swyddog Adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth
1 week ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio 4 Gweithiwr Cymdeithasol profiadol a pharhaol i ymuno â'n tîm newydd ac arloesol a fydd yn adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth yn annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd.**
Byddwch yn ymuno â Hyb Adolygu gwell a diwygiedig, yn eistedd ochr yn ochr â Chadeiryddion Cynadleddau Amddiffyn Plant profiadol a Swyddogion Adolygu Annibynnol. Ffocws ac ethos Swyddogion Adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth fydd sicrhau bod gan blant a phobl ifanc y cynlluniau gorau sy'n hyrwyddo eu lles a'u diogelwch.
Mae Caerdydd wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfder, gan ddefnyddio Arwyddion Diogelwch. Mae gwybodaeth a phrofiad o'r dull hwn yn hanfodol, ond darperir hyfforddiant.
**Am Y Swydd**_
Mae adolygiadau'r Cynllun Gofal a Chymorth yn cael eu cynnal o bell ar hyn o bryd gan ddefnyddio Microsoft Teams. Mae gennym ddiddordeb mewn recriwtio ystod eang o ymgeiswyr a gellir cynnal yr adolygiadau o bell. Byddem hefyd yn croesawu ymgeiswyr o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, sydd â phrofiad o Adolygiadau Plant Mewn Angen a byddwn yn cynnig hyfforddiant yng nghyd-destun deddfwriaeth Cymru._
Bydd rôl Swyddog Adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth yn cyflwyno adolygiadau annibynnol i bob plentyn a pherson ifanc sy'n destun Cynllun Gofal a Chymorth. Bydd angen i chi adolygu a gwneud argymhellion gan ddefnyddio dulliau cynllunio gofal sy'n seiliedig ar ganlyniadau, a fydd yn effeithio ar fywydau plant a phobl ifanc ac yn eu gwella. Bydd hyn yn cynnwys gwybod a chydnabod pan fo pryderon o ran diogelu, neu fel arall pan allai gwasanaethau anstatudol gefnogi plentyn neu ei deulu yn well.
Fel Swyddog Adolygu Annibynnol, mae cyfleoedd i weithio'n hyblyg yn unol â pholisi gweithio hyblyg Caerdydd.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Prif ddyletswyddau deiliad y swydd fydd sicrhau eich bod yn canolbwyntio ar anghenion plant a sicrhau yr eir i’r afael â nhw, bod trefniadau a chynlluniau’n cael eu rhoi ar waith yn amserol a gwirio cysondeb prosesau cynllunio gofal a gwneud penderfyniadau.
Dylech fod yn Weithiwr Cymdeithasol profiadol cofrestredig sydd â phrofiad o weithio gyda chynlluniau Gofal a Chymorth yn ogystal ag Amddiffyn Plant. Dylech hefyd allu dangos sgiliau cadeirio ac adolygu cynlluniau gofal. Mae’r gallu i weithio dan bwysau i amserlenni llym yn bwysig. Mae sgiliau cyfathrebu a threfnu da yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Nimisha Howell drwy ffonio ffôn **02922330894 or 07811515541**
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant a Chynllunio Gofal a Chymorth yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Job Reference: PEO01371
-
Swyddog Adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth
17 hours ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio 2 Gweithiwr Cymdeithasol profiadol a pharhaol i ymuno â'n tîm newydd ac arloesol a fydd yn adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth yn annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd.** Byddwch yn ymuno â Hyb Adolygu gwell a diwygiedig, yn eistedd ochr yn ochr â Chadeiryddion Cynadleddau...
-
Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Gofal Plant...
-
Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...
-
Swyddog Gofal Plant Preswyl
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau...
-
Swyddog Cynllunio'r Gweithlu
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full time**Swyddog Cynllunio'r Gweithlu** Caerdydd neu Lanelwy (gweithio hybrid) **Amdanom ni** Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud...
-
Swyddog Llety â Chymorth
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sydd angen tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. **Ynglŷn â’r swydd** Swydd dros dro yw hon, yn cwmpasu cyfnod mamolaeth tan 31 Gorffennaf 2025. Mae'r tîm Llety â Chymorth i...
-
Swyddog Llety â Chymorth
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sydd angen tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. **Am Y Swydd** Mae'r tîm Llety â Chymorth i deuluoedd wedi'i leoli mewn 4 ardal yn y ddinas sef Trelái, Gabalfa, Grangetown ac...
-
Uwch Swyddog Llety â Chymorth
7 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**YNGLŶN Â'R GWASANAETH** Mae gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol sy'n darparu llety, cyngor a chymorth i bobl sengl agored i niwed sy'n wynebu digartrefedd ac sydd ag ystod o anghenion cymorth. Mae hyn yn cael ei ddarparu trwy nifer o safleoedd ledled y ddinas. Trwy weithio ar y cyd â gwasanaethau tai a MDT...
-
Swyddog Llety  Chymorth Nos
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai. Rydym yn cefnogi pobl gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn gweithio gydag amrywiaeth o asiantaethau allanol i ddiwallu eu hanghenion cymorth a thai. Mae ein...
-
Uwch Swyddog Llety â Chymorth X 2
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. Rydym wedi ehangu'n gyflym yn ddiweddar ac mae ein gwasanaeth wedi gorfod gwneud newidiadau mawr, felly rydym yn recriwtio...