Uwch Swyddog Llety â Chymorth

7 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**YNGLŶN Â'R GWASANAETH**
Mae gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol sy'n darparu llety, cyngor a chymorth i bobl sengl agored i niwed sy'n wynebu digartrefedd ac sydd ag ystod o anghenion cymorth. Mae hyn yn cael ei ddarparu trwy nifer o safleoedd ledled y ddinas.

Trwy weithio ar y cyd â gwasanaethau tai a MDT (gwasanaeth amlddisgyblaethol) mae ein timau'n darparu llety a gwasanaethau cymorth cofleidiol dwys o fewn gwasanaethau llety a'r gymuned. Gweithio gyda thîm ymroddedig sy'n cymhwyso ein hethos i greu amgylchedd seicolegol gytbwys i staff a chleientiaid, wrth weithio i ddarparu cymorth sy'n seiliedig ar gryfderau mewn ffordd sy'n seiliedig ar drawma. Rydym yn defnyddio dealltwriaeth sensitif o’r effaith y mae neu y gall profiadau andwyol yn ystod plentyndod ei chael ar ein cleientiaid a'u dewisiadau o fewn gwasanaethau. Gydag ymroddiad i fesurau diogelu o fewn ein gwasanaeth yn hollbwysig.

Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn.

Mae ein maes gwasanaeth wedi symud ymlaen trwy gyfnod cyflym o newid a datblygiad. Gall ein hymgeiswyr llwyddiannus addasu i newid a byddant yn cyfrannu at y gwaith cyffrous hwn o ehangu ein darpariaeth gwasanaeth.

Rydym yn cymryd lles a datblygiad ein staff o ddifrif ac yn ymdrechu i greu amgylchedd gwaith cadarnhaol sy'n sicrhau bod ein gweithlu’n teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu cynnwys a'u gwerthfawrogi.
**YNGLŶN Â’R SWYDD**
Mae'r rôl hon wedi'i chreu drwy ehangu ein gwasanaethau ac fe'i datblygwyd i gynorthwyo Rheolwyr Llety â Chymorth i reoli un neu fwy o adeiladau, o fewn gwasanaeth Llety â Chymorth i Bobl Sengl yr awdurdodau. Bod yn rhan o dîm ffres a chreadigol sy'n cydweithio i gyfrannu at weledigaeth Cyngor Caerdydd o leihau cysgu ar y stryd drwy sicrhau bod ein gwagleoedd llety yn cael eu rheoli'n effeithiol a bod yn rhan o brosiectau llety newydd ac addasu llety presennol i fodloni gofynion ein gwasanaeth.

**Bydd y rôl yn cynnwys**:
Dirprwyo yn y gwaith o redeg llety o ddydd i ddydd gan ddarparu cymorth i reolwyr llety.

Darparu cyfeiriad, hyfforddiant ac arweiniad i'r tîm o Swyddogion Llety â Chymorth, gan nodi meysydd ar gyfer datblygu ac anghenion hyfforddiant.

Adolygu systemau gwaith a sicrhau bod eu prosiect dynodedig yn gyfredol o ran diogelwch tân, iechyd a diogelwch, Budd-dal Tai a chydymffurfiaeth adeiladau.

Sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol bob amser, bod staff yn gwrando ac yn dangos empathi i’r cwsmeriaid ac yn dangos awydd i roi cymorth a chefnogaeth bob amser.

Chwarae rhan yn y tîm rheoli a gwelliant parhaus y gwasanaeth.

**Y BUDDION A GYNIGIR**

Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg, dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl.

Hawl gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd, gydag opsiwn i brynu hyd at 10 diwrnod o wyliau blynyddol ychwanegol.

Cynllun gweithio hyblyg
**YR HYN RYDYM YN EI DDISGWYL GENNYCH CHI**
Rydym yn chwilio am unigolion angerddol a chreadigol i ymuno â ni ar y daith hon gydag ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a chymhelliant i gyfrannu at ein gweledigaeth i leihau digartrefedd.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio mewn gwasanaeth sy'n gysylltiedig â thai, a phrofiad profedig o ddarparu cyngor ar dai, rheoli adeiladau a gwaith cefnogaeth helaeth gyda chleientiaid sy'n agored i niwed sydd ag anghenion cymorth cymhleth.

Byddwch chi’n gallu meithrin perthnasoedd gwaith rhagorol drwy ddull amlasiantaethol i wella ein gwasanaethau cymorth a ddarperir ac yn gallu ehangu eich gwybodaeth a'ch profiad i gefnogi ein twf a datblygu ein tîm i wella ein darpariaeth.

Mae hwn yn gyfle cyffrous ac rydym yn chwilio am amrywiaeth o bobl o gefndiroedd gwaith gwahanol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
**GWYBODAETH YCHWANEGOL**
Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swyddi hyn ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Job Reference: PEO03923



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sydd angen tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. **Ynglŷn â’r swydd** Swydd dros dro yw hon, yn cwmpasu cyfnod mamolaeth tan 31 Gorffennaf 2025. Mae'r tîm Llety â Chymorth i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. Rydym wedi ehangu'n gyflym yn ddiweddar ac mae ein gwasanaeth wedi gorfod gwneud newidiadau mawr, felly rydym yn recriwtio...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sydd angen tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. **Am Y Swydd** Mae'r tîm Llety â Chymorth i deuluoedd wedi'i leoli mewn 4 ardal yn y ddinas sef Trelái, Gabalfa, Grangetown ac...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai. Rydym yn cefnogi pobl gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn gweithio gydag amrywiaeth o asiantaethau allanol i ddiwallu eu hanghenion cymorth a thai. Mae ein...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...

  • Swyddog Atebion Llety

    24 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig gyda sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol i ymuno â'n gwasanaeth Pwynt Cyswllt Cyntaf rhyddhau o’r Ysbyty, o fewn Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, fel swyddog atebion llety. **Am Y Swydd** Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a chynnal...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Gofal Plant...

  • Gweithiwr Cymorth

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i ymuno â'r Tîm Byw â Chymorth Caerdydd. Rydym yn chwilio am weithwyr cymorth i roi cymorth i unigolion ag anabledd dysgu. Rydym yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth o safon uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion yn cynnig gwaith prysur a diddorol y byddech yn ei ddisgwyl mewn...