Swyddog Atebion Llety

1 day ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig gyda sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol i ymuno â'n gwasanaeth Pwynt Cyswllt Cyntaf rhyddhau o’r Ysbyty, o fewn Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, fel swyddog atebion llety.

**Am Y Swydd**
Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw yn annibynnol gartref a bod yn gysylltiedig â’u cymunedau eu hunain trwy wybodaeth, cyngor a chefnogaeth wedi'u teilwra - gan alluogi pobl i reoli eu bywydau eu hunain.

Fel swyddog atebion llety, byddwch yn gyfrifol am gydweithio gyda'n hawdurdod lleol, iechyd, a phartneriaid y trydydd sector i hwyluso rhyddhau o’r ysbyty amserol a diogel, drwy ddatrysiadau tai a chymunedol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd angen i chi feddu ar brofiad o weithio gydag oedolion sy’n agored i niwed a deall eu hanghenion, a meddu ar ddealltwriaeth a phrofiad o asesu incwm a sicrhau bod cymaint o fudd-dal â phosibl yn cael ei hawlio. Yn ogystal â gwybodaeth dda, dealltwriaeth a phrofiad o’r sector tai.

Bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda’r gallu i wrando, gweithredu a hysbysu. Bydd angen i chi ffurfio partneriaethau â gwasanaethau a sefydliadau mewnol ac allanol. Byddwch yn treulio rhan fwyaf eich amser yn rhyngweithio â chwsmeriaid ac yn ymateb i’w ceisiadau ac ymholiadau. Byddwch fel arfer yn gweithio wyneb yn wyneb â chleientiaid yn bennaf, felly mae sgiliau cyfathrebu, gwneud penderfyniadau a dadansoddi cadarn yn hanfodol er mwyn sicrhau y caiff cwsmeriaid wasanaeth prydlon ac ymatebol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol. Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081).

Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw’n is nag RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Maggie Friend ar 02921841992.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02434



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sydd angen tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. **Ynglŷn â’r swydd** Swydd dros dro yw hon, yn cwmpasu cyfnod mamolaeth tan 31 Gorffennaf 2025. Mae'r tîm Llety â Chymorth i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sydd angen tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. **Am Y Swydd** Mae'r tîm Llety â Chymorth i deuluoedd wedi'i leoli mewn 4 ardal yn y ddinas sef Trelái, Gabalfa, Grangetown ac...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai. Rydym yn cefnogi pobl gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn gweithio gydag amrywiaeth o asiantaethau allanol i ddiwallu eu hanghenion cymorth a thai. Mae ein...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **YNGLŶN Â'R GWASANAETH** Mae gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol sy'n darparu llety, cyngor a chymorth i bobl sengl agored i niwed sy'n wynebu digartrefedd ac sydd ag ystod o anghenion cymorth. Mae hyn yn cael ei ddarparu trwy nifer o safleoedd ledled y ddinas. Trwy weithio ar y cyd â gwasanaethau tai a MDT...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. Rydym wedi ehangu'n gyflym yn ddiweddar ac mae ein gwasanaeth wedi gorfod gwneud newidiadau mawr, felly rydym yn recriwtio...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...

  • Welsh Headings

    3 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig gyda sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol i ymuno â'n gwasanaeth Pwynt Cyswllt Cyntaf rhyddhau o’r Ysbyty, o fewn Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, fel swyddog atebion llety. **Am Y Swydd** Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw...

  • Swyddog Asesu

    1 day ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â’r Gwasanaeth** **Ynglŷn â’r swydd** Bydd Swyddogion Asesu yn cynnal asesiadau digartrefedd ar sail argyfwng, ac yn cwblhau atgyfeiriadau ar gyfer llety fel y bo'n briodol. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gynnal ymchwiliadau ac asesiadau ar gleientiaid sy'n dweud eu bod yn ddigartref ar y diwrnod, a rhoi cyngor ac atebion tai pwrpasol...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a chynnal...