Swyddog Yn y Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr
1 week ago
**Ynglŷn â'r Gwasanaeth**
Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol:
- Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol
- Gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw
- Gwasanaethau Cymorth
Mae'r gwasanaeth ar hyn o bryd yn gweithredu cynlluniau uchelgeisiol sy'n canolbwyntio ar iechyd, addysg a llety ychwanegol, gan greu cyfle cyffrous i unigolion ymuno â'r tîm wrth i'r gwasanaeth barhau i dyfu yn y dyfodol.
**Ynglŷn â’r swydd**
Rydym yn recriwtio am Swyddog Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr i ymuno â thîm sy’n gweithio ar y safle.
Mi fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth rheoli tenantiaeth a chymorth cynhwysfawr a rhagweithiol.
Mae’r rôl yn cynnwys ystod o ddyletswyddau sy’n cynnwys darparu cyngor a chymorth sy’n diwallu anghenion y gymuned Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw ar safleoedd awdurdodau lleol. Clustnodi lleiniau gwag a chynnal rhestr aros safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Yn ogystal â hyn bydd yr ymgeisydd yn sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaeth yn cydymffurfio â thelerau eu cytundebau ysgrifenedig, a chwrdd â'u rhwymedigaethau wrth dalu eu rhent wythnosol a'u ffi cynnal a chadw tir.
Byddwn ni yn cynnig i chi:
- Amgylchedd gwaith, cyfeillgar a chefnogol.
- Cefnogaeth rheolaidd a goruchwyliaeth (perthnasol) i'ch cefnogi yn eich gwaith.
- Mynediad at hyfforddiant ar gyfer rheoli perfformiad parhaus.
- Cyfle i gyflwyno gwasanaeth i’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr sy’n gwneud gwahaniaeth i’w lles a’u bywydau.
**Yr Hyn Rydym yn ei Ddisgwyl Gennych Chi**
Rydym yn edrych am ymgeiswyr sydd a:
- Brwdfrydedd, cymhelliant a phositifrwydd.
- Gwydnwch a'r gallu i ymateb yn gadarnhaol o dan bwysau.
- Sgiliau cyfathrebu a datrys gwrthdaro rhagorol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus profiad o weithio gyda’r cyhoedd a byddai profiad mewn amgylchedd sy'n ymwneud â thai o fantais.
**Gwybodaeth ychwanegol**
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio **ar** safleoedd Sipsiwn a Theithwyr awdurdodau lleol.
Nid oes cyfle i weithio o gartref neu ar-lein
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae trwydded yrru ddilys a llawn, a defnydd o’ch cerbyd eich hun yn un o ofynion hanfodol y swydd hon.
Dylai ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy gwblhau ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu Uwch Swyddog Enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth/Corff Llywodraethu.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Byddwch yn cael gwybod o flaen llaw a fydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu’n rhithwir, gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Matthew Mearns
Job Reference: PEO02390
-
Swyddog Llety Wedi'i Reoli
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...
-
Swyddog Gorfodi Traffig Yn Symud
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y tîm Gorfodi Traffig sy’n Symud ar gyfer swyddog Gorfodi Traffig sy’n Symud. **Am Y Swydd** Prif swyddogaeth y swydd yw gweithredu offer camerâu gorfodi, monitro a chofnodi yn y swyddfa parcio a cherbydau gorfodi symudol, er mwyn gorfodi rheoliadau parcio a thraffig perthnasol, i wneud...
-
Swyddog Cyngor Ar Ddigartrefedd
3 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Swyddog Cyngor Digartrefedd yn y Gwasanaeth Dewisiadau Tai. Mae'r Gwasanaeth Dewisiadau Tai yn rhoi cyngor a chymorth i bobl ag anghenion tai yng Nghaerdydd. **Ynglŷn â’r Swydd** Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd hon gyflawni nifer o swyddi o fewn y gwasanaeth gan gynnwys cynorthwyo â gwaith y Swyddogion Tai gan roi cyngor...
-
Swyddog Addysg
3 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Rydym yn sefydlu'r rôl newydd hon o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg. Bydd yr ymgeisydd yn athro cymwys. Y swydd hon fydd y prif gyswllt â'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) ac felly bydd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y gwasanaeth hwnnw yn ogystal â'r timau Cyflawniad a Chynhwysiant yn y gwasanaeth Addysg. Diben y rôl yw...
-
Swyddog RHeoli Dyledion
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio darparu gwasanaeth cyllid tai hygyrch o ansawdd uchel. Ar hyn o bryd mae gan y Gwasanaeth swydd wag lawn amser ar gyfer Swyddog Rheoli Dyledion Gradd 5 yn y Tîm Cyllid Tai. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am adennill dyledion gan gynnwys gordaliadau budd-dal tai, dyledion...
-
Swyddog Iechyd a Diogelwch
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaeth Swyddogion Iechyd a Diogelwch Ysgolion yn cynnig gwasanaeth cymorth proffesiynol i Benaethiaid i helpu i reoli iechyd a diogelwch yn eu hysgolion. **Am Y Swydd** Mae angen Swyddogion Iechyd a Diogelwch profiadol a deinamig i ymuno â’r tîm. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhoi cyngor a chymorth Iechyd a Diogelwch...
-
Swyddog Cyswllt Porth y Teulu
1 day ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cyswllt Porth y Teulu yng Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. Mae’r gwasanaeth yn allweddol i ddarparu dull ‘dim drws anghywir’ y Cyngor i sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn....
-
Swyddog Hyb
1 day ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...
-
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...
-
Swyddog Llety â Chymorth
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sydd angen tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. **Am Y Swydd** Mae'r tîm Llety â Chymorth i deuluoedd wedi'i leoli mewn 4 ardal yn y ddinas sef Trelái, Gabalfa, Grangetown ac...