Swyddog Cydymffurfiaeth Llywodraethu Gwybodaeth
1 week ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu.
Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â swyddogion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i sicrhau bod prosesau’r Cyngor a gwasanaethau dan gontract gan gynnwys rhai ysgolion, yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Diogelu Data.
Bydd y swydd hon yn rhoi’r cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad yn y gweithle, yn ogystal â meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o’r gwaith a’r cyfrifoldebau sy’n rhan o weithio mewn Llywodraeth Leol yng Nghaerdydd.
**Am Y Swydd**
Mae tîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor yn cynnig gwasanaeth mynediad i wybodaeth ynghyd â gwasanaeth Rheoli Cofnodion a Diogelu Data i holl wasanaethau a dinasyddion y Cyngor a hefyd gwasanaethau dan gontract i holl Ysgolion Caerdydd yn ogystal â gwasanaethau cenedlaethol gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Data Cymru.
Byddwch yn gyfrifol am y canlynol:
- Nodi a gwerthuso risgiau diogelu data a phreifatrwydd drwy Asesiadau o’r Effaith Diogelu Data a chefnogi gwasanaethau i weithredu prosesau a systemau newydd mewn modd cydymffurfiol
- Cynnal ymchwiliadau ar ran Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth a Swyddog Diogelu Data’r Cyngor, cysylltu â swyddogion gwasanaeth, dinasyddion a thrydydd partïon i sicrhau bod digwyddiadau diogelu data’n cael eu cynnal yn drwyadl a chymryd camau gweithredu penodol
- Dadansoddi data a gesglir drwy archwiliadau sicrwydd a chyflwyno gwybodaeth allweddol i uwch swyddogion o fewn y gwasanaeth
Rhaid i chi allu gweithredu ar lefel strategol. Mae’r gallu i ddadansoddi data a chydymdeimlo ag amgylchiadau cwsmeriaid a rhoi cyngor manwl gywir ac ystyrlon i gwsmeriaid, uwch swyddogion y cyngor ac aelodau eraill o’r tîm yn rhan bwysig o’r swydd.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n rhan o dîm i gynnig gwasanaeth o’r safon orau.
Bydd angen i chi allu dadansoddi data a chydymdeimlo ag amgylchiadau cwsmeriaid a rhoi cyngor manwl gywir ac ystyrlon i gwsmeriaid, uwch swyddogion y cyngor ac aelodau eraill o’r tîm.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/ Cyfarwyddwr Cynorthwyol/ Prif Swyddog neu'r uwch swyddog enwebedig ar radd swydd heb fod yn is na RhG2 neu yn achos staff mewn ysgolion y Pennaeth / Corff Llywodraethu, gall gymeradwyo ceisiadau.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar y swydd, cysylltwch â:
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: RES01084
-
Arweinydd Llywodraethu Gwybodaeth
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full time**Arweinydd Llywodraethu Gwybodaeth** Llanelwy neu Gaerdydd (gweithio hybrid) **Amdanom ni** Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I...
-
Uwch Swyddog Preifatrwydd a Sicrwydd
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...
-
Swyddog Cydymffurfiaeth a Pharhad Busnes Tgch
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Prif swyddogaethau’r adran yw: - darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad - rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at y gwaith o...
-
Swyddog Hyb
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...
-
Rheolwr RHaglen
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae ein tîm Rhaglen MIS Addysg wedi ymrwymo i lywio trawsnewid digidol ar lefel strategol ar draws y Gyfarwyddiaeth Addysg, gan gefnogi blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor. Ein nod yw gwella gwasanaethau drwy wella systemau rheoli gwybodaeth a galluoedd digidol, gan sicrhau bod allbynnau addysg yn cael eu darparu’n effeithlon. Mae'r...
-
Uwch Swyddog Cynghori
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae dau gyfle llawn amser wedi dod ar gael gyda Caerdydd ar Waith. Mae cyfle cyffrous ar gyfer unigolyn ymrwymedig sydd meddu ar sgiliau gofal cwsmeriaid gwych i ymuno â Caerdydd ar Waith. Caerdydd ar Waith yw’r asiantaeth recriwtio fewnol ar gyfer Cyngor Caerdydd. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio ar Raglen...
-
Swyddog Llety â Chymorth
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sydd angen tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. **Am Y Swydd** Mae'r tîm Llety â Chymorth i deuluoedd wedi'i leoli mewn 4 ardal yn y ddinas sef Trelái, Gabalfa, Grangetown ac...
-
Swyddog Atebion Llety
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig gyda sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol i ymuno â'n gwasanaeth Pwynt Cyswllt Cyntaf rhyddhau o’r Ysbyty, o fewn Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, fel swyddog atebion llety. **Am Y Swydd** Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw...
-
Prif Swyddog Craffu
4 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf ac yn un o’r dinasoedd mwyaf medrus ym Mhrydain. Rydym am i Gaerdydd gael ei hadnabod fel un o’r Cynghorau a reolir orau yn y DU. Mae’r Pwyllgorau Craffu’n cyfrannu at benderfyniadau’r Cyngor trwy gynrychioli buddiannau dinasyddion a rhanddeiliaid yng Nghaerdydd a thrwy...
-
Swyddog Iechyd a Diogelwch
6 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaeth Swyddogion Iechyd a Diogelwch Ysgolion yn cynnig gwasanaeth cymorth proffesiynol i Benaethiaid i helpu i reoli iechyd a diogelwch yn eu hysgolion. **Am Y Swydd** Mae angen Swyddogion Iechyd a Diogelwch profiadol a deinamig i ymuno â’r tîm. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhoi cyngor a chymorth Iechyd a Diogelwch...