Uwch Swyddog Preifatrwydd a Sicrwydd

1 week ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu.

Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â swyddogion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i sicrhau bod prosesau’r Cyngor a gwasanaethau dan gontract gan gynnwys rhai ysgolion, yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Diogelu Data.

Bydd y swydd hon yn rhoi’r cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad yn y gweithle, yn ogystal â meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o’r gwaith a’r cyfrifoldebau sy’n rhan o weithio mewn Llywodraeth Leol yng Nghaerdydd.
**Am Y Swydd**
Mae tîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor yn cynnig gwasanaeth mynediad i wybodaeth ynghyd â gwasanaeth Rheoli Cofnodion a Diogelu Data i holl wasanaethau a dinasyddion y Cyngor a hefyd gwasanaethau dan gontract i holl Ysgolion Caerdydd yn ogystal â gwasanaethau cenedlaethol gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Data Cymru.

Byddwch yn gyfrifol am y canlynol:

- Nodi a gwerthuso risgiau diogelu data a phreifatrwydd drwy Asesiadau o’r Effaith Diogelu Data a chefnogi gwasanaethau i weithredu prosesau a systemau newydd mewn modd cydymffurfiol
- Cynnal ymchwiliadau ar ran Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth a Swyddog Diogelu Data’r Cyngor, cysylltu â swyddogion gwasanaeth, dinasyddion a thrydydd partïon i sicrhau bod digwyddiadau diogelu data’n cael eu cynnal yn drwyadl a chymryd camau gweithredu penodol
- Dadansoddi data a gesglir drwy archwiliadau sicrwydd a chyflwyno gwybodaeth allweddol i uwch swyddogion o fewn y gwasanaeth
- Ymgymryd â rôl 'Hwylusydd Teledu Cylch Cyfyng' a darparu cymorth i ddatblygiadau teledu cylch cyfyng ar draws y Cyngor, cefnogi swyddogion y Cyngor a sicrhau bod modelau a rhaglenni gweithredu'r Cyngor yn cael eu cynorthwyo.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n rhan o dîm i gynnig gwasanaeth o’r safon orau.

Bydd angen i chi allu dadansoddi data a chydymdeimlo ag amgylchiadau cwsmeriaid a rhoi cyngor manwl gywir ac ystyrlon i gwsmeriaid, uwch swyddogion y cyngor ac aelodau eraill o’r tîm.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/ Cyfarwyddwr Cynorthwyol/ Prif Swyddog neu'r uwch swyddog enwebedig ar radd swydd heb fod yn is na RhG2 neu yn achos staff mewn ysgolion y Pennaeth / Corff Llywodraethu, gall gymeradwyo ceisiadau.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar y swydd, cysylltwch â:
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_._

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES01240



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae dau gyfle llawn amser wedi dod ar gael gyda Caerdydd ar Waith. Mae cyfle cyffrous ar gyfer unigolyn ymrwymedig sydd meddu ar sgiliau gofal cwsmeriaid gwych i ymuno â Caerdydd ar Waith. Caerdydd ar Waith yw’r asiantaeth recriwtio fewnol ar gyfer Cyngor Caerdydd. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio ar Raglen...

  • Uwch Swyddog Hyb

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i ddinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. **Am Y Swydd** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...

  • Uwch Swyddog Hyb

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i berson ymrwymedig â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych ymuno â’n tîm Datrysiadau Tai yn yr Hybiau ar draws y ddinas. **Am Y Swydd** Bydd yr Uwch Swyddog Hyb yn gyfrifol am: Gefnogi cwsmeriaid sy’n defnyddio’r Hybiau i ddatrys ymholiadau am gyngor a darparu gwasanaethau Hyb a Llyfrgell sy’n...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Gofal Plant...

  • Hyfforddai Tai

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caiff yr Hyfforddai Tai ei hyfforddi a’i fentora yn rôl y Swyddog Tenantiaeth Byddwch yn ennill profiad yn y gwaith rhagweithiol a wneir yn y tîm i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth neu brydles, rhoi cyngor a chanllawiau yn ôl yr angen i gasglu tystiolaeth a gweithredu’n briodol o ran...

  • Uwch Ofalwr

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gennym swydd wag ar hyn o bryd ar gyfer gofalwr yn ein Canolfannau Dydd yng Nghaerdydd, i ddarparu gwasanaeth sy'n rhoi cymorth i oedolion sy'n byw gyda Dementia. Cefnogir y bobl gan y gwasanaeth i fanteisio ar ystod eang o gyfleoedd dydd mewn lleoliad gofal. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn rhan o dîm...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sydd angen tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. **Am Y Swydd** Mae'r tîm Llety â Chymorth i deuluoedd wedi'i leoli mewn 4 ardal yn y ddinas sef Trelái, Gabalfa, Grangetown ac...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Ardal yn gydweithrediad caffael newydd ar draws y pedwar awdurdod lleol sy'n gwasanaethu pobl a chymunedau Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg. Caiff mwy na £1 biliwn ei wario bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn y pedwar awdurdod. **Am Y Swydd** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Strategaeth a...