Uwch Swyddog Strategaeth a Datblygu

6 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Ardal yn gydweithrediad caffael newydd ar draws y pedwar awdurdod lleol sy'n gwasanaethu pobl a chymunedau Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg. Caiff mwy na £1 biliwn ei wario bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn y pedwar awdurdod.
**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Strategaeth a Datblygu clodwiw a gynhelir gan Gyngor Caerdydd. Prif ffocws yr Uwch Swyddog Strategaeth a Datblygu fydd datblygu, cynnal a rheoli'r gwaith o gyflawni polisi lles (buddion cymunedol a gwerth cymdeithasol, lleihau carbon, gwaith teg, a chaffael economi sylfaenol), gan gynnwys methodoleg, dogfennaeth, canllawiau a hyfforddiant priodol ar gyfer Cynghorau Ardal. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gefnogi Uwch Reolwyr ar draws Cynghorau Ardal a'n Timau Rheoli Categori gweithredol i sicrhau darparu’r lles gorau posibl drwy weithgarwch caffael Ardal.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym eisiau penodi unigolyn hunan-gymhellol fydd yn ddelfrydol â phrofiad o gaffael yn y sector cyhoeddus yn bennaf, er nad yw hyn yn hanfodol. Bydd deiliad y swydd yn cael cymorth perthnasol o ran rheoli, hyfforddiant a chymorth tîm, trefniadau gweithio hyblyg, adolygiadau gan gymheiriaid a rhannu sgiliau i’w alluogi i lwyddo yn ei rôl a datblygu’n broffesiynol. Bydd angen sgiliau cyfathrebu rhagorol ar ddeiliad y swydd a bydd angen iddo ddangos ei fod yn gallu bodloni'r gofynion a'r profiad a nodir yn y Fanyleb Person. Mae prif gyfrifoldebau a gofynion y rôl yn cynnwys: - Datblygu, gweithredu a rheoli cyflwyno polisi lles caffael (buddion cymunedol a gwerth cymdeithasol, lleihau carbon, gwaith teg, a chaffael economi sylfaenol), gan gynnwys methodoleg, dogfennaeth, canllawiau a hyfforddiant priodol ar gyfer Cynghorau Ardal*. *Ardal yw'r enw ar y gwasanaeth caffael sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Caerdydd sy'n darparu gwasanaethau caffael i Gynghorau Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg - Cefnogi Timau Categori a Gwasanaethau i ymgorffori gofynion polisi lles caffael yn y broses dendro, cefnogi gwerthuso tendrau a monitro darpariaeth ac effaith. - Datblygu a darparu addysg a hyfforddiant polisi lles caffael i staff, cyflenwyr a chontractwyr y Cyngor a rhanddeiliaid eraill. - Goruchwylio a chydlynu'r gwaith o gyflawni ymrwymiadau buddion cymunedol a gwerth cymdeithasol drwy weithio gyda rheolwyr contractau, cyflenwyr a chontractwyr, timau categori ac amrywiaeth o dimau'r Cyngor a all elwa a chefnogi’r gwaith o gyflawni ymrwymiadau budd cymunedol a gwerth cymdeithasol. - Adrodd ar ddarparu ymrwymiadau buddion cymunedol a gwerth cymdeithasol gan gynnwys cyhoeddi astudiaethau achos. - Ymgymryd ag ymchwil ar ystod o faterion sy'n ymwneud â chaffael er mwyn cefnogi datblygiad polisïau a gweithdrefnau lles caffael. - Arwain datblygiad adnoddau addysg, canllawiau a hyfforddiant ar-lein, a chyfathrebu ar gyfer pob agwedd ar y cylch caffael a gweithredu polisi.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Job Reference: RES01188



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Learned Society of Wales Full time

    Swyddog Rhaglen – Datblygu YmchwilwyrRydym yn chwilio am Swyddog Rhaglen rhagweithiol a phroffesiynol i gefnogi cam nesaf ein rhaglen Datblygu Ymchwilwyr. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ochr yn ochr â'r Rheolwr Rhaglen, ac yn cefnogi cyflawni un o'r pedair blaenoriaeth yn ein strategaeth pum mlynedd, sef: "creu amgylchedd sy'n cefnogi arbenigwyr Cymru...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Gofal Plant...

  • Rheolwr Gweithredol

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn ddinas fywiog ac amrywiol, ac yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Gyfunol. Fel cyflogwr mawr 13,000 o weithwyr sy'n gweithio ym mhob rhan o wasanaethau'r Cyngor ac mewn ysgolion, mae'r Cyngor yn dibynnu ar swyddogaeth Adnoddau Dynol effeithlon ac effeithiol fel galluogwr allweddol ar gyfer cyflwyno agweddau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae dau gyfle llawn amser wedi dod ar gael gyda Caerdydd ar Waith. Mae cyfle cyffrous ar gyfer unigolyn ymrwymedig sydd meddu ar sgiliau gofal cwsmeriaid gwych i ymuno â Caerdydd ar Waith. Caerdydd ar Waith yw’r asiantaeth recriwtio fewnol ar gyfer Cyngor Caerdydd. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio ar Raglen...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **YNGLŶN Â'R GWASANAETH** Mae gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol sy'n darparu llety, cyngor a chymorth i bobl sengl agored i niwed sy'n wynebu digartrefedd ac sydd ag ystod o anghenion cymorth. Mae hyn yn cael ei ddarparu trwy nifer o safleoedd ledled y ddinas. Trwy weithio ar y cyd â gwasanaethau tai a MDT...

  • Uwch Swyddog Hyb

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i ddinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. **Am Y Swydd** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Dilynwch Addewid Caerdydd ar Facebook,...