Rheolwr Gweithredol

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Caerdydd yn ddinas fywiog ac amrywiol, ac yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Gyfunol. Fel cyflogwr mawr 13,000 o weithwyr sy'n gweithio ym mhob rhan o wasanaethau'r Cyngor ac mewn ysgolion, mae'r Cyngor yn dibynnu ar swyddogaeth Adnoddau Dynol effeithlon ac effeithiol fel galluogwr allweddol ar gyfer cyflwyno agweddau perthnasol ar ymrwymiadau Cryfach, Tecach, Gwyrddach y weinyddiaeth a Chynllun Corfforaethol y Cyngor.

**Am Y Swydd**
Gan adrodd i'r Prif Swyddog AD, byddwch yn gyfrifol am gynnig arbenigedd adnoddau dynol o safon ym mhob rhan o’r cyngor. Bydd eich ffocws strategol a'ch ymagwedd sy'n canolbwyntio ar bobl yn sicrhau bod y Cyngor, fel cyflogwr mawr yn y ddinas, mewn sefyllfa dda i ymateb i heriau'r presennol a'r dyfodol.

Fel aelod o Uwch Dîm Rheoli AD y Cyngor byddwch yn chwarae rhan strategol annatod wrth arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau adnoddau dynol hynod effeithiol, gan ail-lunio gwasanaethau i gefnogi agenda trawsnewid y Cyngor a sbarduno perfformiad er mwyn sicrhau ffocws parhaus ar welliant.

Bydd y rôl hon yn arwain timau sy'n canolbwyntio ar Bolisi a Datblygu Sefydliadol; Cyflogres; Prentisiaethau a Phrofiad Gwaith; Gwerthuso a Dyfarnu Swyddi; a Dadansoddi Data.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Byddwch yn gallu perfformio ar eich gorau yn gweithio ar lefel strategol mewn sefydliad mawr. Bydd eich dealltwriaeth fanwl o gyllid llywodraeth leol yn eich galluogi i newid gwasanaethau, llywio a dylanwadu ar y ffordd y darperir gwasanaethau adnoddau dynol. Bydd gennych hefyd y gallu i gyfrannu at welliant corfforaethol y tu allan i'ch cylch gwaith uniongyrchol.

Byddwch yn huawdl, yn gredadwy ac yn gallu ennill parch drwy roi cyngor arbenigol clir. Bydd gennych y gallu i feddwl yn strategol a delio â materion cymhleth yn rhwydd.

Byddwch yn gyfathrebwr hyderus, byddwch yn sefydlu perthynas broffesiynol effeithiol yn gyflym ar draws y Cyngor, gan gynnwys gyda phartneriaid undebau llafur, yn ogystal ag ar draws y rhwydwaith Adnoddau Dynol ehangach yng Nghymru a thu hwnt.

Bydd gennych hanes profedig o reoli adnoddau dynol.

Mae’r swydd hon wedi’i chyfyngu’n wleidyddol yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009).

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Os hoffech drafod y swydd hon yn anffurfiol, ffoniwch Tracey Thomas, Prif Swyddog AD, Ffôn: 07581567679.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES00859


  • Rheolwr Gweithredol

    3 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn ymateb yn uniongyrchol i angen tai Caerdydd drwy weithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. Mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros £950 miliwn a...

  • Kitchen Manager

    3 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom National Museum of Wales Full time

    Rheolwr Ceginau, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin CymruMath o swydd wag: Parhaol/Llawn AmserCategori: Arlwyo(Arlwyo)Ystod cyflog: Gradd D £28,895.78 - £35,598.34Oriau: 37 awr yr wythnosGofyniad lefel iaith Gymraeg: DymunolCrynodeb o'r SwyddFel Rheolwr Ceginau inni, byddwch yn goruchwylio gweithrediadaur ceginau yn ein mangreoedd dynodedig, ac maer rl yn...

  • Kitchen Manager

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom National Museum of Wales Full time

    Rheolwr Ceginau, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin CymruIn order to make an application, simply read through the following job description and make sure to attach relevant documents.Math o swydd wag: Parhaol/Llawn AmserCategori: Arlwyo(Arlwyo)Ystod cyflog: Gradd D £28,895.78 - £35,598.34Oriau: 37 awr yr wythnosGofyniad lefel iaith Gymraeg: DymunolCrynodeb o'r...

  • Rheolwr Gweithredol

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mewn ymgynghoriad â thrigolion y ddinas, arbenigwyr iechyd a thrafnidiaeth, mae Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd wedi llunio cynllun deng mlynedd uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd aer ym Mhrifddinas Cymru. Bydd y rôl hon yn gyfle cyffrous ac unigryw i gefnogi a chydlynu'r...

  • Rheolwr Tîm Ardal

    24 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r tîm rheoli o fewn Ardal Dwyrain Caerdydd fel y Rheolwr Tîm wrth i’r un presennol gadael. Mae'r swydd ar agor i'r rhai sy'n ceisio dychwelyd i Gaerdydd i weithio a'r rhai sydd am weithio i Gaerdydd am y tro cyntaf. Mae ymdeimlad o gyffro o fewn gweithlu'r Gwasanaethau Plant wrth i Gaerdydd...

  • Rheolwr RHaglen X 2

    5 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. I wneud hyn mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros £800 miliwn a phiblinell ddatblygu o dros 60 o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd gwyrddaf y Deyrnas Unedig, ac mae ein rhwydwaith helaeth o barciau a mannau gwyrdd y mae gan ein trigolion gysylltiad agos â llunio’i chymeriad, gan roi blas ar ein prifddinas. Mae'r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad y mae'r mannau hyn yn ei wneud i les amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol y ddinas, y...

  • Gweinyddwr Prosiect

    5 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **SWYDD DDISGRIFIAD A MANYLEB PERSON** **SWYDD**:Gweinyddwr Prosiect** **LLEOLIAD**:TEL** **YN ATEBOL I’R**:Pennaeth TEL** **YN GYFRIFOL AM**:Gynnig gwasanaeth gweinyddol i’r Tîm TEL a phrosiectau eraill ar draws y coleg** **CYFLOG**:£19,979 - £21,399 y flwyddyn** **pro rata** **CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL** - Cynorthwyo Coleg Caerdydd a’r Fro...

  • Rheolwr Datblygu

    1 day ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â thîm Datblygu ac Adfywio’r Cyngor. Rydym yn gweithio'n galed i helpu i lywio'r gwaith o gyflawni cynlluniau adfywio ar draws y ddinas a chynyddu buddsoddiad yn ein cymunedau lleol. Rydym yn canolbwyntio ar wella ein canolfannau ardal ac wrth gyflawni'r agenda 'dinas 15 munud' ledled ein cymunedau,...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Ei phrif swyddogaethau yw: - darparu systemau, cymorth a gwaith cynnal a chadw TG ledled y sefydliad, a hynny i safon uchel - cynnig cyngor strategol a chanllawiau i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at gyflawni dull Dewis Digidol y Cyngor fel...