Rheolwr Gweithredol
1 week ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mewn ymgynghoriad â thrigolion y ddinas, arbenigwyr iechyd a thrafnidiaeth, mae Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd wedi llunio cynllun deng mlynedd uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd aer ym Mhrifddinas Cymru. Bydd y rôl hon yn gyfle cyffrous ac unigryw i gefnogi a chydlynu'r strategaeth, trwy gysylltu â phartneriaid wrth gynllunio a datblygu a gweithredu prosiectau arbennig sy'n deillio o hynny. Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y DU a bydd y cynllun hwn yn ceisio trawsnewid rhwydwaith trafnidiaeth Caerdydd a De-ddwyrain Cymru a chwyldroi opsiynau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd a'r rhanbarth lleol.
**Am Y Swydd**
Mae’r swydd hon yn hollbwysig o ran sicrhau bod y ddinas yn tyfu’n llwyddiannus yn y dyfodol. Gan weithio i'r Pennaeth Trafnidiaeth, bydd y rôl yn arwain a rheoli tîm o swyddogion medrus ac ymroddedig iawn. Mae'r Papur Gwyn Trafnidiaeth yn rhoi gweledigaeth yn y dyfodol sy'n cynnwys llwybrau trên tram newydd, gwasanaethau bws newydd a safleoedd Parcio a Theithio ac ail-flaenoriaethu ein strydoedd i roi mwy o le i bobl sy'n cerdded a beicio.
Felly, bydd y gwaith yn cynnwys:
- Cydlynu prosiectau arbennig
- Gweithio gyda'n partneriaid a datblygu'r cysylltiadau hynny
- Gweithio gyda chyrff statudol allanol i sicrhau cyllid
- Arwain timau amlddisgyblaethol a rheoli datblygiad y timau hynny
- Rheoli cyllidebau a sicrhau bod prosiectau'n cael eu cyflawni o fewn amser a gofynion adnoddau
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r sgiliau arwain a rheoli rhagorol sydd eu hangen i barhau i gyflawni rôl allweddol y Trafnidiaeth wrth lunio dyfodol y ddinas.
Mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym, bydd angen ymrwymo’n gryf i werth a rôl Trafnidiaeth wrth sicrhau newid cadarnhaol.
Bydd angen sgiliau rhagorol arnoch i reoli llwyth gwaith trwm, gan wneud y mwyaf o'r cyfraniadau a chefnogi’r gwaith parhaus o ddatblygu tîm talentog a phrofiadol.
Bydd angen i chi hefyd gydnabod pwysigrwydd gweithio gyda'n partneriaid a'n cwsmeriaid allweddol a bod â phrofiad amlwg o gyflawni blaenoriaethau corfforaethol yn llwyddiannus.
Manylir ar fanylion llawn y rôl a'r cymwyseddau ymddygiadol sydd eu hangen ar gyfer y rôl y bydd yn rhaid eu harddangos yn eich ffurflen gais a thrwy’r broses ddethol yn y dogfennau Disgrifiad Swydd a Phroffil Rôl.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PLA00361
-
Rheolwr Gweithredol
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn ymateb yn uniongyrchol i angen tai Caerdydd drwy weithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. Mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros £950 miliwn a...
-
Kitchen Manager
1 week ago
Cardiff, United Kingdom National Museum of Wales Full timeRheolwr Ceginau, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin CymruIn order to make an application, simply read through the following job description and make sure to attach relevant documents.Math o swydd wag: Parhaol/Llawn AmserCategori: Arlwyo(Arlwyo)Ystod cyflog: Gradd D £28,895.78 - £35,598.34Oriau: 37 awr yr wythnosGofyniad lefel iaith Gymraeg: DymunolCrynodeb o'r...
-
Kitchen Manager
3 weeks ago
Cardiff, United Kingdom National Museum of Wales Full timeRheolwr Ceginau, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin CymruMath o swydd wag: Parhaol/Llawn AmserCategori: Arlwyo(Arlwyo)Ystod cyflog: Gradd D £28,895.78 - £35,598.34Oriau: 37 awr yr wythnosGofyniad lefel iaith Gymraeg: DymunolCrynodeb o'r SwyddFel Rheolwr Ceginau inni, byddwch yn goruchwylio gweithrediadaur ceginau yn ein mangreoedd dynodedig, ac maer rl yn...
-
Rheolwr RHaglen X 2
4 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. I wneud hyn mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros £800 miliwn a phiblinell ddatblygu o dros 60 o...
-
Rheolwr RHaglen a Phrosiectau
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd gwyrddaf y Deyrnas Unedig, ac mae ein rhwydwaith helaeth o barciau a mannau gwyrdd y mae gan ein trigolion gysylltiad agos â llunio’i chymeriad, gan roi blas ar ein prifddinas. Mae'r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad y mae'r mannau hyn yn ei wneud i les amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol y ddinas, y...
-
Rheolwr Gweithredol
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn ddinas fywiog ac amrywiol, ac yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Gyfunol. Fel cyflogwr mawr 13,000 o weithwyr sy'n gweithio ym mhob rhan o wasanaethau'r Cyngor ac mewn ysgolion, mae'r Cyngor yn dibynnu ar swyddogaeth Adnoddau Dynol effeithlon ac effeithiol fel galluogwr allweddol ar gyfer cyflwyno agweddau...
-
Gweinyddwr Prosiect
4 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time**SWYDD DDISGRIFIAD A MANYLEB PERSON** **SWYDD**:Gweinyddwr Prosiect** **LLEOLIAD**:TEL** **YN ATEBOL I’R**:Pennaeth TEL** **YN GYFRIFOL AM**:Gynnig gwasanaeth gweinyddol i’r Tîm TEL a phrosiectau eraill ar draws y coleg** **CYFLOG**:£19,979 - £21,399 y flwyddyn** **pro rata** **CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL** - Cynorthwyo Coleg Caerdydd a’r Fro...
-
Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid
4 days ago
Cardiff, United Kingdom Eteach Full timeCyfle gwych i siaradwr Cymraeg brodorol â chefndir Rheoli Cyfrifon blaenorol i groesi hyfforddiant i'r sector Addysg gan weithio ochr yn ochr â'n tîm Rheoli Llwyddiant Cwsmer hynod lwyddiannus. Rhoddir hyfforddiant llawn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gyda chefnogaeth barhaus a hyfforddiant pellach lle bo angen. Mae'r swydd hon yn cynnig cyfleoedd gyrfa...
-
Welsh Headings
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Perfformiad a Phartneriaethau yn gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau corfforaethol sy'n cynorthwyo'r Cyngor cyfan, a'i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n gyfrifol am gynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei agenda uchelgeisiol trwy drosi blaenoriaethau gwleidyddol yn amcanion sefydliadol gyda ffocws ar gefnogi...
-
Team Leader
4 days ago
Cardiff, United Kingdom Victim Support Full timeWe have an exciting opportunity to work as an **ISAC Service** **Team Leader** in the South Wales Stalking Support team working 37.5 hours a week. Do you want to make a difference every day? Do you want to contribute to change & improvement for those who need it? Do you have resilience & adaptability? Can you work effectively with a focus on customer...