Rheolwr Gweithredol

2 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn ymateb yn uniongyrchol i angen tai Caerdydd drwy weithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. Mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros £950 miliwn a llif prosiectau datblygu o dros 60 o safleoedd. Rydym yn darparu cartrefi cyngor newydd, cartrefi i'w gwerthu a phrosiectau gan gynnwys cyfleusterau defnydd cymysg a chyfleusterau cymunedol.

Gan ddefnyddio atebion arloesol a symud tuag at safon carbon isel rydym yn darparu cartrefi newydd ar raddfa fawr ac yn gyflym ac mae angen y bobl iawn arnom, sydd â phrofiad datblygu, i ymuno â'n tîm i gyflawni ein dyheadau. Rydym yn frwd dros adeiladu cartrefi gwych a buddsoddi yn ein cymunedau, a sicrhau bod seilwaith gwyrdd, dylunio trefol a chreu lleoedd o safon uchel wrth wraidd yr hyn a wnawn.

Yn sgil ymddeoliad, mae gennym gyfle ar gyfer uwch arweinydd datblygu profiadol a llawn cymhelliant i ymuno â'r tîm i reoli ein ail Raglen Partneriaeth Tai - rhaglen gyflenwi arloesol o dros 18 o safleoedd, sy'n gallu darparu tua 2,000 o gartrefi newydd.
**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ategu ein tîm Datblygu presennol ac yn darparu’r adnoddau a'r arbenigedd ychwanegol sydd eu hangen arnon ni i sicrhau bod y rhaglen yn parhau i gyflawni ar raddfa ac yn gyflym.

***

Fel Rheolwr Gweithredol byddwch yn arwain tîm ymroddedig i gyflawni ein Ail Raglen Partneriaeth Tai. Byddwch yn rhan annatod o'n Huwch Dîm Rheoli, gan helpu i lunio ein rhaglen ddatblygu a sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel, yn cael effaith gadarnhaol yn ein cymunedau ac yn gadael gwaddol parhaol.

Byddwch yn goruchwylio'r gwaith o gyflawni pob prosiect strategol ar bob cam o'r broses - o ddatblygu dyluniadau, uwch-gynllunio i ddatblygu'r opsiwn a ffefrir hyd at gyflwyno ceisiadau cynllunio a grant, a chyflawni ar y safle.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o ddatblygu tai cymdeithasol a rheoli swyddogion datblygu, gan gynnwys mentora.

Bydd gennych hanes profedig o gyflawni cynlluniau adeiladu newydd yn llwyddiannus o fewn hyfywedd cadarn a pharamedrau rhaglennu. Mae'n rhaid cael gwybodaeth weithiol fanwl am ofynion tai cymdeithasol yng Nghymru, prosesau ymgeisio'r Grant Tai Cymdeithasol a rheoli contractau adeiladu.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol a byddwch yn effeithiol wrth weithio ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol a sefydliadau partner, gan ddatblygu perthnasoedd gwaith cryf ac effeithiol.

Byddwch yn rhannu ein hangerdd a'n brwdfrydedd dros gyflawni prosiectau arloesol a chyffrous, creu cartrefi sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n trigolion a gosod safonau newydd ar gyfer cynaliadwyedd, creu lleoedd a dylunio trefol.

Rhaid i chi fodloni'r fanyleb person er mwyn darparu’r sgiliau sydd eu hangen arnom i gyflawni prosiectau tai newydd yn unol â'n rhaglen arfaethedig, gan sicrhau bod manylebau'n cael eu bodloni, bod safonau ansawdd yn cael eu dilyn a bod y contractau'n cael eu gweithredu'n llwyddiannus i gwblhau a throsglwyddo prosiectau.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd ar ôl darllen y Disgrifiad Swydd, cysylltwch â David Jaques, Cyfarwyddwr Cynorthwyol drwy ffonio 07779 314071.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO04153


  • Kitchen Manager

    3 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom National Museum of Wales Full time

    Rheolwr Ceginau, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin CymruMath o swydd wag: Parhaol/Llawn AmserCategori: Arlwyo(Arlwyo)Ystod cyflog: Gradd D £28,895.78 - £35,598.34Oriau: 37 awr yr wythnosGofyniad lefel iaith Gymraeg: DymunolCrynodeb o'r SwyddFel Rheolwr Ceginau inni, byddwch yn goruchwylio gweithrediadaur ceginau yn ein mangreoedd dynodedig, ac maer rl yn...

  • Kitchen Manager

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom National Museum of Wales Full time

    Rheolwr Ceginau, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin CymruIn order to make an application, simply read through the following job description and make sure to attach relevant documents.Math o swydd wag: Parhaol/Llawn AmserCategori: Arlwyo(Arlwyo)Ystod cyflog: Gradd D £28,895.78 - £35,598.34Oriau: 37 awr yr wythnosGofyniad lefel iaith Gymraeg: DymunolCrynodeb o'r...

  • Rheolwr Gweithredol

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mewn ymgynghoriad â thrigolion y ddinas, arbenigwyr iechyd a thrafnidiaeth, mae Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd wedi llunio cynllun deng mlynedd uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd aer ym Mhrifddinas Cymru. Bydd y rôl hon yn gyfle cyffrous ac unigryw i gefnogi a chydlynu'r...

  • Rheolwr RHaglen X 2

    4 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. I wneud hyn mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros £800 miliwn a phiblinell ddatblygu o dros 60 o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd gwyrddaf y Deyrnas Unedig, ac mae ein rhwydwaith helaeth o barciau a mannau gwyrdd y mae gan ein trigolion gysylltiad agos â llunio’i chymeriad, gan roi blas ar ein prifddinas. Mae'r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad y mae'r mannau hyn yn ei wneud i les amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol y ddinas, y...

  • Rheolwr Gweithredol

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn ddinas fywiog ac amrywiol, ac yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Gyfunol. Fel cyflogwr mawr 13,000 o weithwyr sy'n gweithio ym mhob rhan o wasanaethau'r Cyngor ac mewn ysgolion, mae'r Cyngor yn dibynnu ar swyddogaeth Adnoddau Dynol effeithlon ac effeithiol fel galluogwr allweddol ar gyfer cyflwyno agweddau...

  • Gweinyddwr Prosiect

    4 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **SWYDD DDISGRIFIAD A MANYLEB PERSON** **SWYDD**:Gweinyddwr Prosiect** **LLEOLIAD**:TEL** **YN ATEBOL I’R**:Pennaeth TEL** **YN GYFRIFOL AM**:Gynnig gwasanaeth gweinyddol i’r Tîm TEL a phrosiectau eraill ar draws y coleg** **CYFLOG**:£19,979 - £21,399 y flwyddyn** **pro rata** **CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL** - Cynorthwyo Coleg Caerdydd a’r Fro...


  • Cardiff, United Kingdom Eteach Full time

    Cyfle gwych i siaradwr Cymraeg brodorol â chefndir Rheoli Cyfrifon blaenorol i groesi hyfforddiant i'r sector Addysg gan weithio ochr yn ochr â'n tîm Rheoli Llwyddiant Cwsmer hynod lwyddiannus. Rhoddir hyfforddiant llawn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gyda chefnogaeth barhaus a hyfforddiant pellach lle bo angen. Mae'r swydd hon yn cynnig cyfleoedd gyrfa...

  • Welsh Headings

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Perfformiad a Phartneriaethau yn gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau corfforaethol sy'n cynorthwyo'r Cyngor cyfan, a'i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n gyfrifol am gynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei agenda uchelgeisiol trwy drosi blaenoriaethau gwleidyddol yn amcanion sefydliadol gyda ffocws ar gefnogi...

  • Team Leader

    4 days ago


    Cardiff, United Kingdom Victim Support Full time

    We have an exciting opportunity to work as an **ISAC Service** **Team Leader** in the South Wales Stalking Support team working 37.5 hours a week. Do you want to make a difference every day? Do you want to contribute to change & improvement for those who need it? Do you have resilience & adaptability? Can you work effectively with a focus on customer...