Rheolwr Datblygu
3 days ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â thîm Datblygu ac Adfywio’r Cyngor. Rydym yn gweithio'n galed i helpu i lywio'r gwaith o gyflawni cynlluniau adfywio ar draws y ddinas a chynyddu buddsoddiad yn ein cymunedau lleol.
Rydym yn canolbwyntio ar wella ein canolfannau ardal ac wrth gyflawni'r agenda 'dinas 15 munud' ledled ein cymunedau, rydym yn cyflwyno prosiectau adfywio ar draws ein hystadau tai, cynyddu a gwella cyfleusterau cymunedol a darpariaeth Hybiau ac rydym yn gweithio ar y cyd â phartneriaid megis Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a Llywodraeth Cymru i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau drwy'r ddinas.
O ganlyniad i'r amrywiaeth gynyddol o brosiectau a rhaglenni cyffrous y byddwn yn parhau â hwy, rydym yn recriwtio dau Uwch Reolwr Datblygu i helpu i arwain ein timau prosiectau. Mae angen y bobl gywir arnom sydd â phrofiad perthnasol ac sy'n rhannu ein hangerdd dros ymgysylltu â'n cymunedau i ymuno â'n tîm a helpu i wireddu ein dyheadau.
**Am Y Swydd**
Bydd y deiliaid swydd llwyddiannus yn rhan o'r Uwch Dîm Rheoli ac yn darparu cyfeiriad gweithredol i'n rhaglenni a'n prosiectau adfywio. Byddan nhw'n gyfrifol am reoli timau prosiectau, rhoi rhaglenni adfywio hirdymor ar waith a nodi cyfleoedd ac atebion arloesol.
Mae ffocws cryf ar bartneriaethau strategol gyda sefydliadau allanol, Llywodraeth Cymru ac adrannau ehangach y cyngor. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'r tîm adfywio presennol yn canolbwyntio ar reoli ansawdd a sicrhau bod cysondeb ar draws ein rhaglenni a'n prosiectau. Byddwch yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid, busnesau a thrigolion allanol i ddylunio a chyflawni ein gwaith.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gan ddeiliaid y swydd o leiaf bum mlynedd o brofiad yn y maes adfywio neu ddatblygu a phrofiad helaeth o ddylunio a chyflwyno cynlluniau ardal gyhoeddus a gwaith cyflenwi cyfalaf ar lefel uwch, gan ganolbwyntio ar reoli ansawdd a chydymffurfio.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau arwain a chyfathrebu rhagorol, gyda hanes cryf o reoli rhaglenni adfywio'r sector cyhoeddus (o leiaf 5 mlynedd), gan sicrhau bod cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol yn ymgysylltu â'n prosiectau, bod manylebau'n cael eu bodloni a bod safonau ansawdd yn cael eu cadw atynt.
***
Bydd yr unigolyn cywir yn rhannu ein gweledigaeth o ddarparu rhaglenni adfywio cynaliadwy o safon ac yn gallu cynllunio'n strategol ar gyfer anghenion y gwasanaeth.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO02650
-
Rheolwr Polisi a Datblygu
23 hours ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm deinamig. Byddwch yn rheoli'r tîm Polisi a Datblygu. **Am Y Swydd** Ynglŷn â’r swydd** Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli, datblygu, gweithredu a monitro strategaethau a pholisïau allweddol. Byddwch yn cymryd rôl arweiniol wrth...
-
Rheolwr Cymorth Busnes
7 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig ymuno â'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Oedolion sydd wedi'i leoli yn Neuadd y Sir, Caerdydd. Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol wedi ymrwymo i ddatblygu ac annog ei staff yn...
-
Rheolwr Gweithredol
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn ymateb yn uniongyrchol i angen tai Caerdydd drwy weithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. Mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros £950 miliwn a...
-
Rheolwr Technegol
3 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Rheolwr Technegol yn yr Uned Gwella Adeiladau, y Tîm Cynnal a Chadw wedi’i Gynllunio. **Am Y Swydd** Bydd deiliad y swydd yn cynllunio, datblygu a rheoli gwaith cynnal a chadw wedi'i gynllunio ac yn goruchwylio gwaith contractwyr o ddydd i ddydd gan sicrhau bod y...
-
Rheolwr Tîm Ardal
3 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r tîm rheoli o fewn Ardal Dwyrain Caerdydd fel y Rheolwr Tîm wrth i’r un presennol gadael. Mae'r swydd ar agor i'r rhai sy'n ceisio dychwelyd i Gaerdydd i weithio a'r rhai sydd am weithio i Gaerdydd am y tro cyntaf. Mae ymdeimlad o gyffro o fewn gweithlu'r Gwasanaethau Plant wrth i Gaerdydd...
-
Rheolwr Prosiect
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full time**Rheolwr Prosiect** Caerdydd/Llanelwy (gweithio hybrid) **Amdanom ni** Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn...
-
Rheolwr Tîm y Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae’r rôl hon yn cael taliad atodol ar sail y farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm â chymwysterau addas weithio yng Ngwasanaethau Oedolion Caerdydd. Mae swyddi Rheolwr Tîm ar gael yn y Gwasanaeth Ysbytai sy'n gweithio gyda phobl dros ddeunaw oed sydd ag...
-
Rheolwr Prosiect
5 days ago
Cardiff, Cardiff, United Kingdom Gofal Cymdeithasol Cymru Social Care Wales Full timeRheolwr ProsiectCaerdydd neu Landudno (gweithio hybrid)Amdanom NiMae Gofal Cymdeithasol Cymru'n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a'u teuluoedd a'u gofalwyr.I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a...
-
Rheolwr RHaglen a Phrosiectau
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd gwyrddaf y Deyrnas Unedig, ac mae ein rhwydwaith helaeth o barciau a mannau gwyrdd y mae gan ein trigolion gysylltiad agos â llunio’i chymeriad, gan roi blas ar ein prifddinas. Mae'r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad y mae'r mannau hyn yn ei wneud i les amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol y ddinas, y...
-
Swyddog Contractau a Datblygu Gwasanaethau
24 hours ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd rôl allweddol wrth brynu gwasanaethau a rheoli a monitro'r gwasanaethau sy'n cefnogi oedolion ag anghenion Gofal Cymdeithasol yn gyffredinol, ar draws swyddogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu gwerth tua £140 miliwn o...