Rheolwr Prosiect
1 week ago
**Rheolwr Prosiect**
Caerdydd/Llanelwy (gweithio hybrid)
**Amdanom ni**
Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr.
I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.
Rydym nawr yn chwilio am Reolwr Prosiect i ymuno â'n tîm a helpu i roi prosiectau a rhaglenni allweddol ar waith.
**Y Manteision**:
- Cyflog o £41,122 - £46,194 y flwyddyn
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â Gwyliau Banc (cynyddu gyda hyd gwasanaeth)
- Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Gweithio hybrid
- Polisi absenoldeb teuluol
**Y Rôl**
Fel Rheolwr Prosiect, byddwch yn cefnogi diffinio, cynllunio a gweithredu prosiectau ar draws y Tîm Ymchwil, Data ac Arloesi.
Byddwch yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau prosiect, ac mae ein prosiectau yn cynnwys gweithio gydag arweinwyr ac ymarferwyr gofal cymdeithasol, a chyflenwyr allanol.
Gan ddefnyddio'ch gwybodaeth a'ch profiad cryf mewn rheoli prosiectau, byddwch yn meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol ac yn cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol.
Byddwch yn cyflwyno prosiectau ac yn datblygu offer ac adnoddau sy'n cefnogi ein gwaith i'r safonau uchaf, gan wreiddio gwybodaeth arbenigol ac arbenigedd yn ein cynnyrch a'n gwasanaethau.
**Amdanoch Chi**
I gael eich ystyried fel Rheolwr Prosiect, bydd angen y canlynol arnoch:
- Profiad o weithio mewn rôl cyflawni prosiect
- Profiad o allbynnau prosiect o ansawdd uchel
- Profiad o ddadansoddi a chyflwyno data
- Profiad o reoli staff a chadeirio grwpiau rheoli
- Gwybodaeth am egwyddorion, offer a methodolegau rheoli prosiect
- Dealltwriaeth o wasanaethau cymdeithasol a pholisïau gofal Cymru a sut mae gofal yn cael ei drefnu a'i ariannu
- Y gallu i gyfleu gwybodaeth gymhleth yn gryno ac yn ddifyr
- Gradd neu lefel dda o addysg a gefnogir gan brofiad sylweddol
Byddai profiad uniongyrchol o ofal cymdeithasol, naill ai trwy ddefnyddio gofal a chymorth, darparu gofal di-dâl, cyflogaeth neu wirfoddoli o fudd i'ch cais, yn ogystal â phrofiad o ddefnyddio methodolegau rheoli prosiect Agile. Byddai'r gallu i ddarllen, ysgrifennua siarad Cymraeg hefyd yn fanteisiol.
Rydym yn annog ceisiadau gan bobl sy'n chwilio am gyfleoedd rhan-amser a rhannu swydd.
Dyddiad cau: hanner nos 4/9/22
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Rheolwr Cymorth Prosiect, Rheolwr Prosiect Agile, Arweinydd Prosiect, Rheolwr Rhaglen, neu Reolwr Gweithrediadau.
Felly, os ydych chi'n chwilio am rôl werth chweil fel Rheolwr Prosiect, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
**Project Manager**
Cardiff/St Asaph (hybrid working)
**About Us**
At Social Care Wales, we provide national leadership and expertise in social care and early years in Wales.
Our vision is to make a positive difference to care and support for children, adults and their families and carers.
To do this, we lead on developing and regulating the social care workforce, service improvement, data and research to improve care.
We are now looking for a Project Manager to join our team and help implement key projects and programmes.
**The Benefits**:
- Salary of £41,122 - £46,194 per annum
- 28 days’ holiday plus Bank Holidays (increasing with length of service)
- Extra days off between Christmas and New Year
- Local government pension scheme
- Flexi work policy
- Hybrid working
- Family leave policy
**The Role**
As a Project Manager, you will support the definition, planning and implementation of projects across the Research, Data and Innovation Team.
You will be involved in a wide range of project activities, and our projects involve working with social care leaders and practitioners, and external suppliers.
Using your strong knowledge and experience in project management, you will build effective working relationships and communicate clearly and effectively.
You will deliver projects and develop tools and resources that support our work to the highest standards, embedding specialist knowledge and expertise into our products and services.
**About You**
To be considered as a Project Manager, you will need:
- Experience of working in a project delivery role
- Experience of high-quality project outputs
- Experience of data analysis and presentation
- Experience of managing staff and chairing managing groups
- Knowledge of project management principles, tools and methodologies
- Understanding of Welsh social service and care policies and how care is organised and funded
- The ability to communicate complex information succinctly and engagingly
- A degree or a good level of education supported by substantial experience
Closing date: midnight 4/9/22
Other organisations may call this role Project Support Manager, Agile Project Manager, Project Lead, Programme Manager, or Operations Manager.
-
Rheolwr Prosiect
1 day ago
Cardiff, Cardiff, United Kingdom Gofal Cymdeithasol Cymru Social Care Wales Full timeRheolwr ProsiectCaerdydd neu Landudno (gweithio hybrid)Amdanom NiMae Gofal Cymdeithasol Cymru'n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a'u teuluoedd a'u gofalwyr.I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a...
-
Rheolwr Prosiect
3 days ago
Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full timeRheolwr Prosiect Caerdydd neu Landudno (gweithio hybrid) Amdanom Ni Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn arwain ar...
-
Rheolwr Prosiect
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi Strategaeth Ddata a Fframwaith Cynllunio a Pherfformiad Cyngor Caerdydd drwy gyflwyno cyfres o brosiectau gwybodaeth busnes. Nod y prosiectau hyn yw defnyddio data fel ased strategol ac ymgorffori penderfyniadau a arweinir gan dystiolaeth ar draws y sefydliad. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd...
-
Gweinyddwr Prosiect
3 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time**SWYDD DDISGRIFIAD A MANYLEB PERSON** **SWYDD**:Gweinyddwr Prosiect** **LLEOLIAD**:TEL** **YN ATEBOL I’R**:Pennaeth TEL** **YN GYFRIFOL AM**:Gynnig gwasanaeth gweinyddol i’r Tîm TEL a phrosiectau eraill ar draws y coleg** **CYFLOG**:£19,979 - £21,399 y flwyddyn** **pro rata** **CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL** - Cynorthwyo Coleg Caerdydd a’r Fro...
-
Swyddog Prosiect
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Tîm Gwastraff Masnach Cyngor Caerdydd yn cynnig gwasanaethau casglu gwastraff cystadleuol o ansawdd uchel i fusnesau a sefydliadau lleol. Mae'r tîm yn cefnogi dros 3000 o gwsmeriaid drwy ddarparu gwastraff wedi'i drefnu neu ad hoc, gan gynnwys llogi sgipiau, clirio gwastraff swmpus a chasgliadau biniau a bagiau. **Am Y Swydd** Bydd...
-
Rheolwr Gweithredol
1 day ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn ymateb yn uniongyrchol i angen tai Caerdydd drwy weithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. Mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros £950 miliwn a...
-
Rheolwr RHaglen
1 day ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae ein tîm Rhaglen MIS Addysg wedi ymrwymo i lywio trawsnewid digidol ar lefel strategol ar draws y Gyfarwyddiaeth Addysg, gan gefnogi blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor. Ein nod yw gwella gwasanaethau drwy wella systemau rheoli gwybodaeth a galluoedd digidol, gan sicrhau bod allbynnau addysg yn cael eu darparu’n effeithlon. Mae'r...
-
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig ymuno â'r Tîm Cyflawni Partneriaethau i gynorthwyo nifer o brosiectau gan gynnwys y Rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin. Mae'r gronfa hon yn rhan o agenda Codi'r Gwastad Llywodraeth San Steffan i hybu cynhyrchiant, swyddi a safonau byw, adfer ymdeimlad gymuned, balchder lleol a pherthyn a...
-
Rheolwr Cyflawni
1 day ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro ardal gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd am Reolwr Cyflawni cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm cyflenwi sy'n cynnwys Rheolwyr Prosiect, Syrfewyr Meintiau a thîm cynnal a chadw DLO. Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am...
-
Prif Beiriannydd
3 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Brif Beiriannydd weithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Chyflenwi, gan ddarparu cefnogaeth i'r arweinydd tîm drwy arwain a chefnogi’r adran wrth ddarparu amrywiaeth o brosiectau seilwaith ledled Caerdydd.** **Am Y Swydd** Mae Contractau, Dylunio a Chyflenwi yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac maen nhw'n...